Datblygiad Corfforol Ieuenctid
Mae'r Grŵp Ymchwil Datblygiad Corfforol Ieuenctid yn cynnwys ymchwilwyr, hyfforddwyr a myfyrwyr ôl-raddedig sy'n adnabyddus yn fyd-eang, ac sydd, gyda'i gilydd, yn cynhyrchu ymchwil flaengar i ddatblygiad athletaidd hirdymor plant a phobl ifanc yn eu harddegau. Mae enw da'r grŵp wedi cael ei gydnabod ar sawl achlysur, ac mae dau aelod o'r grŵp yn awduron ar ddatganiad safbwynt datblygiad athletaidd hirdymor y Gymdeithas Cryfder a Chyflyru Genedlaethol, y cyntaf o'i math yn y byd. Mae'r grŵp ymchwil yn gweithio ar y cyd â'r Ganolfan Datblygiad Corfforol Ieuenctid, sy'n cynnig darpariaeth cryfhau a chyflyru ar ôl ysgol i athletwyr ifanc, er mwyn cynhyrchu ymchwil sy'n cael dylanwad pellgyrhaeddol. Yn ogystal â bod o fantais uniongyrchol i'r athletwyr ifanc yn y rhaglen ar ôl ysgol, mae gan ymchwil y grŵp gyrhaeddiad llawer ehangach, a chaiff ei ddefnyddio i helpu i lunio rhaglenni addysg hyfforddi ar gyfer sefydliadau chwaraeon proffesiynol a chyrff llywodraethu cenedlaethol, megis y Premier League, UK Coaching, a Choleg Meddygaeth Chwaraeon America.
Meysydd Ymchwil / Arloesi
Ffitrwydd Corfforol
Un o brif feysydd ymchwil y Grŵp Ymchwil Datblygiad Corfforol Ieuenctid yw archwilio'r rhyngweithio rhwng tyfu, aeddfedu a hyfforddi ar ymatebrwydd i ffurfiau amrywiol ar hyfforddi mewn plant a phobl ifanc yn eu harddegau. Mae gwaith cyfunol y grŵp yn ceisio archwilio natur yr addasu sy'n digwydd mewn pobl ifanc ar wahanol gamau o aeddfedrwydd, pan maent yn ymwneud â hyfforddiant niwrogyhyrol gan gynnwys dulliau hyfforddi sgiliau echddygol, cryfder, pŵer a chyflymder. Yn seiliedig ar ymchwil gyfredol (gan gynnwys canfyddiadau o astudiaethau empirig y grŵp), cyhoeddwyd y model Datblygiad Corfforol Ieuenctid, sydd wedi cael ei ddefnyddio fel fframwaith hyfforddi gan sawl sefydliad chwaraeon, ac mae erbyn hyn i'w weld mewn llawer o raglenni addysg hyfforddi blaenllaw.
Lleihau Risg o Anaf
Er gwaethaf y manteision niferus y mae gweithgareddau cryfhau a chyflyru yn eu darparu i boblogaeth ifanc o ran cynyddu eu ffitrwydd, eu cyflymder a'u cryfder, mae'r gallu i leihau risg perthynol athletwr ifanc o gael anaf yn effeithiol iawn. O ganlyniad, drwy eu hymchwil mae'r grŵp wedi ceisio pennu ffactorau risg allweddol ar gyfer anafiadau'n ymwneud â chwaraeon, gan sefydlu teclynnau diagnostig allweddol, yn enwedig i ran isaf y goes, a gyda'r canfyddiadau hyn maent erbyn hyn yn y broses o gwblhau ymchwil a ariannwyd yn archwilio i sut gall ffactorau risg allweddol gael eu nodi a'u haddasu gyda hyfforddiant pwrpasol i'r unigolyn. Yn debyg iawn i ddatblygu ffitrwydd corfforol, mae ein hymchwil i leihau'r risg o gael anaf yn ymgorffori'r rhyngweithiad rhwng tyfu, aeddfedu a hyfforddi.
Iechyd a Lles
Mae'r Grŵp Ymchwil Datblygiad Corfforol Ieuenctid hefyd yn cynnal ymchwil i iechyd a lles ieuenctid. Mae ymchwil yn y maes astudio hwn wedi, ac yn parhau i, gynnwys gwaith yn archwilio gor-hyfforddi a gorgyrraedd anweithredol ac addasiadau ffisioleg cardiofasgwlar mewn ymateb i hyfforddiant. Yn ogystal, mae'r grŵp yn dod â phrosiect a ariannwyd gan KESS i ben, a oedd yn archwilio rôl ffactorau seicogymdeithasol fel hunanhyder a chymhelliant ar ddatblygiad cymhwysedd sgiliau echddygol a ffitrwydd corfforol mewn pobl ifanc sydd yn yr ysgol.
Aelodau'r Grŵp
|
|  | |
| Dr Rhodri Lloyd,
Darllenydd Cryfhau a Chyflyru Pediatrig. Cadeirydd y Grŵp Ymchwil Datblygiad Corfforol Ieuenctid | Athro Gwyddorau Ymarfer Corff Pediatrig Cymhwysol. Is-gadeirydd y Grŵp Ymchwil Datblygiad Corfforol Ieuenctid | |
| |  |  |
Dr Jason Pedley, Darlithydd Cryfhau a Chyflyru | Dr John Radnor, Darlithydd Cryfhau a Chyflyru | Prif Ddarlithydd Cryfhau a Chyflyru | Dr Zach Gould, Darlithydd Cryfhau a Chyflyru |
Myfyrwyr
Saldiam Barilias - Myfyriwr PhD
Ian Dobbs - Myfyriwr PhD
Nakul Kumar - Myfyriwr PhD
Dean Perkins - Myfyriwr PhD
Ben Pullen - Myfyriwr PhD
James Shaw - Myfyriwr PhD
Emma Williams - Myfyriwr PhD
Cydweithwyr
Yr Athro John Cronin,
Auckland University of Technology, SN
Yr Athro Avery Faigenbaum,
The College of New Jersey, UDA
Yr Athro Greg Haff,
Edith Cowan University, AUS
Yr Athro Greg Myer,
Cincinnati Children’s Hospital
Yr Athro Mark De Ste Croix,
University of Gloucestershire, y DU
Dr Paul Read,
Aspetar Orthopaedic and Sports Medicine Hospital
Dr Craig Harrison,
Auckland University of Technology, SN
Dr Michéal Cahill,
Athlete Training and Health, UDA
Enghreifftiau o Gyllid
Knowledge Economy Skills Scholarships (KESS2), £72,000. Dylanwad tyfu, aeddfedu a hyfforddi ar nodweddion swing golffwyr ifanc. Partneriaid cydweithredol Golff Cymru.
Knowledge Economy Skills Scholarships (KESS2), £72,000. Ymyriad addysg gorfforol i wella cymhwysedd echddygol
athletaidd plant yn yr ysgol uwchradd. Partneriaid cydweithredol Golff Cymru.
National Strength and Conditioning Association International Collaboration Grant $49,060. Effeithiau hyfforddiant niwrogyhyrol wedi'i dargedu ar
ffactorau risg anafiadau'r ligament croesffurf blaen mewn athletwyr benywaidd
sy'n blant. Partneriaid cydweithredol Cincinnati Children’s Hospital
Grant Cydweithredol Bach Erasmus+ €60,000. Prosiect PARENT. Partneriaid Cydweithredol: Prifysgol Abertawe a nifer o bartneriaid Ewropeaidd.