Gwyddor Gymhwysol Anafiadau
Mae cynnydd byd-eang mewn anafiadau yn bygwth manteision eang chwaraeon, ymarfer corff a gweithgaredd corfforol. Mae mewnwelediadau gwyddonol i natur gymhleth ac amlochrog anafiadau yn hanfodol er mwyn cynorthwyo i liniaru'r effeithiau niweidiol trwy ddatblygu'r strategaethau atal ac adfer mwyaf effeithiol.
Mae Grŵp Ymchwil Gwyddor Gymhwysol Anafiadau yn ymdrin â themâu trawsbynciol sy'n gysylltiedig â rhagfynegi anafiadau, pryd maen nhw’n digwydd, ymateb iddyn nhw ac adsefydlu gan ddefnyddio rhaglen arloesol o ymchwil amlddisgyblaethol a rhyngddisgyblaethol. Cenhadaeth gyffredinol y grŵp yw cyfuno rhagoriaeth ymchwil mewn disgyblaeth unigol o fewn disgyblaethau gan gynnwys biomecaneg, seicoleg, seicoffisioleg a meddygaeth chwaraeon i wella ansawdd ac effaith ymchwil gwyddoniaeth gymhwysol anafiadau. Ymdrinnir â chenhadaeth y grŵp trwy bedwar prif faes ymchwil.
Meysydd Ymchwil / Arloesi
Rhagfynegi pryd y bydd anafiadau yn digwydd
Er bod straen corfforol a meddyliol yn rhan annatod o hwyluso addasiadau cadarnhaol i hyfforddiant ar gyfer gwell perfformiad mewn chwaraeon, gall lefelau gormodol o straen fod yn niweidiol o ran cynyddu'r risg o anaf, a’r tebygrwydd y byddant yn digwydd. Mae anaf a straen yn amlochrog eu natur ̶ nodwedd sydd wedi rhwystro ein dealltwriaeth o fecanweithiau ac amlder achosion o anafiadau. Mae'r ymchwil hon yn defnyddio dulliau amlddisgyblaethol a rhyngddisgyblaethol arloesol sy'n tynnu ar safbwyntiau o fyd seicoleg, biomecaneg a seicoffisioleg i archwilio’r rhyngweithio cymhleth rhwng ffactorau sy'n gysylltiedig â straen wrth ragfynegi anafiadau mewn chwaraeon a’u hamlder.
Themâu Allweddol: Rhyngweithiadau o ran straen mewn achosion o anafiadau i athletwyr; straen a pherfformiad mewn chwaraeon.
Ymateb i anaf, a gwella ohono
Mae canlyniadau anafiadau fel arfer yn gysylltiedig â ffactorau ffisiolegol ac anatomegol. Ond mae corff cynyddol o ymchwil empirig wedi awgrymu y gallai ffactorau seicolegol a seicogymdeithasol gyfrannu at, hwyluso ac atal gwella o anaf. Mae'r ymchwil hon yn archwilio'r ffactorau seicolegol amlochrog sy'n gysylltiedig ag ymatebion athletwyr i anaf, a gwella ohonyn nhw. Archwilir ffactorau fel cefnogaeth gymdeithasol athletwyr, effeithiolrwydd triniaeth a chadw ati, a hyder.
Themâu Allweddol: Ffactorau seicolegol a seicogymdeithasol; Cefnogaeth gymdeithasol ac emosiynol; Effeithlonrwydd gwella a chadw at driniaeth.
Adsefydlu ar ôl anafiadau a dychwelyd i chwaraeon
Mae datblygu strategaethau adsefydlu effeithiol yn sylfaenol wrth hwyluso dychwelyd at chwaraeon yn amserol a diogel. Mae'r ymchwil hon yn defnyddio safbwyntiau o fyd seicoleg, biomecaneg, ffisioleg a niwromecaneg i archwilio a llywio datblygiad y strategaethau hyn. O fewn cam cyntaf y gwaith o adsefydlu ar ôl anafiadau, archwilir llwytho mecanyddol yr aelodau isaf (biomecaneg), effeithlonrwydd symud (effeithiau ffisiolegol) a chanlyniadau perfformiad mewn ymateb i weithredu strategaethau ailhyfforddi sy'n rhoi pwyslais ar ddamcaniaethau canolbwyntio sylw a hunan-fodelu (seicolegol). Mae ymchwil arall yn defnyddio persbectif niwromecanyddol i archwilio rhyngweithiadau rhwng ystum a symud sy'n hwyluso’r gwaith o ddylunio profion gweithredol ac yn helpu i lywio datblygiad strategaethau dychwelyd i chwaraeon.
Themâu Allweddol: Ailhyfforddi rhedeg; Dysgu ysgogol ar gyfer adsefydlu; Anaf ACL a dychwelyd at chwaraeon.
Meddygaeth anafiadau chwaraeon a’r rhyngwyneb rhwng perfformiad ac ymarferydd
Defnyddir safbwyntiau o fyd meddygaeth chwaraeon, biomecaneg, seicoleg, gwyddor data ac epidemioleg i lywio'r broses o drosglwyddo mewnwelediadau gwyddonol i'r rhyngwyneb rhwng perfformiad ac ymarferydd. Mae'r ymchwil hon yn hanfodol wrth ddarparu strategaethau meddygol sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan ganiatáu i broblemau anafiadau sy’n flaenoriaeth gael eu nodi ac i dueddiadau o ran anafiadau gael eu hasesu. Mae aelodau'r grŵp yn gweithio'n agos gyda Chyrff Llywodraethu Cenedlaethol mewn chwaraeon i ymgymryd â phrosiectau epidemioleg anafiadau ac i roi cyngor pwrpasol ar atal a rheoli anafiadau.
Themâu Allweddol: Dadansoddiad ystadegol o batrymau anafiadau; Llwytho a risg anafiadau; Effeithiau yn y meddwl a rhyngbersonol mewn perfformiad chwaraeon.
Aelodau'r Grŵp
Myfyrwyr:
Leah Bitchell - Aelod Cysylltiol Academaidd (PhD)
Lloyd Griffin - Aelod Cysylltiol Academaidd (PhD)
Kirsty Ledingham - Aelod Cysylltiol Academaidd (PhD)
Molly McCarthy-Ryan - Aelod Cysylltiol Academaidd (PhD)
Ben Robson - Aelod Cysylltiol Academaidd (PhD)
Tom Williams - Aelod Cysylltiol Academaidd (PhD)
Cydweithwyr
Mewnol
Yr Athro Gareth Irwin (Prifysgol Metropolitan Caerdydd, y DU)
Dr Rhodri Lloyd (Prifysgol Metropolitan Caerdydd, y DU)
Allanol
Dr Kelly Ashford (Canada)
Dr Adam Bruton (Roehampton University, y DU)
Dr Ceri Diss (Roehampton University, y DU)
Mr Harry Fisher (y DU)
Mr Prav Mathema (y DU)
Yr Athro Richard Mullen (Prifysgol De Cymru, y DU)
Dr Max Paquette (University of Memphis, UDA)
Dr Vicky Stiles (Exeter University, y DU)
Dr Ross Wadey (St Mary’s University, y DU)
Dr Maximilian Wdowski (Coventry University, y DU)
Dr Rich Willy (University of Montana, UDA)
Dr Hannah Wyatt (Auckland University of Technology, SN, Ionawr 2020)
Enghreifftiau o Gyllid
British Association of Sport and Exercise Sciences (BASES) Early Career Researcher and Practitioner Award
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, gwobr ymchwil ac arloesi (2016-2019):
An interdisciplinary stress-based examination of injury occurrence and response in competitive sport
Economic and Social Research Council (ESRC) Wales Doctoral Training Partnership PhD Studentship (2019-):
The relationship between social support, capitalization support, treatment efficacy and adherence during the rehabilitation phase of injury
Knowledge Economy Skills Scholarships (KESS2):
Developing lower limb biomechanical injury risk metrics to inform return-to-play using wearable technology
Knowledge Economy Skills Scholarships (KESS2):
Player-specific injury risk and the impact on performance in male professional rugby union
MRC Proximity to Discover:
Assessing the validity and feasibility of objectively quantifying training characteristics associated with the development of running related injuries
Undeb Rygbi Cymru:
Injury prevention in elite rugby union
Rygbi'r Byd:
The impact of concussion on subsequent injury risk in Rugby Union