Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon
Y grŵp Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon yw'r grŵp mwyaf o'i fath yn y DU gan gynnwys saith aelod o staff academaidd, myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig ac aelodau staff sy'n darlithio mewn colegau partner. Mae'r ymchwil sy'n cael ei wneud yn cynnwys dadansoddi techneg, tactegau mewn chwaraeon, dadansoddi cyfradd gwaith, effeithiolrwydd cefnogaeth dadansoddi perfformiad yn ymarferol, dadansoddi perfformiad yng nghyd-destunau'r cyfryngau a beirniadu, momentwm mewn chwaraeon, materion mesur mewn perfformiad chwaraeon ac ymarfer proffesiynol mewn dadansoddi perfformiad chwaraeon. Mae'r grŵp yn cynnal yr International Journal of Sports Performance Analysis sef yr unig gyfnodolyn ymchwil yn y maes.
Meysydd Ymchwil / Arloesi
Dadansoddi Gemau
Mae yna gangen o'r ymchwil hon sy'n dadansoddi agweddau technegol a thactegol gemau unigol a thîm sy'n gysylltiedig â pherfformiad llwyddiannus. Mae cangen arall o'r ymchwil hon sy'n dadansoddi sut mae proses a chanlyniad perfformiad chwaraeon yn cael eu dylanwadu gan rôl leoliadol, lefel y chwarae, newidiadau mewn rheolau yn ogystal â newidynnau sefyllfa fel effeithiau lleoliad, arddull ac ansawdd y gwrthwynebiad, effeithiau llinell sgôr a rhagoriaeth rifiadol.
Gofynion Corfforol
Mae'r ymchwil hon yn ymwneud â gofynion corfforol perfformiad chwaraeon a risg anaf. Mae natur ysbeidiol gweithgaredd dwyster uchel mewn chwaraeon gêm yn help i ddeall y systemau ynni a ddefnyddir. Mae dadansoddiad manwl o symudiad yn cynnwys newidiadau cyfeiriad, cyflymiadau, arafiadau, neidiau, symud mewn llinell syth a symud ar ffurf bwa.
Gwyddor Data mewn Perfformiad Chwaraeon
Mae cyfeintiau mawr o ddata perfformiad chwaraeon yn cael eu dadansoddi gan ddefnyddio dulliau ystadegol traddodiadol, technegau modelu, dysgu peiriant a deallusrwydd artiffisial.
Ymwybyddiaeth Weledol a Gwneud Penderfyniadau
Mae'r ymchwil hon yn ymwneud â gallu perfformwyr i ymateb i giwiau gweledol, gan ddefnyddio strategaethau adnabod patrymau priodol. Mae'r ymchwil hefyd yn ymwneud â'r ffordd y mae perfformwyr yn symud mewn ymateb i giwiau gweledol.
Aelodau'r Grŵp
Cydweithwyr
Mae'r brifysgol yn derbyn tua £10,000 y flwyddyn am olygu'r International Journal of Performance Analysis in Sport (Taylor a Francis).
Dadansoddi a gwerthuso perfformiadau unigol mewn pêl-fasged, Ymchwil gydweithredol gyda Beijing Sports University.