Ymchwil ac Arloesi>Gwyddor Chwaraeon Cymhwysol>Seicoleg Chwaraeon a Pherfformiad

Seicoleg Chwaraeon a Pherfformiad

Mae ein gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar nifer o feysydd perfformiad amrywiol, gan gynnwys chwaraeon, y celfyddydau perfformio, a’r gwasanaethau brys. Mae’r Grŵp Ymchwil Chwaraeon a Pherfformiad yn archwilio’r ffactorau seicolegol sy’n sylfaen i ragoriaeth ym maes perfformiad a phobl yn gweithredu hyd eithaf eu gallu. Mae hyn yn cynnwys:

• Canolbwyntio ar ffactorau personol, amgylcheddol a sefyllfaoedd.
• Defnyddio dulliau amlddisgyblaethol a rhyngddisgyblaethol i ateb cwestiynau ymchwil newydd.
• Ymrwymiad i waith ymchwil o ansawdd uchel sy’n cael effaith.
• Datblygu cysylltedd cadarn â rhanddeiliaid a chanolbwyntio ar ymarfer.

 

Meysydd Ymchwil / Arloesi

Perfformiad ym maes chwaraeon

Er mwyn perfformio hyd eithaf eu gallu a sicrhau rhagoriaeth ym maes perfformiad, mae perfformwyr yn wynebu llawer o ofynion a phwysau gydol eu gyrfaoedd. Mae’r gwaith ymchwil hwn yn archwilio ffactorau seicolegol allweddol sy’n dylanwadu ar sut mae perfformwyr yn ymdopi ac yn ffynnu ym maes chwaraeon perfformiad uchel, gan gynnwys swyddogaeth cadernid meddwl, y mecanweithiau sy’n sylfaen i gredu, a sut mae rheoleiddio emosiynau’r unigolyn a phobl eraill yn gallu hwyluso gweithredu fel unigolyn ac fel aelod o dîm. Mae gennym gysylltiadau agos â rhanddeiliaid allweddol sy’n hwyluso ein dull cydweithredol o ymgymryd â gwaith ymchwil sy’n cael effaith fawr.

Themâu Allweddol: Cadernid Meddwl, Effeithiolrwydd a Hyder, Emosiynau.

 

Llesiant a Pherfformiad Galwedigaethol

Rydym yn gweithio’n agos gyda diwydiant a sefydliadau/meysydd eraill er mwyn archwilio newidynnau seico-gymdeithasol sy’n helpu i ddarogan perfformiad, llesiant a gweithredu sefydliadol. Hefyd, rydym yn archwilio effaith ymyraethau gweithgarwch corfforol a seico-gymdeithasol ar y canlynol: yr unigolyn; effeithiolrwydd perfformiad; a gweithredu. Hyd yn hyn, rydym wedi archwilio’r materion hyn gyda phartneriaid diwydiannol ym maes plismona’r DU, y sector addysg uwch a’r celfyddydau perfformio.

Themâu Allweddol: Straen yn y gweithle, Llesiant, Perfformiad.         
     

Ymarfer proffesiynol

Rydym yn gweithio’n agos gyda Chyrff Llywodraethu Cenedlaethol chwaraeon, darparwyr cymorth gwyddor chwaraeon, ac asiantaethau gofal iechyd er mwyn archwilio ffactorau sy’n effeithio ar ddarparu gwasanaethau a hunanofal ac effeithiolrwydd ymarferwyr. Mae’r gwaith ymchwil hwn yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn canolbwyntio ar gleientiaid ac ymarferwyr er mwyn gwneud argymhellion ar gyfer addysgwyr, sefydliadau proffesiynol a chyrff rheoleiddio fel y gallant wella datblygiad, perfformiad a llesiant.

Themâu Allweddol: Datblygu ymarferwyr, Ymarfer cymhwysol, Gwella ar ôl anaf, Cymorth cymdeithasol.               


Aelodau'r Grŵp

Artho Seicoleg Chwaraeon
Darllenydd mewn Seicoleg Chwaraeon
Dr Tjerk Moll,
Uwch Ddarlithydd mewn Seicoleg Chwaraeon (Cyd-Arweinydd Grŵp)
Uwch Ddarlithydd mewn Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff
Dr Mikel Mellick
Uwch Ddarlithydd mewn Seicoleg Chwaraeon Cymhwysol

Dr David Wasley,
Uwch Ddarlithydd mewn Seicoleg Iechyd ac Ymarfer Corff (Cyd-Arweinydd Grŵp)
              

 

Uwch Ddarlithydd mewn Gwyddorau Hyfforddi

  

Myfyrwyr

Hannah Brooks - Cydymaith Academaidd (PhD)
Lloyd Griffin - Cydymaith Academaidd (PhD)
Kirsty Ledingham - Cydymaith Academaidd (PhD)
Helen Oliver - Cydymaith Academaidd (PhD)
Simone Willis - Cydymaith Academaidd (PhD)
Bradley Woolridge - Cydymaith Academaidd (PhD)

Cydweithwyr

Dr Richard Mullen (Brunel University London)
Dr Sam Thrower (University of Roehampton)
Dr Pete Lindsay (Mindflick UK)
Dr Tim Pitt (Mindflick UK)
Dr Kate Hays (English Institute of Sport)
Dr Matt Barlow (Prifysgol Bangor)
Yr Athro Rob Copeland (Sheffield Hallam University)

Enghreifftiau o Gyllid

‘Nudging’ sport psychologists to change: Developing a framework of single session problem-solving within elite sport (prosiect tua £40,000 gan English Institute of Sport). Cwblhawyd.

The triathlon 'Mindset': A prospective study (prosiect ymchwil gwerth tua £50,000 gan British Triathlon). Ar waith.

Health and wellbeing in UK policing (prosiect gwerth tua £245,000 gan y coleg plismona a heddluoedd unigol). Ar waith.

Dyfarniad Ysgoloriaeth Ddoethurol yr Is-Ganghellor: Datblygu fframwaith seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer gwella iechyd meddwl a llesiant myfyrwyr AU. Ar waith.

Gwella ar ôl anaf a chymorth cymdeithasol ffisiotherapyddion (Ysgoloriaeth ymchwil gwerth tua £60,000 a ariennir gan Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru ESRC). Ar waith.