Chwaraeon Perfformiad Uchel
Mae’r Grŵp Chwaraeon Perfformiad Uchel yn cynnwys amrywiaeth eclectig o academyddion a phrosiectau sy’n canolbwyntio’n bennaf ar waith rhyngddisgyblaethol. Yn y cyswllt hwn, mae’n ymdrin â llawer o faterion ym meysydd ymchwil gyfredol a chwaraeon ymarferol. Cenhadaeth ddiffiniol y grŵp yw datblygu ymgysylltiad amlddisgyblaethol a rhyngddisgyblaethol ag amrywiaeth o faterion presennol ym maes chwaraeon perfformiad uchel, gan geisio datblygu atebion iddynt. Mae dwy thema ymchwil allweddol yn amlwg yng ngwaith y Grŵp:
Meysydd Ymchwil / Arloesi
Athletwyr a hyfforddwyr perfformiad uchel
Prif ffocws y thema hon yw archwilio ac ymchwilio i berfformiad uchel ym maes chwaraeon o safbwyntiau amrywiol. O ganlyniad, mae dull amlddisgyblaethol yn cael ei fabwysiadu i asesu ac ystyried camau gweithredu, ymddygiad a pherfformiad(au) unigolion ym maes chwaraeon o nifer o safbwyntiau. Mae’r rhain yn cynnwys safbwyntiau ffisiolegol, seicolegol a biomecanyddol, yn ogystal â rheoli, addysgeg a dadansoddi perfformiad.
Dull rhyngddisgyblaethol
Gan fod y Grŵp yn cynnwys amrywiaeth eclectig o ysgolheigion, un o’r nodweddion sy’n ei ddiffinio yw ei natur ryngddisgyblaethol. Mae prosiectau’r Grŵp yn cael eu datblygu ar draws ffiniau, ac fel arfer maent yn ymdrin â phroblemau mewn nifer o feysydd. Ar hyn o bryd mae’r Grŵp wrthi’n sefydlu nifer o brosiectau sy’n darparu cymorth ymchwil a gwyddonol i athletwyr a thimau ysgoloriaeth yma ym Met Caerdydd mewn cydweithrediad â Chwaraeon Met Caerdydd.
Aelodau'r Grŵp
|
| | |
| Dr Ian Bezodis,
Darllenydd mewn Biomecaneg Chwaraeon (Arweinydd Grŵp) | Athro Biostatistics Cymhwysol | |
|
| | |
Andy Kelly,
Darlithydd | Lucy Holmes,
Uwch Ddarlithydd mewn Dadansoddi Perfformiad |
Owen Rodgers, Dirprwy Gyfarwyddwr Chwaraeon Met Caerdydd | Athro Seicoleg Chwaraeon |
| | | |
Dr Paul Smith, Uwch Ddarlithydd mewn Ffisioleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff | Lucy Witt, Uwch Ddarlithydd | Sophie Burton, Darlithydd mewn Biomechaneg Chwaraeon ac Ymarfer Corff | Uwch Ddarlithydd mewn Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff |
| | | |
Sarah Wagstaff, Hyfforddwr Pêl-fasged Arweiniol | Yr Athro Jon Oliver, Athro Gwyddoniaeth Gymhwysol Ymarfer Paediatreg | | |
Cydweithwyr
Chwaraeon Met Caerdydd