Skip to main content
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd>Cyrsiau>Chwaraeon, Addysg Gorfforol ac Iechyd - Gradd BSc (Anrh)

Chwaraeon, Addysg Gorfforol ac Iechyd - Gradd BSc (Anrh)

Blwyddyn Mynediad

Mae'r radd BSc (Anrh) Chwaraeon, Addysg Gorfforol ac Iechyd ym Met Caerdydd yn darparu cwrs ymarferol sy'n canolbwyntio ar ddatblygiadau yn y sector nawr ac yn y dyfodol.

Mae'r radd mewn Chwaraeon, Addysg Gorfforol ac Iechyd yn gwerthfawrogi ac yn herio myfyrwyr mewn amgylchedd dysgu cefnogol ac yn darparu cyfleoedd i gael mynediad, deall a chymhwyso ymchwil i wella arfer arloesol ac i ddeall rôl addysgwyr corfforol yn y dyfodol.

Mae'r radd Chwaraeon ac Addysg Gorfforol ac Iechyd yn darparu mynediad at gwricwlwm cyfoes sy'n seiliedig ar ymchwil sy'n cydnabod cyfraniad chwaraeon o fewn addysg gorfforol wrth ddatblygu iechyd a lles gydol oes trwy weithgaredd.

Byddwch yn gallu cymhwyso eich gwybodaeth ddamcaniaethol gan ddefnyddio ein cyfleusterau ar y safle, neu drwy ddysgu yn y gwaith; boed hynny ar leoliad neu drwy ein menter Campws Agored.

Mae'r radd yn cael ei chyflwyno a'i rheoli gan academyddion sydd â chyfoeth o ymchwil, arloesi a phrofiad cymhwysol. Fe'i cynlluniwyd mewn ffordd ysbrydoledig a blaengar, lle mae'r cwricwlwm yn canolbwyntio ac yn fwy arbenigol ar draws y tair blynedd o astudio.

Ochr yn ochr â'r radd byddwch yn cael cyfle i gwblhau cymwysterau a gydnabyddir yn broffesiynol ac ymgysylltu â phrofiadau dysgu amrywiol pellach, sydd i gyd yn gwella ac yn cyfoethogi'r amser sydd gennych gyda ni ym Met Caerdydd.

Blwyddyn Sylfaen

Gellir astudio’r radd hon fel gradd amser llawn tair blynedd neu radd pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn o astudio sylfaenol. Bwriad ein blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder​.

​Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i​:

  1. Myfyrwyr nad ydynt wedi cael y nifer gofynnol o bwyntiau Safon Uwch (neu gyfwerth) i ddechrau ar flwyddyn gyntaf y rhaglen radd.
  2. Myfyrwyr hŷn sydd wedi bod allan o’r system addysg ffurfiol ers peth amser.


Darganfyddwch fwy am y flwyddyn sylfaen​​.

Nodwch: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r 4 blynedd gan gynnwys sylfaen. Cyfeiriwch at Wybodaeth Gwrs Allweddol ar waelod y dudalen hon​.

​​Cynnwys y Cwrs

Blwyddyn Un

Byddwch yn astudio chwe modiwl gorfodol a fydd yn sylfaen i'ch llwybr. Bydd y modiwlau hyn yn darparu’r cyd-destun a’r cwmpas ar gyfer deall agweddau sylfaenol addysg gorfforol, hyfforddi, chwaraeon ac iechyd ar wahanol grwpiau poblogaeth. Mae hyn yn cynnwys dealltwriaeth o ddamcaniaeth ar waith o ddulliau addysgegol, damcaniaethau dysgu a chymdeithasol, a materion cyfoes ymhlith cymunedau chwaraeon ac addysg. Yn ogystal, byddwch yn profi sylfaen eang o wybodaeth yn ymwneud â disgyblaethau seicoleg, ffisioleg, biomecaneg, a'r broses ymchwil. Yn olaf, cewch gyfle i ddatblygu eich portffolio trwy ddilyn hyfforddiant galwedigaethol cydnabyddedig a chymwysterau proffesiynol perthnasol.

Modiwlau craidd:

  • Addysg Gorfforol, Hyfforddi Chwaraeon ac Addysgeg*
  • Cyflwyno Hyfforddi ac Addysgu fel Gweithgareddau Cymdeithasol a Pherthnasol
  • Materion mewn Chwaraeon, Cymdeithas ac Addysg*
  • Ymchwil ac Ysgolheictod*
  • Addysgeg Chwaraeon Gymhwysol
  • Sylfeini Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff


Blwyddyn Dau

Byddwch yn cwblhau dau fodiwl gorfodol sy'n hanfodol i ddatblygu sgiliau addysgeg craidd sy'n allweddol i'ch datblygiad academaidd a phersonol. Bydd y rhain yn eich galluogi i ddatblygu'r wybodaeth ddamcaniaethol mewn perthynas ag addysgu o fewn addysg gorfforol, iechyd a lles, tra'n cysylltu theori ag ymarfer trwy ymgysylltu â chyfleoedd lleoliad oddi ar y campws a gweithio gyda phlant ar y campws. Yn ogystal, bydd gennych ddau fodiwl gorfodol arall sy'n anelu at ddatblygu gwell dealltwriaeth o'r broses ymchwil, a datblygu sgiliau a rhinweddau entrepreneuraidd o fewn y diwydiannau sy'n gysylltiedig â SPEH. Byddwch yn dewis dau fodiwl dewisol i ddatblygu llwybr gradd sy'n bersonol ac yn benodol i'ch anghenion a'ch diddordebau.

Modiwlau craidd:

  • Addysg Gorfforol, Iechyd a Lles*
  • Addysg Gorfforol ac Iechyd yn Ymarferol*
  • Dylunio a Phractis Ymchwil*
  • Addysgeg Chwaraeon Gymhwysol


Modiwlau opsiwn:

  • Datblygiad Cymhwysol o Iechyd a Lles Corfforol Plant
  • Agweddau Amlddisgyblaethol at Chwaraeon ac Iechyd
  • Egwyddorion Datblygu Chwaraeon ar Waith​
  • Cymdeithaseg Chwaraeon, Ymarfer Corff ac Iechyd
  • Moeseg Chwaraeon*
  • Dadansoddiad Perfformiad Chwaraeon


Blwyddyn Tri

Blaenoriaeth allweddol yw eich datblygu chi fel dysgwr annibynnol, ysgogol a all gymryd rheolaeth o'ch dysgu a sicrhau bod hyn yn cyd-fynd â'ch camau cyntaf i gyflogaeth raddedig neu astudiaeth bellach. Er enghraifft, byddwch yn cwblhau prosiect mawr a all gymryd gwahanol gyfeiriadau yn eich dewis faes astudio yn seiliedig ar eich diddordebau ac anghenion unigol. Yn ogystal, bydd gennych un modiwl gorfodol sy'n benodol i'r rhaglen sy'n archwilio dealltwriaeth, cymhwysiad ac adlewyrchiad o addysgu a dysgu mewn addysg gorfforol, chwaraeon, iechyd a lles. Hefyd, byddwch yn gallu ymgymryd â lleoliad dysgu seiliedig ar waith, a dewis un modiwl dewisol ychwanegol i ganiatáu dewis llwybr astudio personol a gwella cyflogadwyedd.​

Modiwlau craidd:

  • Addysg Gorfforol Uwch, Iechyd a Lles*​
  • Prosiect Terfynol*


Modiwlau opsiwn:

  • Lleoliad Diwydiant*
  • Astudiaeth Annibynnol mewn Gweithgaredd Corfforol a Chwaraeon
  • Hyfforddiant Chwaraeon Cymhwysol a phroblemau Dadansoddi Perfformiad
  • Materion Cyfoes wrth Ddatblygu Polisi
  • Cymdeithaseg Chwaraeon a Diwylliannau Corfforol
  • Materion Moesegol mewn Chwaraeon


*Mae'r radd Chwaraeon, Addysg Gorfforol ac Iechyd yn caniatáu i chi gymryd modiwlau yma trwy gyfrwng y Gymraeg.

Dysgu ac Addysgu

Mae dulliau dysgu, addysgu ac asesu effeithiol yn sail i nodau addysgol a chanlyniadau dysgu pob un o'n rhaglenni a'n modiwlau. Gall dulliau dysgu ac addysgu gynnwys darlithoedd, seminarau, gweithdai, sesiynau tiwtorial a sesiynau ymarferol. Mae ein Hamgylchedd Dysgu Rhithwir hefyd yn agwedd annatod o'r pecyn dysgu sy'n cefnogi anghenion ein myfyrwyr.

Mae darlithoedd arweiniol yn cyflwyno pynciau a chysyniadau allweddol, tra bod seminarau, tiwtorialau, gweithdai a sesiynau ymarferol yn canolbwyntio ar gymhwyso cysyniadau allweddol gyda'r nod o wella profiad ac ymgysylltiad myfyrwyr. Byddwch hefyd yn cwrdd â thiwtoriaid ar sail un i un. Fel ysgol, rydyn ni'n gweithio'n galed i ddarparu cyfleoedd dysgu myfyriwr-ganolog sy'n darparu amgylchedd dysgu hyblyg o ansawdd uchel.

Mae dulliau dysgu ac addysgu yn pwysleisio ac yn hwyluso datblygiad eich rhesymu critigol, ac yn cymell integreiddio ymarfer a theori. Trwy gydol eich rhaglen, byddwch yn profi dysgu dan arweiniad tiwtor a dulliau dysgu hunan-gyfeiriedig, gan gynyddu annibyniaeth a myfyrio a'ch annog i ddatblygu agwedd gadarnhaol tuag at ddysgu gydol oes.

Mae ein dulliau addysgu a dysgu yn ymgorffori sgiliau 'EDGE' Met Caerdydd (Moesegol, Byd-eang, Digidol ac Entrepreneuraidd) a byddwch yn cael arweiniad da i arddangos y priodoleddau graddedig a ddisgwylir gennych mewn byd gwaith cynyddol gystadleuol. Ein nod ydy eich helpu chi i ddatblygu'n weithwyr proffesiynol myfyriol ac ysgolheigion critigol.

Yn eich rhaglen chwaraeon ym Met Caerdydd, byddwch yn cael profiadau dysgu, o'ch cyfnod sefydlu hyd eich graddio, sy'n gydlynol ac yn datblygu'ch hunaniaeth yn eich rhaglen astudio.

Mae nodweddion penodol y profiad dysgu ar Chwaraeon, Addysg Gorfforol ac Iechyd yn cynnwys:

  • Ymchwilwyr, athrawon a hyfforddwyr o fri rhyngwladol sy'n rhan annatod o'r pecyn dysgu a gynigir i'n myfyrwyr.
  • Cyfleusterau o safon fyd-eang i gyfoethogi profiad dysgu myfyrwyr.
  • Mae pob agwedd ar Ddysgu ac Addysgu yn defnyddio’r llenyddiaeth ymchwil ddiweddaraf a’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (e.e., cymwysterau hyfforddi Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol).

Asesu

Mae'r strategaethau asesu ar gyfer pob modiwl yn amrywio i sicrhau bod y dull mwyaf priodol yn cael ei weithredu ar gyfer eich maes astudio. Mae dulliau asesu wedi'u cynllunio i wella'ch profiad dysgu ac i gydnabod eich bod wedi cyflawni'r canlyniadau dysgu sy'n gysylltiedig â phob modiwl. Mae asesu hefyd yn sicrhau eich bod wedi cyflawni'r safon sy'n ofynnol i symud ymlaen i'r cam nesaf neu i fod yn gymwys ar gyfer dyfarniad (fel y'i mynegir gan y FHEQ a'r CQFW). Mae asesiadau'n cefnogi'ch profiad dysgu trwy ddarparu cyfleoedd i chi gymryd rhan mewn asesiadau ffurfiannol a chrynodol i brofi'ch gwybodaeth, eich gallu, eich sgil a'ch dealltwriaeth gritigol. Asesir y modiwlau israddedig gan gyfuniad o fathau o asesu. Er enghraifft:

  • gwaith cwrs ysgrifenedig
  • cyflwyniadau poster
  • cyflwyniadau llafar
  • portffolios
  • arholiadau gyda llyfrau a rhai heb lyfrau
  • sgiliau ymarferol
  • gweithgareddau eraill a gynlluniwyd i asesu, datblygu a gwella sgiliau academaidd a chyflogadwyedd

Disgwylir i chi gwblhau prosiect terfynol fel rhan o'r asesiad o'ch gradd anrhydedd. Mae prosiectau terfynol yn ddarnau pwysig o waith a allai fod yn brosiect ymchwil, arloesi, ymgynghori neu gymunedol.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Mae 'egwyddorion EDGE' Met Caerdydd yn eich cefnogi i ffynnu yn y byd modern. Trwy gydol eich gradd byddwch yn profi ystod o gyfleoedd i ddatblygu eich cymwyseddau moesegol, digidol, byd-eang ac entrepreneuraidd trwy ddysgu yn seiliedig ar broblemau, astudiaethau achos diwydiant y byd go iawn, profiadau gwaith integredig ar y campws a chyfleoedd ar gyfer lleoliadau dysgu seiliedig ar waith oddi ar y campws. Byddwn yn sicrhau eich bod yn cael ystod o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy fel cyfathrebu, gwaith tîm ac arweinyddiaeth.

Yn ystod eich blwyddyn astudio gyntaf byddwch yn cael cyfle i ymgymryd â chymwysterau technegol mewn ystod o feysydd sy'n berthnasol i'r diwydiant gan gynnwys hyfforddi chwaraeon, hyfforddiant ymarfer corff a maes iechyd a diogelwch. Bydd y cyfleoedd hyn yn sicrhau bod gennych y cymwysterau a'r profiad priodol i wneud cais am un o'r nifer o gyfleoedd lleoliad gwaith a gynigir ar ac oddi ar y campws. Byddwn hefyd yn eich cefnogi i chwilio am gyfleoedd i weithio neu astudio dramor. Gall lleoliadau gwaith roi egwyddorion EDGE critigol i chi wrth gael swydd broffesiynol ar ôl graddio. Mae myfyrwyr sydd wedi graddio o’’r cwrs Chwaraeon, Addysg Gorfforol ac Iechyd wedi mynd ymlaen i weithio mewn gyrfaoedd o fewn a thu hwnt i'r cyd-destun chwaraeon ac addysgol.

Mae graddedigion diweddar o Chwaraeon, Addysg Gorfforol ac Iechyd bellach yn gweithio fel athrawon Addysg Gorfforol (uwchradd), athrawon ysgol gynradd, a chynorthwywyr addysgu. Mae cyn-raddedigion hefyd wedi dilyn gyrfaoedd mewn addysg bellach ac uwch, clybiau chwaraeon, gwyddor chwaraeon, diwydiant hamdden, a datblygu chwaraeon awdurdod lleol/cymunedol. Mae myfyrwyr eraill wedi parhau i astudio ymhellach ar lefel meistr a doethuriaeth neu i wneud Tystysgrif Addysg i Raddedigion. ​

Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Cynigion Nodweddiadol

​Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion nodweddiadol sy’n berthnasol i ddechrau ar flwyddyn 1 y radd.

Os nad ydych yn bodloni’r gofynion mynediad hyn, rydym hefyd yn cynnig Flwyddyn Sylfaen​ sy’n caniatáu symud ymlaen i Flwyddyn 1 ar ôl cwblhau’n llwyddiannus.

  • Pwyntiau tariff: 104 - 112
  • Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
  • TGAU: Pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
  • Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
  • Pynciau Safon Uwch: Tair Safon Uwch i gynnwys Gradd B. Does dim angen pynciau penodol. Bagloriaeth Cymru – Ystyrir Tystysgrif Her Sgiliau Uwch fel trydydd pwnc.
  • Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: DMM
  • Lefel T: Teilyngdod.
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: 15 credyd gyda Rhagoriaeth a 30 credyd gyda Theilyngdod. Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 1 x H6. Does dim angen pynciau penodol.
  • Tystysgrif Gadael Iwerddon: 3 x H2. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
  • Advanced Highers yr Alban: Gradd C. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.​

Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.

Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.

Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.


Sut i Ymgeisio

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.

Cysylltu â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â'r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu drwy e-bost askadmissions@cardiffmet.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau penodol am y cwrs, cysylltwch â'r Tîm Cymorth Rhaglen:
E-bost: CSSHSLTSE@cardiffmet.ac.uk

Rydyn ni’n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â’r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu’r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i’r brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae’n cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o’r fath yn angenrheidiol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael y wybodaeth lawn.

Gwybodaeth Allweddol Am Y Cwrs

Codau UCAS:
C604 - Gradd 3 blynedd
C64F - Gradd 4 blynedd (yn cynnwys flwyddyn sylfaen)​

Man Astudio:
Campws Cyncoed

Ysgol:
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd

Hyd y Cwrs:
Tair blynedd amser llawn neu bedair blynedd amser llawn gan gynnwys blwyddyn Sylfaen.

Ar gael yn rhan-amser hefyd a gall fod hyd at wyth mlynedd. Mae'r myfyrwyr rhan-amser yn ymuno â'r myfyrwyr amser llawn ar gyfer pob modiwl. Felly cwblheir y rhan fwyaf o'r modiwlau rhwng 9.00yb a 6.00yp yn ystod yr wythnos.

Ffioedd rhan-amser:
Codir tâl fesul modiwl sengl oni nodir yn wahanol: israddedig = 10 credyd. Cysylltwch ag arweinydd y rhaglen am ragor o wybodaeth am fodiwlau i'w hastudio'n rhan-amser a sut y bydd hyn yn effeithio ar ffioedd.

TROSOLWG CWRS | UCHAFBWYNTIAU GRADD
Astudiwch Chwaraeon, Addysg Gorfforol ac Iechyd ym Met Caerdydd

Clywch gan yr Uwch Ddarlithydd Jose a'r Myfyrwyr Audrey a Holly sut brofiad yw astudio Chwaraeon, Addysg Gorfforol ac Iechyd ym Met Caerdydd.

Uchafbwyntiau Gradd

Yn y fideo cyflwyniad byr hwn, mae'r Uwch Ddarlithydd Jose Castro yn dweud mwy wrthym am y radd mewn Chwaraeon, Addysg Gorfforol ac Iechyd

DEWCH I GWRDD Â’R TÎM
Dewch i gwrdd â’r Tîm: Lowri Edwards

Dewch i gwrdd â Dr Lowri Edwards, Darlithydd ar y radd Chwaraeon, Addysg Gorfforol ac Iechyd ym Met Caerdydd, sy'n rhannu ei hangerdd am y pwnc.

EIN CYFLEUSTERAU
Cyfleusterau Chwaraeon

Mae’r Brifysgol yn parhau i fuddsoddi yn ei chyfleusterau chwaraeon o safon fyd-eang ar gampws Cyncoed i wella perfformiad a datblygiad academaidd ein holl fyfyrwyr.

PROFIAD MYFYRWYR A GRADDEDIGION
Luke Witham

“Mae astudio ar y rhaglen Chwaraeon, Addysg Gorfforol ac Iechyd ym Met Caerdydd wedi fy ngalluogi i ailgynnau a dilyn fy angerdd. Mae llawer o ddarlithwyr dawnus, hynod fedrus a gofalgar yn llenwi'r cwrs, ac mae'r rhain wedi rhoi'r holl offer sydd eu hangen arnaf i lwyddo'n ymarferol ac yn academaidd. Mae gan y cwrs sbectrwm mor eang o feysydd cynnwys ac offer asesu, sy'n fy ngalluogi i brofi gwahanol feysydd dysgu a fy maes i gyd ar unwaith. Mae Met Caerdydd wedi gadael yr effaith gadarnhaol fwyaf dylanwadol yn fy mywyd, gan fy annog i fynd ar ôl cyfleoedd na fyddwn o reidrwydd yn mynd ar eu hôl o’r blaen.”

Luke Witham
BSc (Anrh) Chwaraeon, Addysg Gorfforol ac Iechyd

Lleoliad Gwaith

Mae Holly yn dweud wrthym sut mae ei lleoliad gwaith yn Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd wedi ei helpu i gael profiad byd go iawn.

CAMPWS AGORED
Campws Agored

Mae Campws Agored Met Caerdydd yn ffordd gydweithredol o weithio sy'n darparu cyfleoedd chwaraeon, gweithgaredd corfforol, chwarae yn yr awyr agored, a chyfleoedd iechyd a lles yn Ninas-ranbarth Caerdydd a thu hwnt. Mae'n gweld staff a myfyrwyr y Brifysgol yn cydweithio â'r gymuned er budd y ddwy ochr, sy'n rhoi cyfleoedd dysgu dilys i fyfyrwyr fel rhan o'u hastudiaethau.

Yn y fideo hwn, mae Audrey yn rhannu ei phrofiad Campws Agored a sut y gwnaeth ei galluogi i gael profiad ymarferol fel rhan o'i darlithoedd.