Mae'r rhaglen Campws Agored yn chwarae rhan annatod yn y strategaeth ymgysylltu â'r gymuned a chyfrifoldeb cymdeithasol sy'n esblygu ar gyfer y Brifysgol. Mae'n ymgorfforiad gweithredol o'n dull sy'n seiliedig ar werthoedd, gan rymuso ein staff a'n myfyrwyr i ymgysylltu â'n cymunedau.
Drwy gyflawni'r rhaglen yn llwyddiannus bydd ein cymunedau'n datblygu hyder y byddwn, drwy greu partneriaethau dibynadwy, yn gweithio'n galed i sicrhau trawsnewid addysgol, ymchwil gydag effaith, twf economaidd cynaliadwy, cydlyniant cymdeithasol ac iechyd a lles. Yn hollbwysig, mae'r rhaglen hefyd yn ein galluogi i weithio mewn partneriaeth â'n myfyrwyr i feithrin EDGE Met Caerdydd (Sgiliau Moesegol, Digidol, Byd-eang ac Entrepreneuraidd) i helpu i ddatblygu hyder, gwydnwch a phrofiadau a fydd yn eu paratoi ar gyfer bywyd ar ôl y brifysgol a hyd at gyflogaeth.
Mae'r dull cydweithredol hwn yn sicrhau bod unrhyw brosiect Campws Agored yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Llywodraeth Cymru, Gweledigaeth ar gyfer Chwaraeon, Cwricwlwm Newydd Cymru, gweledigaeth y Gweinidog Addysg ar gyfer Prifysgol Ddinesig a 'Chaerdydd 2030' y weledigaeth ar gyfer Prifddinas Dysgu a chyfle.
Cyfrannu at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a Gweledigaeth ar gyfer Chwaraeon drwy Gampws Agored:
- Cymru Iachach - Campws Agored yn rhoi cyfle i bobl o bob rhan o gymunedau gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol sy'n cefnogi Cenedl Egnïol.
-
Cymru Fwy Cyfartal - drwy ein dull cydweithredol, mae'r cyfleoedd hyn yn cael eu cynnig i bawb, waeth beth fo'u cefndir neu eu hamgylchiadau ac maent ar gyfer Pawb
-
Cymru o ddiwylliant bywiog a'r iaith Gymraeg ffyniannus - Mae Campws Agored yn cefnogi ac yn gwella'r berthynas gref â Chwaraeon yng Nghymru drwy annog gweithgarwch mewn amrywiaeth o chwaraeon o oedran cynnar a byddwn yn cyflwyno sesiynau drwy gyfrwng y Gymraeg yn ein graddau Cymraeg.
-
Mwynhad - drwy ddarparu ystod amrywiol o weithgareddau, mae Campws Agored yn darparu amrywiaeth o brofiadau cadarnhaol fel y gall pawb fwynhau chwaraeon a gweithgarwch corfforol.