Mae'r radd Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon BSc (Anrh) ym Met Caerdydd yn rhaglen wyddor chwaraeon gymhwysol sy'n canolbwyntio ar ddeall, gwella a dadansoddi perfformiad mewn chwaraeon. Mae'r cwricwlwm yn datblygu'n raddol eich gwybodaeth am ddadansoddiad tactegol, gan fesur effeithiolrwydd technegol, a dadansoddiad techneg benodol o fewn perfformiad chwaraeon gwirioneddol gan ddefnyddio ystod o dechnegau a thechnoleg fodern. Yn ogystal, cewch eich cyflwyno i ddadansoddiad ymddygiadol o hyfforddwyr ac athletwyr, a chymhwysiad o'r technegau olrhain athletwyr.
Mae'r modiwlau craidd yn y radd Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon yn cael eu hategu a'u hatodi gan fodiwlau o feysydd perthnasol hyfforddi, addysgeg a gwyddoniaeth chwaraeon ac ymarfer corff. Mae'r elfennau hyn yn rhoi blas unigryw i'r cwrs sy'n eich galluogi i ddeall yr egwyddorion damcaniaethol a'r sgiliau proses gymhwysol sy'n sail i ddadansoddi perfformiad.
Byddwch yn cael llawer o gyfleoedd i ddatblygu eich gwybodaeth ymarferol a chyd-destunol mewn hyfforddiant, hyfforddi a pherfformio a fydd yn caniatáu ichi werthuso ac addasu eich ymarfer proffesiynol eich hun fel dadansoddwr ac ymarfer perfformwyr a hyfforddwyr mewn ystod o gampau. Bydd hefyd yn eich galluogi i ddatblygu'r set sgiliau galwedigaethol penodol sy'n angenrheidiol i gychwyn ar yrfa mewn dadansoddi perfformiad.
Blwyddyn Sylfaen
Gellir astudio’r radd hon fel gradd amser llawn tair blynedd neu radd pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn o astudio sylfaenol. Bwriad ein blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder.
Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i:
- Myfyrwyr nad ydynt wedi cael y nifer gofynnol o bwyntiau Safon Uwch (neu gyfwerth) i ddechrau ar flwyddyn gyntaf y rhaglen radd.
- Myfyrwyr hŷn sydd wedi bod allan o’r system addysg ffurfiol ers peth amser.
Darganfyddwch fwy am y
flwyddyn sylfaen.
Nodwch: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r 4 blynedd gan gynnwys sylfaen. Cyfeiriwch at Wybodaeth Gwrs Allweddol ar waelod y dudalen hon.
Cynnwys y Cwrs
Yn y flwyddyn gyntaf o astudio byddwch yn ymgymryd â chwe modiwl gorfodol. Trwy gydol y modiwlau hyn byddwch yn archwilio cysyniadau allweddol ym maes dadansoddi perfformiad chwaraeon, cyn symud ymlaen i ddefnyddio a chymhwyso technolegau dadansoddi masnachol. Byddwch hefyd yn ymgymryd â modiwlau i hwyluso'ch pontio i astudio ar lefel prifysgol, ymchwilio i ddamcaniaethau Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, yn ogystal â chael cyfleoedd i ennill cymwysterau hyfforddi galwedigaethol cydnabyddedig sy'n berthnasol i'r diwydiant proffesiynol.
Lefel 4 (blwyddyn un)
- Ymchwil ac Ysgolheictod*
- Addysgeg Chwaraeon Cymhwysol
- Dadansoddi Perfformiad mewn Chwaraeon
- Technolegau Dadansoddi Perfformiad
- Dysg Athletwyr mewn Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon
- Hanfodion Chwaraeon a Champau Ymarfer
Opsiynol
Mae'r ail flwyddyn yn adeiladu ar y flwyddyn gyntaf gyda modiwlau dadansoddi perfformiad chwaraeon yn eich helpu i archwilio damcaniaethau dadansoddol ac adborth ymhellach wrth ddadansoddi, hyfforddi a dysg athletwyr, tra hefyd yn caffael mwy o ffocws ar gymhwyso'r wybodaeth hon mewn lleoliad cymhwysol. Mewn maes sy'n cael ei yrru'n alwedigaethol, byddwch chi'n cael cyfleoedd i ddatblygu'ch hunaniaeth broffesiynol gynnar ym maes dadansoddi perfformiad chwaraeon trwy ddysgu cysylltiedig â gwaith (e.e. darlithoedd arbenigol / gwestai) a dysgu yn y gwaith (e.e. lleoliadau). Mae maes allweddol, dysgu yn y gwaith, wedi'i gynllunio i'ch galluogi i gymhwyso'ch gwybodaeth o'r rhaglen mewn lleoliadau byd go iawn ac i ennill profiad o werth i'w ddefnyddio fel sylfaen ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol.
Lefel 5 (blwyddyn dau)
- Dylunio ac Phratics Ymchwil*
- Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon a Rôl y Dadansoddwrt
- Dadansoddi Techneg a Chaffael Sgiliau
- Dadansoddi a Delweddu Data mewn Chwaraeon
- Lleoliad Proffesiynol*
Opsiynau:
- Addysgeg Chwaraeon Cymhwysol
- Dulliau Amlddisgyblaethol o Chwaraeon ac Iechyd
- Menter mewn Chwaraeon ac Iechyd
Mae blwyddyn olaf yr astudiaeth yn rhoi cyfle i chi archwilio meysydd cyfoes sy'n gysylltiedig â maes dadansoddi perfformiad chwaraeon. Byddwch yn archwilio ac yn cymhwyso sgiliau datrys problemau yn gritigol i feysydd damcaniaethol cysylltiedig yn ogystal â chyflawni tasgau dadansoddi cymhwysol sy'n gysylltiedig â rôl dadansoddwr perfformiad mewn campau perfformiad uchel. Mae'r flwyddyn olaf yn canolbwyntio ar eich datblygu chi fel dysgwr annibynnol sy'n cael ei yrru a all fod â rheolaeth o'ch dysgu a sicrhau bod hyn yn cyd-fynd â'ch cam cyntaf i gyflogaeth fel un â gradd neu i barhau i astudio ymhellach.
Lefel 6 (blwyddyn tri)
- Prosiect Terfynol*
- Dadansoddi Perfformiad Cyfoes
- Rheoli Chwaraeon Perfformiad Uchel
Opsiynau:
- Lleoliad yn y Diwydiant*
- Dadansoddeg Data Chwaraeon
- Problemau Hyfforddi Cymhwysol a Dadansoddi Perfformiad
- Darlledu a Dadansoddi Chwaraeon
*modiwlau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg
Dysgu ac Addysgu
Mae dulliau dysgu, addysgu ac asesu effeithiol yn sail i nodau addysgol a chanlyniadau dysgu pob un o'n rhaglenni a'n modiwlau. Gall dulliau dysgu ac addysgu gynnwys darlithoedd, seminarau, gweithdai, sesiynau tiwtorial a sesiynau ymarferol. Mae ein Hamgylchedd Dysgu Rhithwir hefyd yn agwedd annatod o'r pecyn dysgu sy'n cefnogi anghenion ein myfyrwyr.
Mae darlithoedd arweiniol yn cyflwyno pynciau a chysyniadau allweddol, tra bod seminarau, tiwtorialau, gweithdai a sesiynau ymarferol yn canolbwyntio ar gymhwyso cysyniadau allweddol gyda'r nod o wella profiad ac ymgysylltiad myfyrwyr. Byddwch hefyd yn cwrdd â thiwtoriaid ar sail un i un. Fel ysgol, rydyn ni'n gweithio'n galed i ddarparu cyfleoedd dysgu myfyriwr-ganolog sy'n darparu amgylchedd dysgu hyblyg o ansawdd uchel.
Mae dulliau dysgu ac addysgu yn pwysleisio ac yn hwyluso datblygiad eich rhesymu critigol, ac yn cymell integreiddio ymarfer a theori. Trwy gydol eich rhaglen, byddwch yn profi dysgu dan arweiniad tiwtor a dulliau dysgu hunan-gyfeiriedig, gan gynyddu annibyniaeth a myfyrio a'ch annog i ddatblygu agwedd gadarnhaol tuag at ddysgu gydol oes.
Mae nodweddion penodol profiad dysgu ar y cwrs Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon yn cynnwys:
-
Ymchwilwyr ac ymarferwyr o fri rhyngwladol sy'n rhan annatod o'r pecyn dysgu a gynigir i'n myfyrwyr.
- Cyfleusterau penodol Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon o safon byd-eang i wella profiad dysgu'r myfyrwyr.
- Caiff ei gydnabod yn eang fel un o'r rhaglenni Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon mwyaf blaenllaw yn y DU, gyda model dysgu unigryw ar y campws wedi'i gefnogi gan staff arbenigol.
Asesu
Mae'r strategaethau asesu ar gyfer pob modiwl yn amrywio i sicrhau bod y dull mwyaf priodol yn cael ei weithredu ar gyfer eich maes astudio. Mae dulliau asesu wedi'u cynllunio i wella'ch profiad dysgu ac i gydnabod eich bod wedi cyflawni'r canlyniadau dysgu sy'n gysylltiedig â phob modiwl. Mae asesu hefyd yn sicrhau eich bod wedi cyflawni'r safon sy'n ofynnol i symud ymlaen i'r cam nesaf neu i fod yn gymwys ar gyfer dyfarniad (fel y'i mynegir gan y FHEQ a'r CQFW). Mae asesiadau'n cefnogi'ch profiad dysgu trwy ddarparu cyfleoedd i chi gymryd rhan mewn asesiadau ffurfiannol a chrynodol i brofi'ch gwybodaeth, eich gallu, eich sgil a'ch dealltwriaeth gritigol. Asesir y modiwlau israddedig gan gyfuniad o fathau o asesu. Er enghraifft:
- gwaith cwrs ysgrifenedig
- cyflwyniadau poster
- cyflwyniadau llafar
- portffolios
- arholiadau gyda llyfrau a rhai heb lyfrau
- sgiliau ymarferol
- gweithgareddau eraill a gynlluniwyd i asesu, datblygu a gwella sgiliau academaidd a chyflogadwyedd.
Disgwylir i chi gwblhau prosiect terfynol fel rhan o'r asesiad o'ch gradd anrhydedd. Mae prosiectau terfynol yn ddarnau pwysig o waith a allai fod yn brosiect ymchwil, arloesi, ymgynghori neu gymunedol.
Cyfloagadwyedd a Gyrfaoedd
Mae 'egwyddorion EDGE' Met Caerdydd yn eich cefnogi i ffynnu yn y byd modern. Trwy gydol eich gradd byddwch yn profi ystod o gyfleoedd i ddatblygu eich cymwyseddau moesegol, digidol, byd-eang ac entrepreneuraidd trwy ddysgu yn seiliedig ar broblemau, astudiaethau achos diwydiant y byd go iawn, profiadau gwaith integredig ar y campws a chyfleoedd ar gyfer lleoliadau dysgu seiliedig ar waith oddi ar y campws. Byddwn yn sicrhau eich bod yn cael ystod o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy fel cyfathrebu, gwaith tîm ac arweinyddiaeth.
Yn ystod eich blwyddyn astudio gyntaf byddwch yn cael cyfle i ymgymryd â chymwysterau technegol mewn ystod o feysydd sy'n berthnasol i'r diwydiant gan gynnwys hyfforddi chwaraeon, hyfforddiant ymarfer corff a maes iechyd a diogelwch. Bydd y cyfleoedd hyn yn sicrhau bod gennych y cymwysterau a'r profiad priodol i wneud cais am un o'r nifer o gyfleoedd lleoliad gwaith a gynigir ar ac oddi ar y campws. Byddwn hefyd yn eich cefnogi i chwilio am gyfleoedd i weithio neu astudio dramor. Gall lleoliadau gwaith roi egwyddorion EDGE critigol i chi wrth gael swydd broffesiynol ar ôl graddio. Mae myfyrwyr sydd wedi graddio o'r cwrs BSc Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon wedi mynd ymlaen i weithio mewn gyrfaoedd yn y Diwydiant Chwaraeon a thu hwnt.
Mae'r diwylliant o ddydd i ddydd o ddarparu dadansoddiad perfformiad, ynghyd â phrofiadau galwedigaethol perthnasol, yn creu amgylchedd sy'n ategu dysgu a datblygiad proffesiynol. Gwelir hyn trwy recriwtio graddedigion yn llwyddiannus gan glybiau mawr a thimau Rhyngwladol mewn amrediad o gampau. Mae graddedigion diweddar o'r cwrs BSc Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon bellach yn gweithio i Sefydliad Chwaraeon Lloegr, Chwaraeon Cymru, Undeb Rygbi Cymru, Clwb Rygbi'r Scarlets, Undeb Rygbi'r Alban, Clwb Rygbi Caerfaddon, Clwb Pêl-droed Southampton, Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, Clwb Pêl-droed Dinas Bryste ac ymhellach i ffwrdd, mewn mannau fel Sefydliad Chwaraeon De Cymru Newydd yn Awstralia. Mae myfyrwyr eraill wedi aros i astudio ymhellach ar lefel meistr a doethuriaeth.
Gofynion Mynediad Sut i Wneud Cais
Cynigion Nodweddiadol
Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion nodweddiadol sy’n berthnasol i ddechrau ar flwyddyn 1 y radd.
Os nad ydych yn bodloni’r gofynion mynediad hyn, rydym hefyd yn cynnig
Flwyddyn Sylfaen sy’n caniatáu symud ymlaen i Flwyddyn 1 ar ôl cwblhau’n llwyddiannus.
-
Pwyntiau tariff: 120-128
-
Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen
cynigion cyd-destunol.
-
TGAU: Pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
-
Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
-
Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch i gynnwys Graddau BB. Does dim angen pynciau penodol. Bagloriaeth Cymru – Ystyrir Tystysgrif Her Sgiliau Uwch fel trydydd pwnc.
-
Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: DDM
-
Lefel T: Teilyngdod – Rhagoriaeth.
-
Diploma Mynediad i Addysg Uwch: 15 credyd gyda Rhagoriaeth a 30 credyd gyda Theilyngdod. Does dim angen pynciau penodol.
-
Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 1 x H6. Does dim angen pynciau penodol.
-
Tystysgrif Gadael Iwerddon: 3 x H2. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
-
Advanced Highers yr Alban: Graddau CC. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.
Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â
Derbyniadau neu cyfeiriwch at
Chwiliad Cwrs UCAS.
Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld
yma.
Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu
RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.
Sut i Ymgeisio
Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld
yma.
Cysylltu â Ni