Hafan>Ymchwil>Research Excellence Framework 2014

Met Caerdydd yw’r brifysgol ôl-1992 orau yn REF 2014

​​

Mae'r canlyniadau ar gyfer y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014 wedi'u rhyddhau. Maent yn rhagorol ar gyfer Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Dyma eitem newyddion REF yn Times Higher Education heddiw:

"Y sefydliad uchaf ar ôl 1992 yw Prifysgol Metropolitan Caerdydd, yn y 41ain safle – er mai dim ond 35 o ymchwilwyr a aeth i dair uned asesu. Mae’r nesaf ati, Prifysgol Brighton, yn gydradd 58fed, ar ôl cynnig 209 o ymchwilwyr mewn 10 uned. Cynorthwywyd y ddau sefydliad gan argraffiadau effaith cryf. Brighton yw'r sefydliad ôl-1992 sydd ar y brig o safbwynt effaith GPA, yn gydradd 27ain. Met Caerdydd sydd nesaf ati wedyn, yn 50fed. "

Cynrychiola hyn cynnydd o 62 lle o'r safle cyffredinol o 103fed yn yr Ymarfer Asesu Ymchwil yn 2008, gyda 80% o broffil ansawdd cyffredinol y Brifysgol wedi'i raddio fel 'arwain y byd' (4*) neu'n 'ragorol yn rhyngwladol' (3*). O safbwynt effaith, mae'r gyfran sydd wedi'i graddio fel 3* neu 4* hyd yn oed yn well ar 83%.

Ledled Cymru, mae traean o ymchwil prifysgolion yng Nghymru o 'safon fyd-eang' (Newyddion BBC Cymru), gan ddyblu yn ystod y chwe blynedd diwethaf. Mae ansawdd y cyfraniad a wnaed gan Met Caerdydd yn sylweddol gyda chwarter yr holl ymchwil wedi'i nodi fel 'arwain y byd' gydag ymchwil 4* wedi'i nodi ym mhob uned asesu. Yn bwysig oawm hefyd, fel y nodwyd gan WalesOnline:

"... er clod mawr i'r sector Cymreig, mae prifysgolion y genedl yn effeithio mwy ar y byd tu allan i'r byd academaidd nag unrhyw un o wledydd eraill y DU – dywedir bod eu hymchwil o fudd i'r economi, cymdeithas, diwylliant a’r polisi cyhoeddus ehangach."

Gwnaeth Met Caerdydd ddau gyflwyniad ar y cyd â Phrifysgolion eraill Cymru. Roedd y cyntaf, law yn llaw â Phrifysgol Bangor, dan adain Sefydliad Rhagoriaeth Ymchwil mewn Chwaraeon ac Ymarfer, ar sail 20 mlynedd o gydweithio. Yn 7fed o fewn ei huned asesu yn gyffredinol, graddiwyd 40% o'r cyflwyniad fel bod yn 'arwain y byd' (4*), a 47% arall yn 'rhyngwladol ragorol’ (3*). Yn ddiddorol iawn, graddiwyd holl effaith y cyflwyniadau fel bod yn 4* neu’n 3*.

Yr ail gyflwyniad ar y cyd oedd un Sefydliad Ymchwil Cymru a Chelf (WIRAD) ac Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd a'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Dylunio a Datblygu Cynnyrch (PDR) mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Gan adeiladu ar lwyddiant cyflwyniad ar y cyd i RAE yn 2008, codwyd cyfran yr  ansawdd ymchwil 4* i 23%, a graddiwyd y cyflwyniadau’n gydradd 18fed yn yr uned asesu ar gyfer effaith.

Roedd proffil ansawdd y cyflwyniad a wnaed gan Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd yn cynnwys 74% naill ai'n 'arwain y byd' (4*) neu'n 'ryngwladol rhagorol' (3*) – mwy na phedair gwaith cyfran y cyflwyniadau blaenorol yn 2008. Graddiwyd 77.8% o'r allbynnau ac 87.5% o'r amgylchedd hefyd yn 4* neu 3*.

Dywedodd yr Athro Antony Chapman, Is-Ganghellor Met Caerdydd: “Rwy’n ymfalchïo fod yr ymrwymiad i ragoriaeth sydd wedi bod yn gyrru ein ffocws strategol ar gyfer ymchwil wedi’i gydnabod yn y perfformiad rhagorol hwn yn REF 2014. Mae ymchwil o ansawdd uchel yn greiddiol i'n gwerthoedd a'n cenhadaeth yn Met Caerdydd ac mae'n hanfodol i'n amgylchedd dysgu ac i'n hymdrechion i rosglwyddo gwybodaeth. Rydym yn falch iawn o'n hymchwil, o'n hymchwilwyr ac o'n cyfraniad at ymchwil gydweithredol o'r radd flaenaf yng Nghymru. "

Dywedodd yr Athro Sheldon Hanton, Dirprwy Is-Ganghellor (Ymchwil): "Ym Met Caerdydd mae gennym hanes hir o gysylltiadau agos â sectorau diwydiant a rhanddeiliaid eraill o fewn y gymuned ehangach. Mae canlyniadau REF 2014 ar gyfer effaith ein hymchwil y tu allan i'r byd academaidd yn brawf amlwg o'r partneriaethau hyn, ac o ragoriaeth yr agwedd hon ar ein gwaith. Cafodd yr holl effaith yn ein cyflwyniadau ar y cyd eu graddio naill ai'n arwain y byd neu'n rhyngwladol ragorol. "

 

Nodiadau i Olygyddion

  • Er mwyn dosbarthu arian ar sail ansawdd, mae'r cyrff cyllido’n asesu ymchwil prifysgolion trwy ymarfer cyfnodol. Yn y gorffennol, gelwid hyn yn Ymarfer Asesu Ymchwil (RAE), ac fe'i cynhaliwyd ddiwethaf yn 2008.
  • Yn ogystal â llywio dyraniadau cyllid, mae'r REF yn cynnig atebolrwydd o safbwynt buddsoddiad cyhoeddus mewn ymchwil, yn dangos ei fanteision, ac yn darparu ffyn mesur enw da a gwybodaeth meincnodi ar sail perfformiad ymchwil prifysgolion y DU.
  • Cymerwyd rhan gan 154 o brifysgolion y DU. Gwnaed1,911 o gyflwyniadau ar gyfer:
     52,077 o staff academaidd
     191,232 o allbynnau ymchwil
     6,975 o astudiaethau achos effaith
  • Arolygwyd y cyflwyniadau gan 36 o is-baneli arbenigol, dan oruchwyliaeth pedwar prif banel.