Arfer Annheg

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn disgwyl i’w chymuned gynnal gwerthoedd uniondeb academaidd drwy ddilyn confensiynau academaidd a chydnabod yn onest gyfraniadau pobl eraill wrth gynhyrchu a chyflwyno asesiad.

Mae’n Arfer Annheg, y cyfeirir ato weithiau fel ‘camymddwyn academaidd’, i wneud rhywbeth a allai arwain at fantais academaidd nas caniateir, naill ai i chi’ch hunan neu i rywun arall. Gallai gweithredoedd o’r fath roi myfyrwyr sydd wedi cwblhau eu hasesiadau’n deg o dan anfantais a thanseilio uniondeb dyfarniadau a safonau academaidd y Brifysgol.

Mae Arfer Annheg yn cynnwys:

Llên-ladrad

Defnyddio geiriau neu syniadau rhywun arall heb gydnabyddiaeth a’u cyflwyno i’w hasesu fel eich gwaith eich hunan. Dyma rai enghreifftiau:

  • Defnyddio dyfyniad(au) o waith cyhoeddedig neu anghyhoeddedig rhywun arall boed o werslyfr, erthygl neu mewn unrhyw fformat arall, lle nad yw’r dyfyniad wedi’i nodi’n glir â dyfynodau a’r ffynhonnell wedi’i chydnabod yn gywir.
  • Defnyddio geiriau neu syniadau rhywun arall sydd wedi cael eu newid neu eu haralleirio ychydig i wneud iddynt edrych yn wahanol i’r gwreiddiol.
  • Crynhoi syniadau, dyfarniadau, diagramau, ffigurau neu raglenni cyfrifiadurol rhywun arall heb gyfeirio at yr unigolyn hwnnw yn y testun a’r ffynhonnell mewn llyfryddiaeth.
  • Hunan lên-ladrad – defnyddio eich gwaith eich hunan o aseiniad/modiwl blaenorol pan nad yw wedi’i ganiatáu’n benodol.

Cydgynllwynio

Pan fydd gwaith a wnaed gyda phobl eraill yn cael ei gyflwyno a’i hawlio fel gwaith un person yn unig.

e.e. pan fydd mwy nag un myfyriwr yn cydweithio ar asesiad neu arholiad ar-lein ac yn cyflwyno gwaith unigol sy'n cynnwys adrannau sydd yr un fath.

Twyllo drwy Gontract

Talu i aseiniad cyfan neu ran o aseiniad gael ei ysgrifennu gan rywun arall, e.e. drwy wasanaeth ysgrifennu traethodau, a'i gyflwyno yn eich enw chi.

Camymddygiad yn ystod Arholiad

Unrhyw beth sy’n torri rheoliadau asesu amodau arholiad, sy’n cynnwys:

  • Defnyddio deunydd anawdurdodedig neu ddyfais electronig
  • Dynwared rhywun arall i sefyll yr arholiad ar eu rhan
  • Cyfathrebu â rhywun heblaw'r goruchwyliwr

Ffugio Data

Gwneud honiadau ffug eu bod wedi cynnal arbrofion, arsylwadau, cyfweliadau neu fathau eraill o gasglu a/neu ddadansoddi data.


Gweithdrefn Arfer Annheg

Mae gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd safonau academaidd uchel ac mae'n cymryd unrhyw honiad o Arfer Annheg o ddifrif.

Os bydd amheuaeth, wrth farcio asesiad neu oruchwylio arholiad, bod myfyriwr wedi gwneud unrhyw un o’r uchod, bydd yr ysgol yn anfon honiad o Arfer Annheg at Wasanaethau’r Gofrestrfa, a fydd yn prosesu’r achos ac yn y pen draw yn cyhoeddi’r canlyniad.

Mae canllaw cam wrth gam ar sut mae achosion yn cael eu prosesu i’w weld yma. UP Step Guide 2022 (Cymraeg).docx

Mae’r gweithdrefnau Arfer Annheg ar gael yn llawn drwy’r ddolen hon, fel rhan o’r Llawlyfr Academaidd: https://www.cardiffmet.ac.uk/registry/academichandbook/Pages/Ah1_08.aspx


Cymorth i Fyfyrwyr

Cymorth Gweithdrefn Arfer Annheg

Os oes angen cymorth arnoch i ddeall neu i drafod y weithdrefn neu’r broses Arfer Annheg, mae Undeb y Myfyrwyr yn darparu cyngor diduedd ar reoliadau a gweithdrefnau academaidd, gan gynnwys Arfer Annheg: www.cardiffmetsu.co.uk/support/academic/

E-bost: suadvice@cardiffmet.ac.uk

Cymorth Sgiliau Academaidd

Os ydych yn teimlo bod angen rhagor o gefnogaeth arnoch gyda'ch gwaith ysgrifennu academaidd neu os oes gennych gwestiynau am sut i wneud yn siŵr eich bod yn cyfeirnodi eich asesiadau’n gywir (yn enwedig os ydych chi eisoes wedi derbyn cosb am Arfer Annheg ac eisiau osgoi gadael i hynny ddigwydd eto), mae’r Gwasanaethau Llyfrgell yn darparu gwybodaeth am ASgiliau Academaidd a hyfforddiant Arfer Academaidd.

Cymorth Llesiant Myfyrwyr

Os ydych yn cael trafferth gyda'ch llwyth gwaith academaidd a/neu amgylchiadau personol ac yn teimlo bod angen i chi siarad â rhywun, gallwch gysylltu â'r Tîm Llesiant Myfyrwyr yn y Gwasanaethau Myfyrwyr.

Sylwch, bydd angen i fyfyrwyr yn ein sefydliadau partner ddefnyddio Gwasanaethau Myfyrwyr lleol.


Cwestiynau Cyffredin

Gobeithiwn y bydd y Cwestiynau Cyffredin isod yn ddefnyddiol i chi. Os oes gennych ymholiad am Arfer Annheg nad yw'n cael ei ateb gan y Cwestiynau Cyffredin, anfonwch e-bost at aup@cardiffmet.ac.uk

Beth ddylwn i ei wneud tra byddaf yn aros i fy achos gael ei ystyried? Pa mor hir fydd hyn yn ei gymryd?

Tra bod eich achos yn cael ei brosesu dylech barhau i gyflwyno asesiadau ar gyfer eich modiwlau eraill.

Fel arfer dylech glywed gan y tîm Arfer Annheg o fewn ychydig wythnosau i'ch achos gael ei gyfeirio aton ni gan eich ysgol neu goleg. Os oes angen i Bwyllgor Ymchwilio ystyried eich achos, neu os ydych wedi gofyn i hynny ddigwydd, gallai gymryd hyd at 8 wythnos. Mae rhagor o wybodaeth am beth i’w ddisgwyl yn ein canllaw cam wrth gam ar sut mae achosion yn cael eu prosesu .

Alla i ailgyflwyno fy ngwaith yn gynnar?

Na allwch, yn anffodus allwch chi ddim ailgyflwyno ar gyfer yr aseiniad dan sylw nes eich bod wedi cael canlyniad swyddogol y Bwrdd Arholi gan eich ysgol neu goleg sy’n cadarnhau manylion eich ailasesiad.

Beth yw'r cosbau am Arfer Annheg?

Am y drosedd gyntaf, mae'n debygol y byddai myfyriwr yn cael cynnig y Gosb Benodedig (derbyn cyfrifoldeb bod trosedd wedi'i chyflawni) sy'n golygu bod marc yr aseiniad yn cael ei ganslo i sero, gyda'r asesiad yn cael ei ailgyflwyno ar yr ymgais nesaf, a'r modiwl yn cael ei gapio ar y marc pasio lleiaf.

Gall ail drosedd fel arfer (ond nid bob amser) arwain at Gosb Benodedig Ail Lefel sy'n cynnwys canslo unrhyw farciau blaenorol ac ailsefyll y modiwl, wedi'i gapio (gyda ffioedd perthnasol).

Pan na fydd cyfle ar ôl gan fyfyriwr i ailymgeisio am asesiad, nid oes cyfle pellach i ailgyflwyno a bydd y myfyriwr yn methu’r modiwl.

Gall trydedd drosedd (neu drosedd gynharach ddifrifol iawn) arwain at ddiarddeliad llwyr o'r Brifysgol. Mae rhagor o fanylion yn y Weithdrefn Arfer Annheg.

A fydd achos o Arfer Annheg yn fy atal rhag symud ymlaen/graddio?

O bosib, yn dibynnu ar ba bryd y caiff eich ailasesiad ei gadarnhau gan Fwrdd Arholi.

Hyd yn oed os byddwch yn penderfynu derbyn eich Cosb Benodedig o fewn y pythefnos a nodir, byddwch wedi methu’r asesiad a rhaid i chi aros i gael eich ailasesiad yr un pryd ag unrhyw un arall sydd wedi methu’r modiwl – mae hyn yn golygu y bydd angen i chi aros nes i’r Bwrdd Arholi gwrdd a chadarnhau’r gofynion ailasesu, ac yna bydd eich marc ailasesu yn cael ei ystyried yn y Bwrdd Arholi nesaf ar ôl hynny.

Os yw’r weithred o Arfer Annheg yn digwydd mewn modiwl sy’n cael ei ystyried mewn Bwrdd Arholi Semester 1, efallai y cewch ganiatâd i gwblhau ailasesiad yn ystod Semester 2 i’w ystyried mewn Bwrdd Arholi yn yr haf. Fel arall, mae’n debyg y bydd eich ailasesiad yn cael ei drefnu dros yr haf ac mae’n debygol na fyddwch yn cael cadarnhad o’ch cynnydd/dyfarniad tan fis Medi.

Os ydych yn fyfyriwr yn eich blwyddyn olaf, mae hyn yn golygu efallai na fyddwch yn cael eich dyfarniad mewn pryd ar gyfer seremonïau graddio mis Gorffennaf y flwyddyn honno. Fodd bynnag, byddwch yn cael eich gwahodd i fynychu seremoni yn y dyfodol.

A fydd Arfer Annheg yn cael ei nodi ar fy nghofnod myfyriwr?

Bydd. Bydd unrhyw Arfer Annheg a gadarnhawyd yn cael ei nodi ar eich cofnod myfyriwr, fodd bynnag ni fydd hyn yn cael ei nodi ar unrhyw adysgrif, tystysgrif nac Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR) terfynol.

Beth os oedd Amgylchiadau Lliniarol gen i ar yr adeg cyflwyno?

Er ein bod yn cydymdeimlo ag unrhyw fyfyrwyr sy’n profi amgylchiadau personol anodd tra maen nhw’n ceisio cwblhau eu hastudiaethau, nid yw bod ag Amgylchiadau Lliniarol, hyd yn oed os yw’r Brifysgol wedi’u cydnabod yn ffurfiol, yn eich diogelu rhag canlyniadau cyflwyno gwaith nad yw wedi’i gyfeirnodi’n gywir neu wedi ei ysgrifennu gennych chi yn unig. Os ydych chi'n cael trafferth gyda'ch llwyth gwaith, dylech bob amser ofyn am gymorth a pheidio byth â chyflwyno asesiad anghyflawn.

Beth os gwnes i gyflwyno’r aseiniad anghywir ar ddamwain?

Cyfrifoldeb myfyriwr yw cyflwyno’r ffeil gywir i’r pwynt asesu perthnasol ac nid yw uwchlwytho’r ffeil anghywir yn esgus dros gyflwyno gwaith sydd wedi’i gyfeirnodi’n anghywir. Fel rhan o'r broses gyflwyno, mae myfyrwyr yn cadarnhau mai'r gwaith sy'n cael ei gyflwyno yw eu cyflwyniad terfynol eu hunain a'r hyn maen nhw’n bwriadu iddo gael ei asesu.

Pam mae fy nghanran tebygrwydd ar Turnitin wedi newid ers i fi gyflwyno gwaith?

Pan fyddwch yn cyflwyno gwaith yn Turnitin drwy Moodle mae canran tebygrwydd gychwynnol yn cael ei chynhyrchu. Pan fydd y garfan gyfan wedi cyflwyno gwaith, bydd arweinydd y modiwl yn prosesu'r modiwl a'i holl gyflwyniadau. Weithiau, mae hyn yn cynyddu'r ganran tebygrwydd os oes mwy o waith tebyg yn cael ei ganfod, ac mae canran y mynegai tebygrwydd yn agored i newid bob amser o ganlyniad i hyn.

A yw fy nghyflwyniad yn dderbyniol os yw fy nghanran tebygrwydd i Turnitin o dan nifer penodol?

Does dim trothwy ar gyfer mynegai tebygrwydd Turnitin ‘derbyniol’. Caiff cyflwyniadau eu hystyried fesul achos ac nid yw’r ffaith bod gennych sgôr Turnitin isel yn golygu na fyddwn yn craffu ar eich cyflwyniad i wirio am arferion academaidd cywir.

Ble alla i gael rhagor o gefnogaeth gyda fy ngwaith ysgrifennu academaidd?

Os ydych yn teimlo bod angen rhagor o gefnogaeth arnoch gyda'ch gwaith ysgrifennu academaidd neu os oes gennych gwestiynau am sut i wneud yn siŵr eich bod yn cyfeirnodi eich asesiadau’n gywir (yn enwedig os ydych chi eisoes wedi derbyn cosb am Arfer Annheg ac eisiau osgoi gadaeal i hynny ddigwydd eto), mae gwybodaeth am hyfforddiant ac adnoddau ar gael gan y Gwasanaethau Llyfrgell.

Beth yw’r Pwyllgor Ymchwilio?

Gall myfyrwyr gael dewis a ydynt am dderbyn ‘Cosb Benodedig’ (a derbyn cyfrifoldeb bod trosedd wedi’i chyflawni) neu wneud cais i’w hachos gael ei ystyried gan banel o academyddion sy’n ffurfio’r Pwyllgor Ymchwilio.

Efallai y bydd eich achos yn cael ei anfon yn syth at bwyllgor i'w ystyried os mai dyma'ch trydydd trosedd honedig neu os ystyrir fel arall yn angenrheidiol, yn dibynnu ar natur y drosedd.

Beth sy’n digwydd mewn pwyllgor? A fydd yn digwydd ar-lein? Oes rhaid i fi fynychu?

Yn ystod Pwyllgor Ymchwilio, bydd eich achos yn cael ei ystyried gan banel o academyddion a fydd yn ceisio sefydlu, yn ôl pwysau tebygolrwydd o ystyried y dystiolaeth sydd ar gael, a oes Arfer Annheg wedi digwydd neu beidio. Bydd yr holl dystiolaeth i'w hystyried hefyd yn cael ei hanfon atoch ymlaen llaw a bydd yn cynnwys eich cyflwyniad, yr adroddiad o honiad gan yr ysgol/coleg, unrhyw adroddiad Turnitin ar gyfer y cyflwyniad dan sylw, a gall hefyd gynnwys:

  • unrhyw gyflwyniadau neu ffynonellau y mae'n ymddangos bod eich gwaith yn cyfateb iddynt;
  • nodiadau neu drawsgrifiad o unrhyw gyfweliad ynghylch yr honiadau;
  • unrhyw ddatganiadau ffurfiol a gyflwynwyd gennych chi neu unrhyw dystion/partïon perthnasol eraill.

Ar hyn o bryd, cynhelir pob pwyllgor ar-lein drwy Microsoft Teams.

Bydd y Pwyllgor yn gwrando ar eich achos p'un a ydych yn mynychu ai peidio. Bydd angen i chi roi gwybod i ni ymlaen llaw os ydych yn bwriadu mynychu'r pwyllgor fel ein bod yn gwybod i'ch disgwyl ac i anfon gwahoddiad atoch.

Os na allwch fod yn bresennol gallwch anfon datganiad ymlaen llaw i'r pwyllgor ei ystyried. Os na allwch fod yn bresennol yn eich pwyllgor, mae gennych hawl i ofyn am gynrychiolaeth (er enghraifft, gan aelod o Undeb y Myfyrwyr) fodd bynnag, mewn achosion o’r fath anogir myfyrwyr i gyflwyno datganiad i’r pwyllgor ymlaen llaw, gan na allai cynrychiolydd ateb cwestiynau ar eich rhan ynglŷn â chynhyrchu neu gyflwyno aseiniad a dim ond tystio bod y gweithdrefnau'n cael eu dilyn yn gywir.

Alla i ddod â rhywun gyda fi i'r pwyllgor?

Mae gennych hawl i ddod â ffrind neu aelod o'r teulu gyda chi i'r Pwyllgor fel cefnogaeth, ond mae angen i chi roi gwybod i ni ymlaen llaw os ydych yn bwriadu dod â rhywun gyda chi. Mae gweithdrefnau Arfer Annheg y Brifysgol hefyd yn nodi bod yn rhaid i chi roi gwybod i'r Brifysgol os oes ganddynt unrhyw gymwysterau cyfreithiol – chawn nhw ddim mynychu mewn rhinwedd gyfreithiol.

A fydd cyfieithydd ar gael i’r pwyllgor os nad Saesneg yw fy iaith gyntaf?

Na fydd. Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn Saesneg (neu yn Gymraeg os gwneir cais am hynny). Os ydych yn poeni am gyfrannu yn Saesneg, gallwch drefnu i rywun ddod gyda chi a all gyfieithu ar eich rhan.

Beth os ydw i’n anhapus â chanlyniad y Pwyllgor Ymchwilio?

Os yw eich achos wedi’i ystyried gan Bwyllgor Ymchwilio, gallwch gyflwyno apêl ar ôl i chi gael y canlyniad ffurfiol, ond dim ond ar sail un o’r ddau bwynt isod neu’r ddau ohonynt:

1. Anghysondebau wrth gynnal y weithdrefn Arfer Annheg a allai fod wedi effeithio ar benderfyniad y Pwyllgor

2. Amgylchiadau personol eithriadol sy'n berthnasol i'r Arfer Annheg na ellid bod wedi rhoi gwybod amdanynt i'r Pwyllgor cyn ei gyfarfod

Gall Undeb y Myfyrwyr eich cynghori a oes gennych sail i apelio. Chewch chi ddim ond cyflwyno apêl o fewn 14 diwrnod i lythyr canlyniad eich Pwyllgor Ymchwilio a hynny drwy ddefnyddio’r ffurflen ar-lein berthnasol.

Mae rhagor o wybodaeth am apeliadau ar gael ar y wefan Apeliadau.