A oes dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am y Wobr?
Oes, y dyddiad cau ar gyfer cwblhau y ffurfflen hon yw 31 Gorffennaf 2022. Rhaid i chi hefyd fod wedi cael cynnig lle a bod wedi cofrestru ym Met Caerdydd i dderbyn y wobr. Asesir ceisiadau ym mis Awst.
Rwyf eisoes yn astudio ym Met Caerdydd. A allaf wneud cais am y Wobr?
Cewch, gall unrhyw fyfyrwyr sy'n cwrdd â'r meini prawf cymhwysedd wneud cais.
Nid wyf yn siŵr a wyf yn cwrdd â'r meini prawf cymhwysedd mewn perthynas â'm camp?
Gellir e-bostio unrhyw gwestiynau sydd gennych mewn perthynas â chymhwyster neu'r wobr ei hun at Ollie Toogood ar OToogood@cardiffmet.ac.uk.
Ni fyddaf yn astudio yn yr Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd. A allaf wneud cais am y Wobr?
Mae croeso i geisiadau gan unrhyw ymgeisydd sy'n cwrdd â'r meini prawf cymhwysedd ac sy'n astudio yn unrhyw un o Ysgolion Academaidd Met Caerdydd.
Sut mae fy hyfforddwr yn gwneud argymhelliad er mwyn cwrdd â'r meini prawf?
Rhowch fanylion eich hyfforddwr wrth lenwi'r cais. Efallai y byddwn yn cysylltu â’ch canolwr fel rhan o'r broses ymgeisio.
Sut mae dangos lefel fy chwaraeon?
Gallwn yn asesu lefel eich chwaraeon trwy ymgynghori â'ch hyfforddwr a'ch corff llywodraethu.
Pryd y cysylltir â mi mewn perthynas â derbyn y Wobr?
Ar ôl i chi wneud cais am y dyfarniad, byddwch yn derbyn e-bost awtomatig yn cadarnhau ein bod wedi derbyn eich cais. Yna, yn dilyn cais, gofynnir i ymgeiswyr ar y rhestr fer gael cyfweliad anffurfiol byr i drafod eu cais gyda Phennaeth y System Chwaraeon neu aelod arall o staff enwebedig. Wedyn, yn dilyn y cam cyfweliad/rhestr fer, cynhelir asesiadau cais yn ystod mis Awst gan y Panel Ysgoloriaeth Chwaraeon yn seiliedig ar y cais ac adborth o'r cyfweliad. Cewch eich hysbysu a ydych yn gymwys i dderbyn y wobr (yn amodol ar fodloni'r amodau a thelerau) cyn dyddiad cychwyn eich cwrs. Ar ôl i'r amodau a thelerau gael eu bodloni, anfonir cadarnhad atoch gan gynnwys gwybodaeth ar sut i drefnu'r broses o dalu dyfarniad. Os oes gennych unrhyw ymholiadau gallwch gysylltu ag Ollie Toogood ar OToogood@cardiffmet.ac.uk.
Pwy sy'n gwneud y penderfyniad mewn perthynas â'r Wobr?
Yn dilyn cais, gofynnir i ymgeiswyr ar y rhestr fer gael cyfweliad anffurfiol byr i drafod eu cais gyda Phennaeth y System Chwaraeon neu aelod arall o staff enwebedig. Wedyn, yn dilyn y cam cyfweliad/rhestr fer, cynhelir asesiadau cais yn ystod mis Awst gan y Panel Ysgoloriaeth Chwaraeon yn seiliedig ar y cais ac adborth o'r cyfweliad.
A oes angen i mi ail-ymgeisio am y Wobr bob blwyddyn?
Oes, bydd angen i chi ail-ymgeisio bob blwyddyn.