Hafan>Perfformiad Chwaraeon>Gwasanaethau Perfformiad Chwaraeon

Gwasanaethau Perfformiad Chwaraeon

​​​​​Mae ein rhaglenni perfformiad yn cael cefnogaeth ryngddisgyblaethol gan ein Tîm Gwasanaethau Perfformiad mewnol ac yn cael eu cefnogi gan Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd (YChGIC). Gyda llawer o staff llawn amser, staff academaidd a lleoliadau myfyrwyr, darperir gwasanaeth cymorth gwirioneddol integredig ac unigryw i'n rhaglenni perfformio.​​​

Cryfder a Chyflyru

Mae ein tîm yn cyflwyno rhaglen o sesiynau grwp a thimau bach gyda phrofion integredig drwy gydol y tymor.

Mae pob rhaglen wedi'i chynllunio'n benodol i fod o fudd i'r tîm neu'r unigolyn ac mae'n cwmpasu holl ddatblygiad yr athletwr yn berthynol â gofynion y gystadleuaeth neu'r tu allan i'r tymor. Y tu hwnt i gryfder a phŵer, mae cyfuniad o ymarfer cyflymder, ystwythder, plyometrig, dygnwch a sefydlogrwydd yn cael eu tanategu mewn amgylchedd agos, cefnogol, blaengar.

 

Cymerwch olwg agosach ar y Tîm Cryfder a Chyflyru ym Met Caerdydd. ​

​​Ffisiotherapi

​Mae ein tîm yn darparu cymorth adsefydlu a strategaethau lleihau anafiadau yn ogystal â darparu hyfforddiant a darpariaeth diwrnod gem.

Ffordd o Fyw Athletwyr a Datblygiad Personol

​​Mae ein ffordd o fyw athletwyr a'n cymorth datblygiad personol yn canolbwyntio ar ddarparu cefnogaeth a chyfleoedd diduedd ar gyfer datblygiad corfforol.​​

Dadansoddiad Perfformiad

Cyflwynir Dadansoddi Perfformiad mewn partneriaeth ag YChGIC. Gan elwa o'n labordy dadansoddi a chamerâu ar y campws wedi'u hintegreiddio i'n cyfleusterau chwaraeon, gall timau gael dadansoddiad o'u gemau a'u hyfforddiant​.​

Performance Analysis Suite

 

Gwasanaethau Perfformiad Eraill

​​Mae rhai o'n rhaglenni perfformio hefyd yn gweithio'n agos gyda staff academaidd i elwa o'r gwaith cyflwyno, ymchwil a phrofi diweddaraf mewn meysydd fel Biomecaneg a Ffisioleg.