Lucy yw Cyfarwyddwr Pêl-fasged Met Caerdydd ac mae'n Uwch Ddarlithydd mewn Chwaraeon Perfformio. Ymunodd Lucy â’r Ysgol ym 1999 fel Ymchwilydd Graddedig ac ers hynny mae wedi gwneud cyfraniad sylweddol i berfformiad chwaraeon, addysg hyfforddwyr a datblygu’r cwricwlwm ar gyfer pêl-fasged, yn y Brifysgol ac yn genedlaethol.
Sefydlodd ac mae’n parhau i arwain Clwb Pêl-fasged ac Academi Iau Met Caerdydd sydd bellach yn glwb o fri rhyngwladol sy’n denu myfyrwyr, chwaraewyr a staff o bob rhan o’r byd, ac mae’n un o’r chwaraeon blaenllaw yn y Brifysgol. Mae'n frolio un o dimau Merched gorau'r DU, gan gynnwys chwaraewyr a staff Olympaidd, tra hefyd yn dilyn llinyn datblygiadol cryf sy'n darparu dysgu trwy brofiad a sgiliau cyflogadwyedd i fyfyrwyr, ac ymgysylltu â'r gymuned leol.
Yn gyn-chwaraewr rhyngwladol ei hun, mae Lucy wedi cyfuno ac ategu ei rôl ym Met Caerdydd â nifer o rolau blaenllaw eraill o fewn Addysg Hyfforddwyr a Pherfformiad Chwaraeon, gan gynnwys Rheolwr Tîm Pêl-fasged Merched Prydain Fawr (gan gynnwys Tîm Prydain Fawr yn Llundain 2012), Rheolwr Hyfforddi a Chyfarwyddwr Perfformiad Pêl-fasged Cymru, Aelod Bwrdd ar gyfer Pêl-fasged Cymru a'r fenyw gyntaf i fod yn Aelod Bwrdd ar gyfer Pêl-fasged Prydain.