Mae Chwaraeon Met Caerdydd, Undeb y Myfyrwyr ac Ysgol Gwyddorau Chwaraeon ac Iechyd Caerdydd yn gweithio mewn partneriaeth i gefnogi profiad chwaraeon a hamdden myfyrwyr yn y Brifysgol. Anogir myfyrwyr i arfer ffordd iach ac egnïol o fyw wrth astudio ym Met Caerdydd. Mae'r cynllun aelodaeth Chwaraeon a Ffitrwydd ar gyfer myfyrwyr yn rhoi mynediad i'r cyfleusterau a'r rhaglenni rhagorol sydd ar gael.