Ym Met Caerdydd rydym wedi ymrwymo i gefnogi myfyrwyr i berfformio ar y lefel uchaf o chwaraeon wrth gydbwyso eu hastudiaethau. Rydym yn gweithredu amgylchedd Gyrfa Ddeuol Achrededig TASS, sy’n sail i’n hymrwymiad i fyfyrwyr gyrfa ddeuol.
Polisi Gonsesiwn Chwaraeon Perfformio ac Athletwyr Gyrfa Ddeuol
Mae ein polisi yn darparu dwy lefel o gymorth:
- Haen 1: Statws Athletwr Gyrfa Ddeuol – Cydnabod myfyrwyr yn ffurfiol am gefnogaeth barhaus yn seiliedig ar lefel perfformiad parhaus.
- Haen 2: Consesiwn Chwaraeon Perfformio – Ar gyfer y rhai had ydynt yn cael eu cydnabod fel Athletwyr Gyrfa Ddeuol ac ar gyfer achosion lle mae gwrthdaro rhwng ymrwymiad chwaraeon perfformio ac ymrwymiad academaidd sydd ei angen ar amser penodol (h.y., ymarferol, arholiad, cyflwyniad).
Ar gyfer y ddwy haen, gellir cynnig consesiynau academaidd i fyfyrwyr megis cyflwyno’n hwyr, peidio â chyflwyno neu fformatau asesu arall.
Cliciwch
yma i ddarllen ein canllaw myfyrwyr i ddeall y broses cyn gwneud cais. Mae’r ddogfen hon hefyd yn cynnwys dolen i’r polisi llawn.
Cliciwch yma i wneud cais.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Katie Payne, Rheolwr Ffordd o Fyw ac Addysg Athletwyr, at dcapolicy@cardiffmet.ac.uk.