Cynnwys y Cwrs
Bydd y rhaglen yn rhan annatod o'r rhaglenni gradd Anrhydedd canlynol a gyflwynir yn
Ysgol Gwyddorau Iechyd neu Addysg Caerdydd. Bydd ymgymryd â'r flwyddyn sylfaen yn
golygu y bydd y radd anrhydedd amser llawn neu HND berthnasol yn cymryd un flwyddyn
ychwanegol i'w chwblhau. Bydd y flwyddyn sylfaen yn gweithredu fel Blwyddyn 0 a bydd
myfyrwyr sy'n dymuno ymgymryd â'r rhaglen sylfaen yn gwneud cais am y rhaglen radd
berthnasol, gan ddefnyddio'r cod UCAS perthnasol ac yn gwneud cais am bwynt
mynediad 0 ar wefan UCAS.
HND / BSc (Anrh) Iechyd a Gofal Cymdeithasol
BSc (Anrh) Iechyd yr Amgylchedd
v
Bydd y rhaglen sylfaen yn datblygu eich hyder a'ch cymhwysedd wrth gaffael y sgiliau astudio sy'n ofynnol ar gyfer cychwyn ar radd Anrhydedd sy'n seiliedig ar wyddor iechyd, gan eich cyflwyno i gronfa wybodaeth sylfaenol y gallwch chi adeiladu arni, naill ai trwy'r broses hunan-astudio neu mewn, rhaglenni pellach o astudio dan gyfarwyddyd.
Mae'r cwrs yn fodiwlaidd o ran strwythur sy'n cynnwys set o fodiwlau craidd, ynghyd â set o fodiwlau pellach sy'n benodol i'r llwybr astudio o'ch dewis.
Modiwlau Craidd mewn:
- Cyflwyno Seicoleg [10 credyd]
- Cyflwyno Gwaith Ieuenctid a Chymunedol [10 credyd]
- Cyflwyno Cymdeithaseg [10 credyd]
- Cyflwyno Iechyd a Gofal Cymdeithasol [10 credyd]
Dysgu ac Addysgu
Defnyddir amrywiaeth o strategaethau addysgu i adlewyrchu gofynion y pwnc penodol; amrywiaeth o arddulliau dysgu myfyrwyr; bodolaeth profiad proffesiynol yn y grŵp; a lefel a math yr astudiaeth sy'n ofynnol dros y rhaglen.
Ymhlith y dulliau mae darlithoedd, gwaith grŵp bach, sesiynau ymarferol, defnyddio'r Amgylchedd Dysgu Rhithiol (VLE), gweithdai, sesiynau tiwtorial a dysgu annibynnol.
Disgwylir i fyfyrwyr ymgysylltu trwy bresenoldeb rheolaidd mewn sesiynau addysgu / dysgu a chwblhau tasgau penodedig.
Asesu
Asesir pob modiwl yr ydych yn ymgymryd ag ef er mwyn dangos a darparu tystiolaeth ar gyfer eich cyflawniad academaidd. Mae natur yr asesiad yn amrywio yn ôl ei natur a'i bwrpas, ond defnyddir amrywiaeth eang o ddulliau asesu fel bod myfyrwyr yn profi cymaint o fathau â phosibl wrth baratoi ar gyfer eu llwybrau dilyniant.
Mae strategaethau asesu’n cynnwys:
Arholiadau - Gall y rhain gynnwys traethodau academaidd, cwestiynau amlddewis a chwestiynau ateb byr.
Gwaith Cwrs - Gall hyn gynnwys traethodau academaidd, adroddiadau ymchwil, profion dosbarth, cyflwyniadau, posteri, astudiaethau achos, aseiniadau myfyriol a phortffolios.
Bydd asesiadau penodol ar gyfer pob modiwl yn cael eu hamlinellu mewn llawlyfrau modiwlau a'u cefnogi ymhellach yn ystod sesiynau addysgu / dysgu.
Cyflogadwyedd, Gyrfaoedd a Dilyniant i Astudio Pellach
Pwrpas cwblhau Blwyddyn Sylfaen yw galluogi myfyrwyr i symud ymlaen i raglenni HND / Gradd. Dyma gam cyntaf taith tuag at gyflogadwyedd ac, yn y pen draw, gyrfa yn dilyn addysg drydedd lefel. Dechreuir Cynllunio Datblygiad Personol (PDP) yn y flwyddyn Sylfaen fel fframwaith paratoi ar gyfer y nod hwn.
Mae Cynllunio Datblygiad Personol yn broses strwythuredig sy'n galluogi myfyrwyr i fyfyrio ar ddysgu, perfformiad a chyflawniad, ac i gynllunio ar gyfer datblygiad proffesiynol ac academaidd yn y dyfodol. Fe'i cefnogir yn bennaf yn y modiwl Sgiliau Allweddol.
Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais
Fel rheol, dylai fod gan ymgeiswyr bum gradd TGAU gan gynnwys Iaith Saesneg (neu Gymraeg Iaith Gyntaf), Mathemateg* a Gwyddoniaeth gradd C neu'n uwch / gradd 4 neu'n uwch (ar gyfer ymgeiswyr sydd â TGAU newydd eu diwygio yn Lloegr) ynghyd ag un o'r canlynol:
- 48 pwynt sef o leiaf 2 gymhwyster Safon Uwch neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt ar safon briodol ar gyfer mynediad i Addysg Uwch, ond mewn meysydd pwnc sy'n methu â chwrdd â'r gofynion mynediad ar gyfer eu rhaglen radd israddedig arfaethedig.
- 48 pwynt o 2 gymhwyster Safon Uwch o leiaf neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt mewn meysydd pwnc sy'n berthnasol i'w rhaglen radd israddedig arfaethedig, ond ar safon sy'n methu â chwrdd â'r gofynion mynediad i Addysg Uwch ym Mlwyddyn 1.
*Ar gyfer ymgeiswyr o Gymru sy'n eistedd y TGAU Mathemateg diwygiedig, byddwn yn derbyn naill ai TGAU Mathemateg neu Mathemateg - Rhifedd.
Gellir ystyried darpar fyfyrwyr nad ydynt yn cwrdd â'r meini prawf uchod ar sail unigol a gellir eu galw am gyfweliad.
I gael gwybodaeth benodol am anghenion derbyn neu os nad yw'ch cymhwyster wedi'i restru, cysylltwch â Derbyniadau neu edrychwch ar dudalen Chwilio am Gwrs UCAS. Mae rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad, gan gynnwys cymwysterau o'r UE ar gael trwy glicio yma.
Y Broses Ddethol:
Mae'r dewis fel arfer ar sail cais UCAS wedi'i gwblhau a chyfweliad lle bo hynny'n berthnasol.
Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder i safon IELTS 6.0 neu gyfwerth o leiaf. I gael manylion llawn am sut i wneud cais ac am gymwysterau Iaith Saesneg ewch i’r tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.
Sut i Wneud Cais: Dylid gwneud ceisiadau amser llawn ar gyfer y cwrs hwn ar-lein i UCAS yn www.ucas.com. Am wybodaeth bellach ewch i'n tudalennau Sut i Wneud Cais yn
www.cardiffmet.ac.uk/howtoapply.
Myfyrwyr aeddfed
Ymgeisydd aeddfed yw unrhyw un dros 21 oed nad aeth i'r brifysgol ar ôl ysgol neu goleg. Mae Met Caerdydd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr aeddfed a gellir cael mwy o gyngor a gwybodaethyma.
Cysylltu â Ni