Hafan>Busnes>Cwrdd â'r Tîm

Cwrdd â'r Tîm

Mae’r Gwasanaethau Ymchwil a Menter (RES) ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn cefnogi rhyngweithiadau ymchwil a chyfnewid gwybodaeth gyda busnesau a’r gymuned ehangach. Ar lefel weithredol, y RES yw'r porth i sefydliadau allanol gael mynediad at gefnogaeth a gwybodaeth o’r Brifysgol.

Rydym yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws pob un o'n tri champws ar amrediad eang o weithgareddau ymchwil a throsglwyddo gwybodaeth, gan gynyddu gwerth masnachol a chymdeithasol gwaith ymchwil y Brifysgol i'r eithaf.

Pwy yw’r Gwasanaethau Ymchwil a Menter?

Yr Athro Sheldon Hanton, Dirprwy Is-Ganghellor (Ymchwil ac Arloesedd)

Athro Seicoleg yw Sheldon Hanton a daeth yn Ddirprwy Is-Ganghellor Ymchwil yn 2012. Cyn hyn, ef oedd Cyfarwyddwr Ymchwil y Brifysgol ac roedd ganddo Swydd Gyfarwyddwr mewn Ymchwil, Astudiaethau Graddedig a Menter. Gwnaeth Sheldon, sy’n wreiddiol o Swydd Lincoln, raddio o Brifysgol Metropolitan Leeds cyn astudio MSc a PhD ym Mhrifysgol Loughborough. 


Fel Dirprwy Is-Ganghellor (Ymchwil), mae'n gyfrifol am yr holl strategaeth ymchwil ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd gan gynnwys cyflwyniad hynod lwyddiannus y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (2014).  Mae ei bortffolio yn cynnwys y Gwasanaethau Ymchwil a Menter a'r Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Dylunio ac Ymchwil (PDR), a derbyniodd Wobr Pen-blwydd y Frenhines yn ddiweddar am ragoriaeth ymchwil mewn dylunio llawfeddygol a phrosthetig. Mae ganddo gyfrifoldeb hefyd dros gyllid ymchwil a menter Ewropeaidd a phob agwedd ar y ddarpariaeth i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig. 


Mae Sheldon yn parhau i wneud gwaith ymchwil ac yn dweud mai ei brif ddiddordebau yw straen gystadleuol a sefydliadol, gwydnwch meddyliol, seicoleg anafiadau ac ymarfer proffesiynol. Mae wedi cael, ac yn parhau i gael, nifer o swyddi golygyddol rhyngwladol proffil uchel ac mae wedi ymgynghori â Thîm Nofio Lloegr mewn gwersylloedd hyfforddi a chystadlaethau rhyngwladol yn y gorffennol. 


Gellir gweld proffil ymchwil cryno yma.
Gellir cysylltu â Sheldon ar +44 (0) 29 2041 6612 neu shanton@cardiffmet.ac.uk

Yr Athro Steve Gill, Cyfarwyddwr Ymchwil ac Astudiaethau Graddedig

 

Steve gill picture.pngDechreuodd Steve Gill ei rôl bresennol gyda’r Gwasanaethau Ymchwil a Menter ym mis Rhagfyr 2015. Mae ei rolau eraill yn cynnwys bod yn Athro Dylunio Cynnyrch Rhyngweithiol a Deon Cyswllt (Ymchwil) yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd. 

Mae ganddo gyfrifoldeb penodol am y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF), cyswllt CCAUC, Setiau Dysgu Gweithredol, Addysgu a lywir gan Ymchwil a Menter a phrosiectau eraill sy’n cefnogi'r Cyfarwyddwr Ymchwil ac Astudiaethau Graddedig. 

Mae Steve yn parhau i wneud gwaith ymchwil. Mae ei ddiddordebau craidd yn ymwneud â dylunio sy'n canolbwyntio ar bobl, dylunio cynnyrch sy'n hanfodol i fywyd, yr elfen gorfforol, creu prototeipiau cyflym o gynhyrchion sydd wedi'u hymwreiddio mewn cyfrifiaduron a dylunio rhyngweithio. Thema gyffredin ynddynt i gyd yw'r awydd i osod pobl wrth galon gwaith ymchwil sy’n ceisio creu effaith yn y 'byd go iawn'. Dros y blynyddoedd mae ei ddiddordebau ymchwil wedi amrywio, gan ei arwain at oruchwylio graddau PhD mewn meysydd mor amrywiol ag offeru ail-ffurfweddol, Thermograffeg, Dylunio, Gweledigaeth Brofiadol a Cherameg.

Gellir gweld proffil ymchwil cryno yma. 

Gellir cysylltu â Steve ar +44 (0) 29 2041 6732 neu sjgill@cardiffmet.ac.uk 

Matthew Taylor, Cyfarwyddwr Arloesedd

Bu Matthew’n gweithio am sawl blwyddyn mewn rolau masnachol yn y sector preifat yn BT a Dŵr Cymru, gan weithio am saith mlynedd wedi hynny ym Mhrifysgol Reading fel Rheolwr Cynorthwyol y Ganolfan Trosglwyddo Gwybodaeth cyn ymuno â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd yn 2005. Yn ei rôl bresennol, mae’n gyfrifol am reolaeth weithredol y Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesi (GYA) a datblygiad a darpariaeth Strategaeth Ymchwil ac Arloesi Met Caerdydd, gan ymdrin â gweithgareddau gan gynnwys ymgynghori, trosglwyddo gwybodaeth, cwmnïau deillio ac entrepreneuriaeth.

Mae’n cynrychioli diddordebau ymchwil ac arloesi ar y Bwrdd Academaidd, y Pwyllgor Ymchwil ac Arloesi, y Pwyllgor Strategaeth Ddigidol, ac yn Cadeirio Panel Eiddo Deallusol Met Caerdydd. Mae hefyd yn gyfrifol am arwain Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru’r Brifysgol.

Matthew yw’r prif gyswllt ar gyfer Deoniaid Ysgol a Phenaethiaid Uned ar bob mater yn ymwneud â phortffolio arloesi’r Brifysgol a gellir cysylltu ag ef ar + 44 (0)29 2041 6614 neu mtaylor@cardiffmet.ac.uk

Leila Gouran, Cyfarwyddwr Academiau Byd-eang

Leila Gouran.fw.pngMae Leila yn cefnogi Met Caerdydd ar lefel uwch ar yr holl faterion cyllido ymchwil ac arloesi Ewropeaidd, gan gefnogi datblygu a gweithredu strategaethau i sicrhau bod Met Caerdydd yn gwneud y gorau o fuddion mentrau ymchwil ac arloesi Ewropeaidd, yn enwedig y Rhaglenni Fframwaith a chyfleoedd cyllido Cydgyfeirio.

Mae Leila yn cynghori ac yn cefnogi prosiectau o'r cenhedlu hyd at eu cwblhau ac yn gweithredu fel pwynt cyswllt allweddol ar gyfer Swyddfa Ariannu Ewropeaidd Cymru a'r Comisiwn Ewropeaidd lle mae'n casglu gwybodaeth ac yn dylanwadu ar gyfleoedd cyllido lle bo hynny'n bosibl.

Cyn ymuno â Met Caerdydd, bu Leila'n gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen lle bu'n rheoli nifer o brosiectau dysgu a chyflogaeth gwerth mwy na £ 10 miliwn.

Roedd y cyrff comisiynu yn cynnwys Llywodraeth Cymru, Swyddfa Ariannu Ewropeaidd Cymru, yr Adran Gwaith a Phensiynau a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Yn flaenorol, bu Leila yn gweithio am nifer o flynyddoedd ar draws y sector breifat ac elusennol yn rheoli contractau hyfforddi a chyflogaeth ac yn dysgu oedolion a phlant. Ymunodd Kate â Met Caerdydd ym 1999, gan weithio yn y PDR i ddechrau cyn symud i'r Gwasanaethau Ymchwil a Menter (RES) yn 2000. Fel aelod o’r RES, mae Kate wedi bod yn rhan o ystod eang o weithgareddau cysylltiedig ag ymchwil gan gynnwys cyflwyniadau Ymarfer Asesu Ymchwil 2001 a 2008, a gweinyddu amryw o brosiectau a ariannwyd yn allanol. Yn ei rôl bresennol, mae Kate yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu a gweithredu polisïau a strategaethau ymchwil Met Caerdydd. Mae hi'n ymwneud â datblygu cyflwyniad y sefydliad i'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil ar hyn o bryd ac yn gweinyddu prosiectau Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS) Met Caerdydd. Mae Kate hefyd yn ysgrifennydd i'r Bwrdd Ymchwil a Menter a Phwyllgor Moeseg y Brifysgol. Gellir cysylltu â Kate ar +44 (0) 29 2041 6747 neu kajefferies@cardiffmet.ac.uk Mae Leila hefyd yn gwasanaethu fel aelod pwyllgor ar gyfer Fforwm Cynghori Elusennau Cymru ac fel Is-gadeirydd Swyddfa Cyngor ar Bopeth Torfaen. Gellir cysylltu â Leila ar 029 2020 5972 (est 5972) neu lgouran@cardiffmet.ac.uk

Tara Cater, Swyddog Arloesi Ymchwil Academiau Byd-eang

TC.jpgMae gan Tara gefndir fel ymchwilydd gwyddor gymdeithasol, gyda mwy na 10 mlynedd o brofiad o weithio gyda chymunedau anghysbell a gwledig yn yr Arctig yng Nghanada, Sgandinafia ac Awstralia. Drwy gydol ei graddau ymchwil ôl-raddedig a'i phrofiadau gwaith, gweithiodd ar y cyd gyda rhanddeiliaid a grwpiau cymunedol lleol i ystyried ymgysylltiad y cyhoedd mewn prosesau gwneud penderfyniadau amgylcheddol ynghylch datblygu diwydiannol a phrosiectau ymchwil gwyddonol. Cyn ymuno â thîm gwasanaethau ymchwil ac arloesi Metropolitan Caerdydd ym mis Mawrth 2020, gweithiodd Tara fel cynorthwyydd ymchwil yn yr adran Biowyddorau ym Mhrifysgol Abertawe, gan gydlynu gweithgareddau a digwyddiadau ymgysylltu ag aelodau'r gymuned sy'n byw ac yn gweithio ar hyd afon Tawe, gan gynnwys gweithdai celfyddydau creadigol i archwilio gwybodaeth, atgofion a chanfyddiadau amrywiol pobl am yr afon.

Gall sefydliadau neu staff sydd am ddysgu mwy am yr academïau byd-eang gysylltu â Tara yn ticater@cardiffmet.ac.uk.

Kate Jefferies, Rheolwr FrRhY a Pholisi

Mae Kate wedi bod yn rhan o'r tîm GYA ers nifer o flynyddoedd ac mae hi wedi cymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau sy'n gysylltiedig ag ymchwil, yn amrywio o gymorth i fyfyrwyr YÔR i weinyddu prosiectau amrywiol a ariennir yn allanol a datblygu polisi ymchwil.

Yn ei rôl bresennol, mae Kate yn rheoli datblygiad strategol polisi ac arfer FfRhY ar draws y Brifysgol ac yn cydlynu'r cyflwyniadau i bob Uned Asesu.  Yn ogystal, mae'n cefnogi'r gwaith ehangach o ddatblygu a gweithredu polisïau a strategaethau ymchwil Met Caerdydd.  

Gallwch gysylltu â Kate ar kajefferies@cardiffmet.ac.uk


Rich Neil, Dirprwy Gyfarwyddwr Ymcwhi ac Rheolwr Portffolio Doethuriaeth Broffesiynol

Richneil.jpgPenodwyd Rich Neil ym mis Hydref 2016 fel ein Rheolwr Portffolio Doethuriaeth Broffesiynol llawn amser. Rich sy’n rheoli darpariaeth a phortffolio’r Ddoethuriaeth Broffesiynol ar draws pum ysgol y Brifysgol.

Gellir gweld proffil ymchwil cryno yma. 

Gellir cysylltu â Rich ar rneil@cardiffmet.ac.uk

Jeff Alder, Swyddog Astudiaethau Graddedig

Ar ôl ugain mlynedd yn gweithio mewn rolau amrywiol gyda BT yn Llundain, ymunodd Jeff â thîm RES ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn 2003. Ef yw ysgrifennydd un o brif bwyllgorau academaidd y brifysgol, y Pwyllgor Graddau Ymchwil. Jeff hefyd yw'r prif bwynt cyswllt yn RES ar gyfer materion sy’n ymwneud â’r radd ymchwil, sy'n cynnwys cysylltu â myfyrwyr gradd ymchwil, staff academaidd, unedau canolog eraill ac Ysgolion a’u cynghori. 

Gellir cysylltu â Jeff ar +44 (0) 29 2041 6787 neu jalder@cardiffmet.ac.uk

Orla Govers, Swyddog Cymorth Ymchwil

Symudodd Orla i Met Caerdydd yn 2007 ac mae'n cefnogi staff o bob ysgol i ddatblygu, cyflwyno a gweinyddu ceisiadau cyllid ymchwil i Gynghorau Ymchwil, Ymddiriedolaethau ac Elusennau Cenedlaethol a Rhyngwladol. 

Gellir cysylltu â Orla ar +44 (0) 29 2041 7042 neu ogovers@cardiffmet.ac.uk

Fernando Pabst Silva, Swyddog Cymorth Grant Ymchwil

Ymunodd Anne â Met Caerdydd ym 1997 fel gweinyddwr a oedd yn ymdrin â myfyrwyr a systemau myfyrwyr yn y Gyfadran Gelf, Dylunio a Pheirianneg. Ym 1999, symudodd Anne i'r Uned Cymorth Ymchwil a Menter newydd, lle bu’n gweithio mewn rolau amrywiol yn cefnogi'r Swyddog Cyswllt Diwydiannol ym mhob mater a oedd yn ymwneud ag Ymchwil a Menter.

Mae Anne yn rheoli swyddogaeth weinyddol y Gwasanaethau Ymchwil a Menter ar hyn o bryd, ac mae'n gyfrifol am gyllidebau ariannol yr Uned. Mae ganddi gyfrifoldeb cyffredinol dros systemau gweinyddu, gweithrediadau ariannol a gweithdrefnau'r rhaglenni KTP Clasurol a byrrach, ac mae Anne hefyd yn darparu cefnogaeth a chyngor ar y prosiectau Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS) yn y Brifysgol. 

Gellir cysylltu ag Anne ar +44 (0) 29 2041 6612 neu albarratt@cardiffmet.ac.uk


Richard Mahoney, Dirprwy Gyfarwyddwr Arloesi ac Uwch Swyddog Arloesi

Dechreuodd Richard ei yrfa fel peiriannydd. Ymunodd â thîm y Gwasanaethau Ymchwil a Menter yn 2009. Mae Richard yn helpu sefydliadau allanol i elwa ar y wybodaeth, yr arbenigedd a'r cyfleusterau sy'n bodoli o fewn y Brifysgol. Mae hefyd yn cynorthwyo staff academaidd i gael yr effaith gymdeithasol, ddiwylliannol ac economaidd gorau posibl o’u hymchwil. Mae nifer o ffyrdd y gall staff Met Caerdydd a’r diwydiant gydweithio er budd pawb. Mae rhai ohonynt yn cynnwys ymgynghori, trwyddedu, ymchwil masnachol, rheoli prosiectau, datblygiad proffesiynol parhaus a dysgu seiliedig ar waith. Mae Richard yn helpu i adnabod a hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer cydweithredu, ac yn cynorthwyo yn y gwaith o ddod o hyd i gyllid allanol i gefnogi'r bartneriaeth lle bo’n briodol. 

Gall sefydliadau neu staff sy’n dymuno cymryd rhan mewn prosiectau cydweithredol gysylltu â Richard ar +44 (0) 29 2041 6048 neu rmahoney@cardiffmet.ac.uk

Rae DePaul, Uwch Swyddog Ymchwil ac Arloesi

Ar ôl graddio, cwblhaodd Rae astudiaethau PhD mewn bioleg foleciwlaidd yng Nghaerdydd yn 2011, a bu’n gweithio yn adran gwasanaethau cwsmeriaid a hyfforddiant cwmni olrhain cerbydau rhyngwladol wrth ysgrifennu ei thesis. Wedi hyn, ymunodd Rae â sefydliad Marchnata Gwyddor Bywyd a Thechnoleg lle bu’n arbenigo mewn masnacheiddio eiddo deallusol a yrrir gan dechnoleg am ddwy flynedd cyn ymuno â Thîm Ymchwil a Menter Metropolitan Caerdydd yn 2014. 


Mae Rae yn gweithio'n agos gyda'r Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd a'r Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol i'w helpu i roi eu gwybodaeth a'u harbenigedd ar waith yn y gymuned ehangach - gan gynyddu effaith eu gwaith y tu allan i'r byd academaidd. Mae hi hefyd yn ymwneud â chynorthwyo sefydliadau allanol i ddefnyddio'r cyfleusterau a'r gymuned academaidd o fewn y brifysgol. 


Gall sefydliadau neu staff sy’n dymuno cymryd rhan mewn prosiectau cydweithredol gysylltu â Rae ar +44 (0) 29 2041 6048 neu rdepaul@cardiffmet.ac.uk

Karl Couch, Swyddog Cyswllt Busnes

Karl Couch.jpgArferai Karl weithio yn Swyddfa Gwasanaethau Masnachol Prifysgol De Cymru, yna yn fwyaf diweddar yn y Gyfadran Busnes a Chymdeithas fel Cydlynydd Marchnata a Chyfathrebu ar gyfer rhaglen gydweithredol wedi'i ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.  Ymunodd â thîm y Gwasanaethau Ymchwil a Menter yn 2015. Mae'n gweithio'n agos gyda sefydliadau allanol yn bennaf i ddatblygu menter gydweithredol ac yn cefnogi ysgolion academaidd i ddarparu gweithgareddau trosglwyddo menter a gwybodaeth.

Gall Karl gynorthwyo â’r gwaith o adnabod cyfleoedd i weithio ar y cyd a darparu arweiniad ar y cyfleoedd cyllido sydd ar gael.  Mae'n mynychu rhwydweithiau a digwyddiadau yn rheolaidd gan ddarparu arweiniad a chefnogaeth i ystod eang o sefydliadau.

Gall sefydliadau sy'n dymuno dysgu mwy gysylltu â Karl ar +44 (0) 29 2020 1159 neu kcouch@cardiffmet.ac.uk

Beth Galashan, Swyddog Cymorth Ymchwil ac Arloesi

Wedi iddi gwblhau ei gradd israddedig, aeth Beth i deithio am ddwy flynedd a hanner gan ddychwelyd i'r DU yn 2007. Gweithiodd fel Gweinyddwr yng Nghanolfan Ehangu Cyfranogiad a Chynhwysiant Cymdeithasol Prifysgol Aberystwyth am chwe blynedd cyn ymuno â’r Gwasanaethau Ymchwil a Menter ym Met Caerdydd ym mis Mai 2013. Graddiodd Beth o’i gradd ôl-raddedig mewn Marchnata Uwch ym mis Gorffennaf 2014. 

Beth yw Swyddog Cymorth y RES a hi yw'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer nifer o brosiectau. Mae hi hefyd yn cynorthwyo'r Uwch Weinyddwr i gadw cofnodion ariannol a gweinyddol ac yn cefnogi'r Cyfarwyddwr Prosiectau Ewropeaidd. Beth yw’r Gweinyddwr Prosiect ar gyfer y rhaglen Mynediad at radd Meistr (ATM) hefyd ac mae'n gyfrifol am weinyddu'r holl weithgareddau sy'n gysylltiedig â’r rhaglen Mynediad at radd Meistr. 

Gellir cysylltu â Beth ar 02920 205862 neu bmgalashan@cardiffmet.ac.uk

Nia Lloyd, Gweinyddydd Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesi

Ar ôl gweithio mewn ysgolion busnes yn Reading a Phrifysgol Caerdydd, a bron i 5 mlynedd yn y tîm menter yn Ysgol Reolaeth Caerdydd, dychwelodd Nia i Met Caerdydd i ymuno â'r tîm gwasanaethau ymchwil ac arloesi ym mis Rhagfyr 2018.

Mae Nia yn Ysgrifennydd i'r Pwyllgor ymchwil ac arloesi a'r is-bwyllgor prosiectau byd-eang ynghyd â chefnogi academïau byd-eang, y Ganolfan ar gyfer dysgu seiliedig ar waith, y Ganolfan Entrepreneuriaeth a'r tîm ymchwil ac arloesi ehangach.

Yn rhedwr ac yn wirfoddolwr brwd byddwch bron bob amser yn dod o hyd i Nia yn gwirfoddoli ac yn cymryd rhan mewn Parkrun ar fore Sadwrn.

Gellir cyrraedd Nia ar 029 20 416037 neu nlloyd@cardiffmet.ac.uk


Richard Smith, Swyddog Cyllid Ymchwil ac Arloesi

Mae Richard yn Swyddog Cyllid profiadol ar ôl gweithio mewn rolau cyllid yn seiliedig ar brosiectau ar draws y sectorau cyhoeddus ac addysg uwch ers mwy na 10 mlynedd. Ymunodd Richard â Met Caerdydd yn 2020 ac mae'n cefnogi cydweithwyr â chyllid cyn ac ar ôl dyfarnu, costio a monitro prosiectau a ariannwyd mewn modd effeithiol a chyflwyno hawliadau ariannol.


Sue Hatton, Swyddog Ymgysylltu GYA

SH.jpgMae Sue’n canolbwyntio ar ddatblygu dulliau cyfathrebu allanol a mewnol wedi'u targedu i hyrwyddo llwyddiannau ymchwil ac arloesi cydweithwyr academaidd ar draws y Brifysgol. 

Cyn hyn, roedd Sue’n Gyfarwyddwr yn y swyddfeydd Ymgynghori Rheoli yn PwC a Grant Thornton, lle bu'n rheoli perthnasoedd cleientiaid ar lefel Bwrdd ac yn gyfrifol am gyflawni prosiectau amlddisgyblaethol a oedd yn cyflawni newid strategol mewn sefydliadau ar draws y sector.

Mae gan Sue MBA o Warwick a throsglwyddodd yn llwyddiannus i AU ym Mhrifysgol Coventry fel Pennaeth Datblygu Busnes, gan arwain tîm traws-Brifysgol o 15 Rheolwr Datblygu Busnes i gyflawni twf refeniw o un flwyddyn i’r llall. Yn ychwanegol at hyn, sefydlodd ac arweiniodd Sue yr Uned Datblygu Ymchwil gyntaf erioed i gefnogi'r gwaith o gyflawni Strategaeth Ymchwil gyda Rhagoriaeth y Brifysgol.



Chloe Hexter, Gweinyddwr yr Academiau Byd-eang

CH.jpgGraddiodd Chloe o Brifysgol Caerdydd yn 2017 â gradd mewn Cysylltiadau Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth. Ers graddio, mae hi wedi gweithio mewn addysg uwch, gyda phwyslais arbennig ar gyllid Ymchwil ac Arloesi ar ôl dyfarniad. Ymunodd â thîm yr Academïau Byd-eang yn rhan-amser ym mis Mai 2021. Fel rhan o'i rôl, mae Chloe’n helpu i drefnu digwyddiadau’r Academïau Byd-eang fel ein gweithdy rhyngddisgyblaethol blynyddol, golygu ein gwefan, cynorthwyo gyda chyfathrebu a gweinyddu prosiectau o ddydd i ddydd. Mae hi hefyd yn gweithio'n rhan-amser ar y rhaglen KESS 2 Cymru Gyfan a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Joanne Hill, Swddog Datblygu Cynigion

JH.jpgYmunodd Joanne â Met Caerdydd ym mis Mehefin 2021 gydag ystod eang o brofiad mewn Addysg Uwch, trosglwyddo gwybodaeth, datblygu busnes a marchnata. Dechreuodd ei gyrfa ym maes marchnata yn y sector gwestai cyn trosglwyddo i AU lle bu'n Rheolwr PTG ym Mhrifysgol Morgannwg i ddechrau, cyn ymgymryd â rôl Rheolwr Marchnata ac ennill cymhwyster CIM ar gyfer maes Ymchwil a Datblygu Busnes Prifysgol De Cymru. Mae ganddi brofiad ehangach ar ôl rhoi o’i hamser yn llwyddiannus ar hyd y 4 blynedd diwethaf yn gweithio mewn elusen Eiriolaeth Iechyd Meddwl mewn swydd rhwydweithio, datblygu busnes a marchnata. 

Mae Jo’n cefnogi'r gwaith o ddatblygu cynigion ariannu ar draws y Brifysgol sy'n cryfhau cysylltiadau'r Brifysgol â chyflogwyr lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Mae Jo’n canolbwyntio ar ddatblygu Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (PTG), Innovate UK a phrosiectau a ariennir gan SMART Llywodraeth Cymru, ond mae'n awyddus i gefnogi cydweithwyr ym mhob agwedd ar ddatblygu partneriaethau a chynigion.


Karly Wareham, Gweinyddwr Astudiaethau Graddedig

KW.jpgYmunodd Karly â Met Caerdydd yn 2021 ar gyfer ei rôl gyntaf mewn Addysg Uwch. Mae Karly’n cefnogi prosesau gweinyddol y tîm ac mae hi'n bwynt cyswllt ar gyfer myfyrwyr gradd ymchwil a staff academaidd.

Gallwch gysylltu â Karly ar kjwareham@cardiffmet.ac.uk 



Y Ganolfan Entrepreneuriaeth

Y Ganolfan Entrepreneuriaeth yw adran benodedig Prifysgol Metropolitan Caerdydd ar gyfer popeth entrepreneuraidd. Gallant eich helpu i wneud y canlynol:

  • Datblygu sgiliau entrepreneuraidd
  • Gwella eich cyflogadwyedd
  • Rhoi eich syniad busnes ar waith
Maen nhw’n cyflawni hyn drwy redeg ystod eang o weithgareddau trwy gydol y flwyddyn academaidd, o nosweithiau rhwydweithio a chystadlaethau i raglenni dwys sy'n helpu i ddatblygu amrediad o sgiliau.  

I gwrdd â thîm y Ganolfan Entrepreneuriaeth cliciwch yma.


​​​