Hafan>Busnes>Partneriaeth Santander

Partneriaeth Santander

DSC_7904-10.jpg

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn rhan o rwydwaith Prifysgolion rhyngwladol Santander sy'n arbenigo mewn ariannu a chefnogi sefydliadau addysgol. Mae Santander wedi bod yn gweithio yn y sector addysg ers dros 25 mlynedd bellach ac mae'n cynnwys dros 1,400 o brifysgolion ledled y byd.

Arwyddwyd cytundeb gyda Santander gyntaf yn 2012, ac fe’i hail-arwyddwyd yn 2018 gan yr Athro Cara Aitchison, Is-Ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd, a Matt Hutnell, Cyfarwyddwr, Prifysgolion Santander y DU.  

I gael gwybodaeth fanylach am bob un o agweddau'r bartneriaeth cliciwch ar y tabiau isod: 

Ynglŷn â'r Bartneriaeth

Mae Prifysgolion Santander yn rhaglen fyd-eang unigryw ac arloesol sy'n cynnig cyfleoedd addysg, cyflogadwyedd ac entrepreneuriaeth i fyfyrwyr a gweithwyr prifysgol, a hyfforddiant a chefnogaeth ar gyfer tyfu a thrawsnewid busnesau newydd a BBaCh. O'r cychwyn cyntaf, mae Santander wedi buddsoddi mwy na €2 biliwn ac wedi dyfarnu dros 630,000 o ysgoloriaethau a grantiau.

Gyda phecyn o gefnogaeth ariannol ac o fath arall wedi'i deilwra, mae Santander wedi helpu myfyrwyr Met Caerdydd i hybu eu rhagolygon gyrfa trwy interniaethau â thâl neu deithio dramor; eu grymuso i ddod â’u syniadau busnes yn wir; a chefnogi eu dysgu gydag ysgoloriaethau a bwrsariaethau.   

Cyllid ar gyfer Entrepreneuriaid

Trwy'r bartneriaeth â Santander, mae'r Ganolfan Entrepreneuriaeth yn gallu darparu cefnogaeth ariannol amhrisiadwy i fyfyrwyr a graddedigion sy'n archwilio syniadau am fentrau cymdeithasol a busnesau. Grant o £500 yw’r Gronfa Sbarduno EntAct sy'n galluogi myfyrwyr neu raddedigion i brofi syniadau, amddiffyn Eiddo Deallusol hanfodol a chymryd y camau cyntaf hynny i gychwyn eu sefydliad. Mae Cronfa Cychwyn CF5 yn darparu cefnogaeth ariannol fwy sylweddol i'r rheiny sy'n barod i newid i fasnachu’n llawn amser. Defnyddir Cronfa Cychwyn CF5 ar gyfer gwariant cyfalaf, masnachu prawf pellach ac amddiffyn Eiddo Deallusol, yn ogystal â darparu incwm i'r myfyrwyr graddedig fel y gallant ganolbwyntio ar wneud eu sefydliad yn gynaliadwy. Mae cyllid Santander yn rhan hanfodol o'r gefnogaeth gynhwysfawr i fusnesau newydd a ddarperir gan y Ganolfan Entrepreneuriaeth ac mae wedi cefnogi dros 50 o sefydliadau newydd i gychwyn a thyfu.


Ysgoloriaethau Myfyrwyr Santander

Mae Ysgoloriaethau Myfyrwyr Santander ar gael ar wahanol adegau trwy gydol y flwyddyn i gefnogi myfyrwyr â'r costau sy'n gysylltiedig ag ymweld â phrifysgol arall i hybu eu hymchwil a / neu eu hastudiaethau. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

I gael gwybodaeth gyffredinol am y berthynas â Santander, cysylltwch â Matthew Taylor, Cyfarwyddwr Arloesi:

E-bost: mtaylor@cardiffmet.ac.uk

Ffôn: 029 2041 6614 ​​​

Ewch yn ôl i’r dudalen Busnes