Mae'r cwrs Twf Busnes ac Arweinyddiaeth 20Twenty wedi ennill ei blwyf o ran darparu sgiliau arwain a rheoli o ansawdd uchel gyda phwyslais ar ddatblygiad strategol, sbarduno arloesedd a sicrhau twf busnes proffidiol a chynaliadwy.
Fe'i cyflwynir gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor a'i sybsideiddio gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Dechreuodd dros 600 o gyfranogwyr ar y rhaglen hon ac mae 10% o'r 300 o brif fusnesau Cymru eisoes wedi bod ar y rhaglen.