Gwasanaethau Busnes
Mae nifer o wasanaethau ar gael i fusnesau trwy Met Caerdydd, gan gynnwys:
-
Gwasanaethau marchnata a busnes
-
Datblygu Cynnyrch Newydd
-
Ymchwil a datblygu
-
Dylunio, prototeipio a swp-gynhyrchu
-
Trosglwyddo gwybodaeth
Gwasanaeth ymgynghori
Gall cael y cyngor cywir wneud byd o wahaniaeth rhwng llwyddo neu fethu. Yma ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd mae gennym arbenigedd sy'n cwmpasu lliaws o ddiwydiannau a all eich helpu i ddatblygu eich busnes gyda datrysiadau wedi'u teilwra ar eich cyfer drwy brosiectau ymgynghori a datblygu.
Mae gweithio gyda Met Caerdydd fel gwasanaeth ymgynghori yn ffordd wych o ddatblygu perthynas a gwella'ch prosesau, eich cynhyrchion a'ch gwasanaethau. Gall ein pobl academaidd ar
draws pum ysgol y Brifysgol a'n
hunedau masnachol gefnogi busnesau drwy ddefnyddio’r arbenigedd sydd ganddynt i fynd i'r afael ag ystod amrywiol o heriau. Dim ond un o'r prif lwybrau ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth yw ymgynghori – mae’n cyflwyno buddion busnes go iawn sy'n tarddu o'n cryfderau ymchwil.
Sut y gall Gwasanaethau Ymchwil a Menter helpu
Gall tîm y Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesi (RIS) nodi'r arbenigedd academaidd sydd ei angen arnoch chi. Gweler rhai o’r meysydd y gall RES a'n pobl academaidd eich helpu chi â nhw isod:
- Datblygu cynnyrch a/neu wasanaeth newydd
- Ymchwil a datblygiad
- Gwaith dadansoddi, profi a dilysu
- Cyflenwi cyngor a barn arbenigol
- Astudiaethau dichonoldeb a chwmpasu
- Ymchwil i’r Farchnad
- Mapio ffyrdd technoleg
- Dylunio, prototeipio a swp-gynhyrchu
Ymchwil Contract
Os yw eich busnes yn wynebu her sy'n gofyn am wybodaeth nad yw'n bodoli eto, efallai y gall unigolyn academaidd o Met Caerdydd eich helpu i symud ymlaen drwy wneud gwaith ymchwil perthnasol ar eich rhan. Gall ein tîm yn y Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesi (RIS) nodi’r arbenigedd academaidd sydd ei angen arnoch a rhoi’r broses ar waith.
Cyfleoedd cyllido i gydweithio
Mae nifer o gyfleoedd a ariennir ar gael sy’n amrywio o brosiectau cenedlaethol a rhyngwladol a ariennir, o ymchwil pur i fusnes sy’n ennyn gwaith ymchwil. Caiff y cynlluniau hyn eu hariannu’n bennaf drwy sefydliadau llywodraethol ac elusennau, ond hefyd drwy gyfleoedd cyllido mewnol yma ym Met Caerdydd. Trwy gydweithredu â busnesau gallwn sicrhau cyllid o'r cynlluniau hyn.
Dyma nifer o gyfleoedd cyllido i chi eu hystyried:
Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP)
Partneriaeth rhwng cwmni, prifysgol a myfyriwr graddedig (Cydymaith) yw KTP. Mae’r bartneriaeth yn gweithio gyda'i gilydd i gyflawni prosiect strategol ar gyfer y busnes na fyddai'r cwmni'n gallu ei wneud heb y wybodaeth a'r arbenigedd a ddarperir gan y Brifysgol. I gael rhagor o wybodaeth am KTPs dilynwch y ddolen isod:
Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth
Pwy all wneud cais: Cwmnïau mawr a bach.
Partneriaethau SMART
Mae Partneriaethau SMART yn cynnig help ariannol i brosiectau cydweithredol ac arloesol sydd angen help arbenigwyr arnyn nhw i dyfu, i fod yn fwy cynhyrchiol ac yn fwy cystadleuol.
Nod Partneriaethau SMART yw cefnogi prosiectau cydweithredol, gyda phwyslais clir ar wella capasiti a gallu busnesau Cymru i ddatblygu gweithgareddau ymchwil a datblygu trwy eu cysylltu â chyrff ymchwil ac â chynorthwyydd i'w helpu i weithio ar brosiect penodol sy'n datblygu gwasanaeth, cynnyrch neu broses newydd, a hynny’n unol ag Arbenigo Craff.
Gwahodd ceisiadu am Bartneriaethau SMART
Cyllid Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil a Menter
Gall tîm Swyddfa Ewropeaidd y Gwasanaethau Ymchwil a Arloesi weithio gyda chi i nodi unrhyw gyllid Ewropeaidd sydd ar gael ar gyfer cydweithio. I gael gwybod sut y gallwn eich helpu, cysylltwch â Rae DePaul
Pwy all wneud cais: Cwmnïau mawr a bach yn dibynnu ar y cyllid.
Cyllid Mewnol sydd ar gael
Trwy gydnabod ei bod yn werth i brifysgolion ymhél â'r materion sy'n effeithio ar y gymuned ehangach a
thrwy weithio gyda sefydliadau y tu allan i fyd addysg, mae gan Met Caerdydd gynlluniau cyllido mewnol i helpu ein staff i ddatblygu a meithrin perthnasoedd â sefydliadau partner allanol.
I gael rhagor o wybodaeth am ba gynlluniau sydd ar gael ar hyn o bryd dilynwch y ddolen isod i gysylltu â'r tîm:
Cysylltwch â thîm y RIS
Pwy all wneud cais: Cwmnïau mawr a bach.
Cymorth i fusnesau bach a chanolig
Rydym yn cydnabod y gall y gost ariannol i fusnesau bach a chanolig o gynhyrchu syniadau, technolegau a phrosesau newydd i sicrhau mantais gystadleuol fod yn uchel. Mae Met Caerdydd yn cynnig ystod o gynlluniau i fusnesau bach a chanolig i yrru eu busnes yn ei flaen. Rydym yn deall y gallai fod gennych gynlluniau ar gyfer twf ond yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i'r math cywir o gymorth busnes, neu ddod o hyd i’r bobl sydd â'r sgiliau cywir. Gweler isod rai ffyrdd y gallwn ni helpu:
Gwasanaeth Ymgynghori
Gall tîm y Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesi (RIS) nodi'r arbenigedd academaidd sydd ei angen arnoch chi
yn benodol fel busnes bach a chanolig. Cysylltwch â'r tîm i drafod sut y gallwn helpu:
Cysylltwch â'r Tîm Busnes
Hyfforddiant i'ch staff
Gall y
Ganolfan Dysgu Seiliedigar Waith weithio gyda chi i nodi’r hyfforddiant sydd ei angen arnoch chi a'ch staff. Maen nhw'n canolbwyntio ar ddatblygu'r gweithlu drwy ddatrysiadau dysgu cymhwysol ac ymarferol y gellir eu teilwra i'ch anghenion.
Cyllid Innovate UK
Mae nifer o gyfleoedd cyllido ar gael i fusnesau bach a chanolig trwy Innovate UK gyda rhai cynlluniau wedi'u targedu'n benodol at fusnesau bach a chanolig. Mae'r cynlluniau sydd ar gael yn cynnwys talebau Arloesedd, Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth, Cystadlaethau a mwy, gellir gweld rhestr lawn o'u cyfleoedd cyllido yma:
-
Tudalen gyllido Innovate UK
Gweithio gyda'n myfyrwyr
Manteisiwch o hyfforddiant a syniadau ein hisraddedigion, ôl-raddedigion a graddedigion diweddar trwy nifer o gynlluniau yma ym Met Caerdydd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalennau Gwasanaethau Gyrfaoedd.
Defnyddiwch ein cyfleusterau
Gall busnesau bach a chanolig ddefnyddio ein gwasanaethau cynhadledd a lletygarwch;
defnyddio ein hunedau masnachol a llogi ein labordai.
Cymorth Arloesedd a Dylunio Busnes
Gall Met Caerdydd gael cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ein Canolfan Ddylunio ac Ymchwil
Ryngwladol (PDR) er mwyn ysgrifennu adroddiadau ar gyfer busnes, yn benodol, adroddiadau dylunio sy’n canolbwyntio ar wasanaeth neu ddefnyddiwr, a all ychwanegu gwerth i'ch cwmni.