Newyddion | 26 Gorffennaf 2024
Fel Is-Ganghellor Met Caerdydd, hoffwn adleisio sylwadau diweddar ein Hysgrifennydd Gwladol dros Addysg newydd, Bridget Phillipson,
ynghylch pwysigrwydd croesawu myfyrwyr rhyngwladol i'r DU.
Yma ym Met Caerdydd, credwn fod myfyrwyr rhyngwladol yn dod ag amrywiaeth, safbwyntiau byd-eang, a chyfoeth diwylliannol i'n campws a'n cymuned. Mae eu cyfraniadau nid yn unig yn gwella ein hamgylchedd academaidd ond hefyd yn meithrin arloesedd, cydweithio a dealltwriaeth o’n gilydd.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu profiad addysg gefnogol, gynhwysol, ac o'r radd flaenaf i bob myfyriwr. Rydym yn gwerthfawrogi'n fawr y cyfraniad y mae ein myfyrwyr rhyngwladol yn ei wneud nid yn unig i'r brifysgol, ond i ddinas Caerdydd, gan wneud Caerdydd yn lle gwych i fyw, gweithio ac astudio.
Wrth i ni edrych ymlaen at y flwyddyn academaidd newydd, rwyf am groesawu ein holl fyfyrwyr rhyngwladol presennol a darpar fyfyrwyr. Mae eich presenoldeb yn rhan hanfodol o'r hyn sy'n gwneud ein prifysgol yn arbennig.