Ynglŷn â Ni>Pwy ydym ni>Cyd-dynnu a Charedigrwydd

Sut mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn Chwarae ei Rhan

Cardiff Metropolitan University
​Cyd-dynnu a c​haredigrwydd

Er bod y pandemig Coronafeirws, heb os, wedi dod â'r gwaethaf i Gymru a'r DU ehangach yn ddiweddar, mae hefyd wedi dod ag ymdrechion gorau prifysgolion gan gynnwys Met Caerdydd, a gafodd ei henwi’n ‘Brifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021’ gan The Times a The Sunday Times i’r amlwg yn ddiweddar. Llynedd, neidiodd Met Caerdydd 33 safle yn The Times Good University Guide 2021, 41 safle yn The Guardian Good University Guide 2021, a chynnal ei safle ymysg y 10% uchaf o brifysgolion y DU ar gyfer graddedigion aeth ymlaen i sefydlu busnes, gan godi i’r ail safle yn y DU am foddhad myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig a chynnal ein henw da cryf mewn boddhad myfyrwyr israddedig gan yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol (NSS). 

Mae'r perfformiad rhagorol hwn yn ganlyniad strategaeth y Brifysgol o dwf, amrywiad a gwella, ei sefyllfa ariannol gref sy'n deillio o gyrsiau newydd sy'n cwrdd â galw myfyrwyr ac angen cyflogwyr, a'n staff proffesiynol uchel eu cymhelliant. Oherwydd canlyniadau arolwg staff 2020 cyrhaeddodd Met Caerdydd y safle cyntaf yn y DU am y 'Cyflogwr Delfrydol’ o blith holl sefydliadau addysg uwch a arolygwyd gan Capita yn 2019 a 2020. 

Ond nid yw tablau cynghrair yn ddiwedd ynddynt eu hunain ac nid lle i hunan-longyfarch na hunanfoddhad yw pandemig. Effaith ein gweithredoedd sy'n deillio o'r cryfder hwn sy'n bwysig a’r gymuned sy’n cyd-dynnu a charedig sy’n sail i'r cyflawniad hwn sy'n bwysig. 

Ers dechrau'r pandemig Coronafeirws flwyddyn yn ôl, mae fy nghydweithwyr ym Met Caerdydd wedi gweithio'n galetach, yn gyflymach ac yn hirach nag erioed i ddefnyddio eu sgiliau a'u dylanwad i helpu eraill. Y cyd-dynnu a’r caredigrwydd yma fydd yn galluogi ein sector addysg, ein heconomi a'n cymdeithas adfer ar ôl Covid, ac mae hynny’n fwy pwysig nag unrhyw safle yn y tabl cynghrair. Gweithio mewn partneriaethau â myfyrwyr, y llywodraeth, busnes, diwydiant a'n holl randdeiliaid dinesig fydd yn gwasanaethu Cymru orau i wireddu ei photensial ar ôl Covid mewn cymdeithas lle bydd 30% o weithwyr yn parhau i weithio gartref. Bydd angen i’n heconomi dyfu a bydd pawb yn ceisio am well cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a gwell ymdeimlad o iechyd a lles.

Ym Met Caerdydd mae ein staff gwasanaethau academaidd a phroffesiynol wedi sicrhau bod dysgu ac addysgu o ansawdd uchel wedi parhau, llawer ohono ar-lein, a bod anghenion iechyd meddwl myfyrwyr yn cael eu cefnogi; mae staff a myfyrwyr iechyd a gofal cymdeithasol wedi dychwelyd i'r gwaith ar y rheng flaen; mae staff gwyddorau biofeddygol wedi aros yn y gwaith i barhau’r ar ymchwil arloesol i brofi gwrthgyrff; mae myfyrwyr addysg athrawon wedi cefnogi rhieni, gan gynnwys ein staff ein hunain, gydag addysg gartref; mae gwyddonwyr a dylunwyr cynnyrch wedi creu a rhoi offer Cyfarpar Diogelu Personol a phrofi; mae staff chwaraeon wedi cadw ein cymuned yn egnïol gyda rhaglenni lles ar-lein; ac mae staff ystadau a gwasanaethau masnachol wedi ein helpu i gynnal canolfan rhoddwyr gwaed genedlaethol Cymru a chanolfan brofi Covid, rheoli llety ac arlwyo ar gyfer gweithwyr rheng flaen a myfyrwyr y mae Met Caerdydd wedi aros yn gartref iddynt, ac addasu'r campysau ar gost o dros £1m i sicrhau bod cymuned ein prifysgol mor ddiogel â phosibl.

Mae ein staff a'n myfyrwyr yn teimlo ymdeimlad cryf o berthyn ac ymrwymiad i arweinyddiaeth o'r fath sy'n cael ei gyrru gan werthoedd. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae ein penderfyniadau wedi rhoi iechyd a lles corfforol, ariannol a meddyliol ein staff a'n myfyrwyr wrth galon ein hymateb: gwnaethom gadw'r holl staff ar gyflogau llawn trwy gydol 2020; ar hyn o bryd rydym yn recriwtio ar gyfer bron i 100 o swyddi ar gyfer 2021; ni oedd y brifysgol gyntaf yng Nghymru i gynnig ad-daliadau rhent i fyfyrwyr yn ein llety a weithredir gan brifysgol yn nhonnau cyntaf a chyfredol y pandemig; ac ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda'n Hundeb Myfyrwyr gwerthfawr i ddarparu cymorth pellach i fynd i'r afael â chaledi ariannol, tlodi digidol a chefnogaeth a chyngor i fyfyrwyr sy'n wynebu heriau sy'n ymwneud â dysgu ar-lein, gofod astudio annigonol, iechyd meddwl gwael, cam-drin domestig a phryderon ynghylch swyddi yn y dyfodol. Bydd cyhoeddiad y Gweinidog Addysg yr wythnos diwethaf o £40m arall i’r sector addysg uwch o Gronfa Wrth Gefn Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r ymdrechion hyn ymhellach i liniaru caledi myfyrwyr a mynd i’r afael â materion a allai roi myfyrwyr mewn perygl o roi’r gorau i’w hastudiaethau ar adeg o ddiweithdra cynyddol. 

Mae Covid wedi bod yn arbennig o greulon ar y rhai ar yr ymylon. Mae toriadau demograffeg, ethnigrwydd ac economi yn bygwth creu bylchau enfawr sydd â'r potensial i rannu cymdeithas ymhellach ar yr union adeg y mae angen i ni ddod at ein gilydd i adfer effeithiau’r pandemig byd-eang ar y rhai dan anfantais eisoes. 

Mae ein staff, myfyrwyr ac undebau llafur Unsain ac UCU, sy'n gweithio mewn partneriaeth ac mewn cydweithrediad ag ystod helaeth o sefydliadau allanol, wedi ymrwymo i yrru'r agenda twf cynhwysol a chynaliadwy hon wedi'i alinio â dyheadau Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru y mae rhaid i bob un ohonom ddod yn rhan ohono os ydym am sicrhau nad yw Covid yn bwrw cysgod anghymesur ar yr ifanc yn 2021 fel y mae ar y genhedlaeth hŷn yn 2020. Efallai ein bod oddi ar y campws tan ddiwedd mis Chwefror o leiaf ond gallwn chwarae ein rhan drwy gyd-dynnu â charedigrwydd er mwyn brwydro yn erbyn Covid-19.

Cyhoeddwyd yn wreiddiol yn y Western Mail, 28 Ionawr, 2021.