Mae'n Cynllun Strategol yn cynnwys blaenoriaeth i wella cwricwla i ddatblygu EDGE Met Caerdydd, gan alluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau, profiad, gwybodaeth, hyder a gwytnwch Moesegol, Digidol, Byd-eang ac Entrepreneuraidd.
Mae datblygu gallu diwylliannol myfyrwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd trwy ryngwladoli'r cwricwlwm yn rhan o ddatblygiad EDGE, gan ganolbwyntio'n benodol ar:
- ddarparu cyfleoedd i fyfyrwyr archwilio'u hunaniaeth a'u gwerthoedd diwylliannol eu hunain fel eu bod yn fwy parod i werthfawrogi diwylliannau eraill
- defnyddio adnoddau sy'n darparu persbectif diwylliannol amgen i'r cwricwlwm
- ennyn ymgysylltiad myfyrwyr â phrosiectau byw sydd ag elfen foesegol a / neu fyd-eang sy'n gwella'u syniad o'r Arall, a datblygu eu gallu i fod yn ddinasyddion byd-eang
- annog a galluogi myfyrwyr i archwilio'r ddisgyblaeth o safbwyntiau diwylliannol eraill
- gwneud y mwyaf o'r amrywiaeth sy'n bodoli ym mhoblogaeth y myfyrwyr a'r staff, ac yn ein cysylltiadau rhyngwladol
Mae cyfle i staff ymgysylltu â rhyngwladoli trwy:
- Weithdai parhaus lle mae rhyngwladoli yn cael ei ystyried o fewn ffrâm ehangach y cwricwlwm cynhwysol
- Defnyddio teclyn myfyriol i gynnwys timau disgyblaeth mewn trafodaethau am eu cwricwla ac i ystyried newidiadau datblygiadol pellach
- Annog staff i ddatblygu eu gallu diwylliannol eu hunain trwy deithiau cyfnewid rhyngwladol, a chysylltiadau â phartneriaid rhyngwladol
Cyfeiriadau
Grace, S. & Gravestock, P. (2009) Inclusion and diversity: meeting the needs of all students. London: Routledge.
Jones, E. & Killick, D. (2007). Internationalisation of the curriculum. In E. Jones & S. Brown (Eds). Internationalising higher education (pp. 109-119). Abingdon: Routledge.
Kerrigan, M.; Walker, S.; Gamble, M.; Lindsay, S.; Reader, K.; Papaefthimiou, M.; Newman-Ford, L.; Clements, M. & Saunders, G. (2011). The Making Assessment Count (MAC) Consortium – maximising assessment and feedback design by working together. In ALT-C 2011 Conference Proceedings
Kitano, M. K. (1997). What a course will look like after multicultural change. In A. I. Morey & M. Kitano (Eds.). Multicultural course transformation in higher education: A broader truth. Boston: Allyn and Bacon
Citation information
Tangney, S (2015) Internationalisation of the curriculum. Cardiff: Cardiff Metropolitan University.