Llais ac Ymgysylltu â Myfyrwyr

​​

Mae CGA ynghlwm ag ystod o weithgareddau sy'n cynnwys casglu a gwerthuso adborth gan staff a myfyrwyr i wella profiad dysgu myfyrwyr, llywio strategaeth a hybu cadw myfyrwyr.

Defnyddiwn yr adborth hwn i lywio prosiectau a datblygu rhaglenni ledled y Brifysgol. Trwy'r gwelliannau hyn, rydym wedi datblygu ffordd o weithio gyda myfyrwyr fel partneriaid, nid fel gwerthuswyr eu dysgu yn unig.  Gall gweithio gyda myfyrwyr wrth ddylunio cwricwlwm, profiad myfyrwyr a chyflogadwyedd fod yn llwyddiannus iawn.  Gall nifer o wahanol ffactorau ledled y Brifysgol effeithio ar brofiad y myfyrwyr.

Arolygon

Arolygon a chasglu data yw'r cam cychwynnol yn y broses gwella ansawdd.  Casglwn ddata o ystod o ffynonellau a defnyddiwn y canlyniadau i lywio naill ai trafodaeth bellach neu ddatblygiad prosiectau a rhaglenni.  Rydym yn ymwneud â nifer o arolygon, yn fewnol ac yn allanol, megis yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr, yr Arolwg Boddhad Myfyrwyr a'r Arolwg Profiad a Addysgir Ôl-raddedig.

Y Broses Gwella Ansawdd

Datblygwyd y broses Gwella Ansawdd fel ffordd o wneud y defnydd gorau o'r data a'r adborth a gawn gan fyfyrwyr yn ogystal â gwella profiad myfyrwyr o ganlyniad i hynny.  Mae'r broses yn cynnwys casglu a dadansoddi data, sydd wedyn yn llywio meysydd i'w gwella a'u datblygu, gan weithio gyda myfyrwyr i deilwra'r gwelliant i'w hanghenion a'u rhaglen.

Bob blwyddyn, mae'r tîm Llais ac Ymgysylltu â Myfyrwyr yn casglu a lledaenu canlyniadau'r arolygon i bob Ysgol.  Lledaenir canlyniadau arolygon boddhad myfyrwyr mewnol hefyd trwy bapurau i bwyllgorau a byrddau perthnasol y Brifysgol. Mae rhaglenni sy'n perfformio’n is na’r targed ar gyfer Dysgu ac Addysgu a Boddhad Cyffredinol yn creu cynlluniau gweithredu i fynd i'r afael â'r pryderon a godir gan fyfyrwyr.  Yna trafodir y rhain yn ystod y tymor cyntaf yng nghyfarfodydd Grŵp Gwella ACF gyda chydweithwyr o CGA a'r Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Ymgysylltu â Myfyrwyr. Yn ystod y cyfarfodydd hyn, mae'r Tîm Llais ac Ymgysylltu â Myfyrwyr yn cynnig cyngor a chefnogaeth i Ysgolion, gan gynnwys cyfleoedd i gasglu adborth ychwanegol gan fyfyrwyr, trwy Ymyriadau Llais Myfyrwyr Diduedd.

Ail-frandio Llais MetLlais Met logo

Er ein bod ni’n mynd ati i weithio mewn partneriaeth â myfyrwyr mewn amryw o ffyrdd, rydym yn cydnabod nad yw pob myfyriwr yn ymwybodol o'r cyfleoedd ehangach sydd ar gael iddynt, nac eisiau cymryd rhan ynddynt. 

Er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd hyn ac i roi myfyrwyr wrth galon yr ymgyrch llais myfyrwyr, yn 2019 buom yn gweithio gyda myfyrwyr dylunio lefel 5 yn YGDC i ail-frandio Llais Myfyrwyr ym Met Caerdydd.  Roedd hyn oherwydd y ffaith bod y brandio a'r negeseuon blaenorol yn canolbwyntio'n ormodol ar allu 'dweud eich dweud' ar adegau penodol yn ystod y flwyddyn. Mae'r delweddau'n dangos sut y datblygwyd y brand 'Llais Met / Met Voice', sy'n wynebu myfyrwyr, gan y myfyrwyr dylunio graffig, sy'n annog myfyrwyr i ymuno â'r sgwrs, yn hytrach na bod yn wrandawyr goddefol.

Wythnos Llais Met

Yn dilyn yr ail-ddylunio, fe wnaethom benderfynu lansio Llais Met mewn partneriaeth â'r UM a chynnal wythnos Llais Myfyrwyr yn ystod mis Tachwedd 2019, gan annog myfyrwyr i ymuno â'r sgwrs.

Fel rhan o’r wythnos hon, cafwyd stondinau ar draws yr Ysgolion ar y ddau gampws, ynghyd ag adnoddau wedi’u rhannu yn y llyfrgelloedd. Roedd hefyd yn gyfle i atgoffa myfyrwyr o'r ffyrdd y mae Met Caerdydd yn gwrando ar lais myfyrwyr ac yn gweithredu newidiadau o ganlyniad i hynny.

Wythnos Llais Met
Defnyddiwyd yr wythnos hon hefyd gan yr Arweinwyr Ysgol i ddathlu llais myfyrwyr, gan gasglu adborth myfyrwyr trwy nifer o fecanweithiau gwahanol gan gynnwys: Waliau Adborth, Troelli’r Olwyn, a Grwpiau Ffocws Ymgysylltu â Myfyrwyr. Fe wnaeth y cam ychwanegol hwn o gasglu adborth myfyrwyr gyda chynrychiolwyr myfyrwyr ganiatáu i'r myfyrwyr arddangos pwy oeddent fel cynrychiolwyr yn ogystal â'u helpu i ddatblygu gwell dealltwriaeth o unrhyw faterion sy'n codi yn gynnar yn y flwyddyn academaidd.

Yn ystod yr wythnos, bu staff o CGA a chynrychiolwyr myfyrwyr yn siarad â dros 1,600 o fyfyrwyr ar un o'r 6 stondin. Cynhaliwyd dros 40 o sgyrsiau darlithoedd gan gydweithwyr yn CGA a, chan ddefnyddio Mentimeter, casglwyd adborth myfyrwyr gan dros 500 o fyfyrwyr ar y broses Ymgysylltu â Myfyrwyr ym Met Caerdydd. Adroddwyd y wybodaeth hon i Ddeoniaid Cyswllt Ymgysylltu â Myfyrwyr a Chyfarwyddwyr Rhaglen yn ystod cyfarfodydd Grŵp Gwella ACF. Fe wnaeth y tîm hefyd recriwtio myfyrwyr i fod yn banelwyr trwy gydol Wythnos Llais Myfyrwyr, a arweiniodd at recriwtio a hyfforddi pellach o 20 myfyriwr arall.

Deunyddiau Llais Met

Deunyddiau Llais MetYn CGA, rydym yn hapus i ddarparu deunyddiau hyrwyddo ichi ar gyfer eich gwaith Llais Met. Mae gennym standiau wedi'u gosod yn strategol o amgylch y campws y’u defnyddir i hyrwyddo gweithgarwch llais ac ymgysylltu â myfyrwyr.  Os hoffech gael unrhyw adnoddau, electronig neu brint, cysylltwch â metvoice@cardiffmet.ac.uk.
Dyma fwrdd poster enghreifftiol a grëwyd ar gyfer wythnos Llais Met, ar gyfer Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd.

Grŵp Llais Myfyrwyr

Mae’r Grŵp Llais Myfyrwyr yn llywio gwaith CGA a'r Brifysgol ehangach ar waith llais ac ymgysylltu â myfyrwyr. Mae aelodaeth y grŵp hwn yn cynnwys y Deoniaid Cyswllt ar gyfer Ymgysylltu â Myfyrwyr a chydweithwyr o'r Gwasanaethau Proffesiynol ac Undeb y Myfyrwyr.  Mae'r aelodau hyn yn gyrru ein gweithgarwch ac yn cefnogi’r gwaith o hyrwyddo arolygon a chynrychiolaeth myfyrwyr.  Cyn bo hir, bydd y grŵp hwn yn dod o dan y Rhaglen Ymgysylltu â Myfyrwyr ehangach, lle bydd Llais Myfyrwyr yn un llif gwaith.

Gweithio mewn Partneriaeth

Mae gan CGA a'r UM berthynas waith gref, sy'n deillio o ystod eang o brosiectau cydweithredol dros y blynyddoedd. Er mwyn sicrhau y caiff y gwaith a wnawn ei ddogfennu, rydym yn cynhyrchu adroddiad partneriaeth, sy'n tynnu sylw at gydweithio a wneir i wella ymgysylltu â myfyrwyr a phrofiad myfyrwyr. Mae hyn yn cynnwys diweddariadau ar ymgysylltu â sicrhau ansawdd, arolygon, cymrodoriaethau addysgu dan arweiniad myfyrwyr a'r cynllun dysgu gyda chymorth cymheiriaid. Cyflwynir yr adroddiad ar y cyd yn y Pwyllgor Dysgu, Addysgu ac Ymgysylltu â Myfyrwyr. 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â metvoice@cardiffmet.ac.uk