Arholwyr Allanol

​Mae’r Gyfarwyddiaeth Gwella Ansawdd yn rheoli swyddogaethau Arholi Allanol Cartref a Phartneriaid – o enwebu a recriwtio i dalu ffioedd, adrodd ar fyrddau arholi a dadansoddi.

Rhaid i holl raglenni’r Brifysgol fod ag Arholwr Allanol cymeradwy wedi’i drefnu ac mae ystyried adborth Arholwyr Allanol wrth wraidd prosesau sicrhau a gwella ansawdd cyfunol y Brifysgol. Mae rôl yr Arholwyr Allanol wedi ei ddiffinio’n glir yn Llawlyfr Academaidd y Brifysgol a gellir cael gafael ar bolisïau a rheoliadau cysylltiedig yn ymwneud ag enwebu, penodi, sefydlu a chefnogi yma

Mae sawl aelod o staff y Brifysgol yn gweithredu fel Arholwyr Allanol mewn sefydliadau eraill. Ar hyn o bryd, mae’r CGA yn sefydlu rhwydwaith ar gyfer darpar arholwyr ac arholwyr presennol i fentora, rhwydweithio, a rhannu arfer da’n anffurfiol. Bydd y grŵp hwn, a hwylusir gan y CGA, hefyd yn llywyddu a chynnal hyfforddiant Arholwyr Allanol AU Ymlaen. Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn Arholwr Allanol neu mewn ymuno â’r rhwydwaith, cysylltwch â qed@cardiffmet.ac.uk.