Partneriaid Cydweithredol

Mae Met Caerdydd yn falch o fod yn gysylltiedig ag ystod o bartneriaid safon uchel sy’n hanfodol i alluogi Met Caerdydd i gyflawni ei huchelgeisiau addysg drawswladol, ymchwil, ymgysylltu dinesig, datblygu cymunedol, ac arloesi. Mae manylion llawn am bortffolio partneriaethau’r Brifysgol ar gael ar ein tudalennau gwe Partneriaethau.

Mae’r CGA yn cefnogi ysgolion, a’u partneriaid, wrth adolygu, monitro a gwella safonau academaidd ac ansawdd profiad dysgu’r myfyrwyr ar draws pob darpariaeth bartneriaeth. Mynegir yr holl bolisïau a gweithdrefnau penodol sy’n ymwneud â darpariaeth wedi’i dilysu, darpariaeth fasnachfraint, cyrsiau byr sy’n dwyn credydau, dysgu yn y gwaith, mynegiad a dilyniant, lleoliadau, trefniadau astudio dramor a phrentisiaethau o fewn Llawlyfr Academaidd y Brifysgol. 

Darperir cefnogaeth o ddydd i ddydd i staff sy’n addysgu ar raglenni cydweithredol y Brifysgol yn bennaf gan Diwtoriaid/ Cymedrolwyr Cyswllt yn yr ysgol ac fe’u hategir gan ystod o adnoddau a wneir ar gael trwy CGA. Os ydych chi’n aelod o staff sy’n addysgu ar raglen Met Caerdydd mewn partner, neu’n ei chefnogi, cliciwch yma i gyrchu ystod o adnoddau trwy safle mewnol CGA. E-bostiwch qed@cardiffmet.ac.uk os oes angen cymorth neu arweiniad arnoch wrth gyrchu’r adnoddau hyn.