System dal cynnwys yw Panopto ReView, sy'n caniatáu i staff recordio deunydd naill ai yn y dosbarth, neu ar eu gliniadur / cyfrifiadur personol. Yna gall myfyrwyr gael mynediad at ddeunydd wedi'i recordio ar alw - gan wella eu profiad o astudio ym Met Caerdydd. Mae'r system yn syml iawn ac yn hawdd i staff ei defnyddio, ac mae'n cynnig y gallu i fyfyrwyr lywio o amgylch recordiadau i ddod o hyd i'r cynnwys sydd ei angen arnynt yn hawdd.
- Gall myfyrwyr ailedrych ar ddysgu - i'w adolygu, ac i hwyluso gwylio cynnwys cymhleth dro ar ôl tro
- Yn darparu cefnogaeth i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf - gan ganiatáu iddynt amgyffred cynnwys ar eu cyflymder eu hunain
- Gellir cyflwyno dysgu i fyfyrwyr sy'n ddaearyddol amrywiol. Mae ReView yn hwyluso mynediad gan fyfyrwyr TNE ledled y byd
- Gall myfyrwyr ag anabledd ddefnyddio recordiadau darlithoedd i'w cynorthwyo i gael mynediad at gynnwys dysgu
- Yn cefnogi dulliau 'Fflipio' - lle mae cynnwys craidd darlithoedd yn cael ei gyflwyno trwy ReView, gan ryddhau amser cyswllt ar gyfer datblygu ac atgyfnerthu pellach
- Mae ReView yn hwyluso cymryd nodiadau manwl ar ôl y ddarlith
- Mae'n cynnig mwy o hyblygrwydd a dull mwy myfyriwr-ganolog - gall myfyrwyr reoli eu hamser yn fwyaf effeithiol o amgylch ymrwymiadau eraill
- Ar gyfer staff, mae ReView yn cynnig cyfle ar gyfer hyfforddi / datblygu, arfer myfyriol, cydweithredu a rhannu recordiadau
Mae Met Caerdydd wedi cwblhau prosiect tair blynedd i gyflwyno Panopto ReView ledled y Brifysgol, ac mae pob ystafell addysgu bellach yn ‘Barod ar gyfer ReView'.
System optio i mewn yw Panopto ReView, felly nid yw’n ofynnol i staff recordio eu sesiynau addysgu. Adnodd ydyw i’w ddefnyddio lle y bo’n briodol ac o werth i staff a myfyrwyr.