Cynlluniwyd yr adnoddau hyn i gefnogi eich defnydd o Panopto ReView wedi’i integreiddio â Moodle. Dyma sut y mae’r rhan fwyaf o staff yn defnyddio’r system.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau nad yw’r adnoddau isod yn eu hateb, e-bostiwch review@cardiffmet.ac.uk ac os hoffech hyfforddiant staff ar Panopto ReView, cliciwch yma i archebu lle drwy’r Pwll Dysgu.
Amlinellir y broses ar gyfer cychwyn arni drwy ddefnyddio Panopto gyda Moodle isod:
Sut i Actifadu Panopto yn Moodle - FIDEO Sut i Actifadu Panopto yn Moodle- CANLLAW
| I ddefnyddio Panopto ReView, mae angen cyfrif arnoch. Caiff hwn ei greu’n awtomatig pan fyddwch yn Actifadu Panopto yn unrhyw Fodiwl Moodle. Bydd hefyd angen ichi Actifadu Panopto yn unrhyw fodiwlau ychwanegol yr ydych yn dymuno ychwanegu cynnwys iddynt. Mae’r broses actifadu hon yn creu ffolder Panopto’n benodol ar gyfer pob modiwl Moodle, sy’n etifeddu pob caniatâd Moodle, fel mai dim ond eich myfyrwyr chi all weld eich fideos. |
| Gallwch fewngofnodi i Recordiwr Panopto (gartref, neu ar eich peiriant ar y campws, ac mewn ystafelloedd addysgu sy’n barod ar gyfer Panopto) gan ddefnyddio eich manylion mewngofnodi Met Caerdydd safonol. Mae hyn yn caniatáu ichi recordio’n uniongyrchol i ffolderi modiwlau penodol – yn barod ar gyfer eu hychwanegu i Moodle
|
| Gellir ychwanegu cynnwys Panopto ReView i fodiwlau heb orfod copïo a gludo dolenni neu fewnosod cod. Gallwch ddefnyddio ‘Add an Activity or Resource > Panopto' i ychwanegu cynnwys Panopto perthnasol yn uniongyrchol i’ch modiwlau. Bellach, mae hefyd modd i fyfyrwyr ddefnyddio Nodiadau, Nodau Tudalen a Thrafodaethau
|
|