Hafan>Ynglŷn â Ni>Safonau ac Ansawdd Academaidd

Safonau ac Ansawdd Academaidd

Adolygiad Gwella Ansawdd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd

Cafodd y Brifysgol Adolygiad Gwella Ansawdd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (ASA) ym mis Ionawr 2021. Mae Adroddiad yr ASA wedi’i gyhoeddi ac mae'n cadarnhau bod y Brifysgol yn cwrdd â gofynion Rhan 1 o'r Safonau a Chanllawiau Ewropeaidd ar gyfer sicrhau ansawdd mewnol ac yn cwrdd â gofynion rheoliadol sylfaenol perthnasol y Fframwaith Asesu Ansawdd ar gyfer Cymru.

Mae'r Adroddiad yn canmol y Brifysgol am y canlynol:

• Y cyfraniad cryf a wnaed gan y Deoniaid Cysylltiol Ymgysylltiad Myfyrwyr yn cryfhau ymgysylltiad myfyrwyr a phartneriaeth rhwng myfyrwyr a’r Brifysgol.

 • Dull arbennig o ragweithiol y Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth i wella lefel y gefnogaeth i fyfyrwyr ymhellach, yn enwedig yn ystod y pandemig.

• Effaith mentrau’r Gyfarwyddiaeth Gwella Ansawdd yn sicrhau y caiff ansawdd profiad dysgu’r myfyrwyr ei reoli a’i wella mewn modd cyson.

• Y trefniadau cadarn sydd wedi’u gwreiddio’n dda i gynnal trosolwg dros bartneriaethau addysg drawswladol gan sicrhau nad oes risg i safonau academaidd nac ansawdd profiad dysgu’r myfyrwyr.

 • Y gwaith trefnu a rheoli cyson ac effeithiol iawn ar weithgareddau lleoliad gwaith ar draws y sefydliad.


Cynllun Gweithredu

Mae’r Brifysgol mewn partneriaeth ag Undeb y Myfyrwyr wedi datblygu Cynllun Gweithredu sy’n disgrifio sut mae’r Brifysgol yn bwriadu manteisio ar y ganmoliaeth hon a sut y mae’n bwriadu mynd i’r afael â’r tri argymhelliad a dau gadarnhad sydd hefyd yn Adroddiad yr ASA.

Bydd cynnydd gyda'r Cynllun Gweithredu yn cael ei fonitro gan y Pwyllgor Ansawdd a Safonau Academaidd ac yn adrodd ar Adroddiad Sicrwydd Blynyddol y Bwrdd Academaidd i Fwrdd y Llywodraethwyr. Bydd diweddariad blynyddol nesaf y Cynllun Gweithredu’n cael ei gyhoeddi ym mis Mai 2022.

Cynllun Gweithredu’n - Mai 2022.


UK AQQ logo