parth-g

​​​


Monday to Thursday - 9:00 - 17:00


​Ewch i'r parth-g i ddarganfod mwy am Wasanaethau Myfyrwyr a chyflogadwyedd, a chael mynediad at gymorth anacademaidd.


Pwy ydyn ni

Mae ein staff cyfeillgar yn rhan o'r tîm Cymorth Myfyrwyr a Chyflogadwyedd, ac wedi'u lleoli ar gampws Cyncoed a Llandaf.

Rydyn ni yma i helpu, felly peidiwch ag oedi cyn galw heibio'r parth-g ar y naill gampws neu'r llall.


Sut allwn ni helpu​

Dyma rai o'r pethau eraill y gallwn eich helpu gyda nhw:


Trefnwch apwyntiad

Er mwyn cyrchu llawer o'r apwyntiadau Gwasanaethau Myfyrwyr, mae angen i fyfyrwyr presennol gwblhau ein ffurflen gymorth Anabledd, Lles a Chynghori.

Os ydych yn cael trafferth gyda'r ffurflen hon, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, gall tîm parth-g​​ eich helpu. Gallwn hefyd eich helpu i wirio manylion apwyntiad presennol.


Gwasanaethau eraill

Os na allwn helpu'n uniongyrchol â'ch ymholiad, gallwn eich cysylltu â'r adran gywir.

Er enghraifft, os ydych chi'n cael trafferth gyda ffioedd dysgu, cofrestru, neu wneud cais am wasanaethau lliniaru, galwch heibio i'r parth-g a gallwn eich rhoi mewn cysylltiad â'r bobl iawn.

Oriau agor

Llun 9:00-17:00
Maw 9:00-17:00
Mer 11:00-17:00
Iau 9:00-17:00
Gwe 9:00-16:30

Manylion cyswllt

+44 (0)29 2041 6170

Sut i ddod o hyd i ni

Llandaf
Wrth ymyl y brif dderbynfa


Cyncoed
Wrth ymyl y llyfrgell