Mae'r Gwasanaeth Caplaniaeth yn rhan unigryw a bywiog o Brifysgol Metropolitan Caerdydd.
Mae ganddo undod sy'n anrhydeddu pobl o bob ffydd a phobl o ddim ffydd, ac mae'n amgylchedd croesawgar, diogel sy'n parchu cyfrinachedd ac ar gael i'r holl staff a myfyrwyr.
Mae'r Gaplaniaeth yn darparu nifer o wasanaethau gan gynnwys:
Cefnogaeth Profedigaeth
Gall colli rhywun annwyl fod yn ddinistriol a gall y galar sy'n dilyn teimlo'n annioddefol ar brydiau. Rydyn ni yma i'ch cefnogi chi wrth i chi galaru.
Mannau i Weddïo
Mae gennym ni ystafelloedd gweddïo aml-ffydd ar y ddau gampws.
Llandaf
Mae'r ystafell weddïo aml-ffydd yn T0.07 gydag ystafelloedd ymolchiad yn gyfagos.
Cyncoed
Mae'r ystafell weddïo aml-ffydd yn B0090.
Gallwn ddarparu gwybodaeth am gymunedau ffydd ac addoldai lleol.
Ffydd ar y Campws
Rydym yn cynnig:
- digwyddiadau rhyng-ffydd i annog trafodaeth rhwng aelodau o wahanol gredoau
- lle i drafod ymholiadau personol sy'n gysylltiedig â chrefydd, cred neu athroniaeth
Cymorth i Ddioddefwyr Troseddau Casineb
Rydym yn cynnig:
- cefnogaeth emosiynol i ddioddefwyr Troseddau Casineb (gall ei gynnwys eich helpu i riportio Trosedd Casineb)
- rydym hefyd yn gweithio i godi ymwybyddiaeth
Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid
Rydym yn cynnig:
- pecynnau cymorth wedi'u personoli ar gyfer Myfyrwyr sy'n Geiswyr Lloches a Ffoaduriaid
Gofal Bugeiliol
Rydym yn cynnig:
- ymweliadau ysbyty i fyfyrwyr sy'n sâl
- mynd gyda myfyrwyr sy'n mynychu achosion llys
- clust i wrando a gwyneb cyfeillgar i unrhyw un sy'n teimlo'n ynysig, yn unig neu ddim ond eisiau lle i rannu'r hyn sydd ar ei meddwl
Cysylltwch â Ni
Rydyn ni'n darparu cefnogaeth trwy'r amseroedd anodd ac rydym wrth ein bodd yn dathlu'ch llwyddiannau hefyd.
Rydyn ni bob amser yn glust i wrando pan fydd angen i chi siarad. Mae ein drysau wastad ar agor!
I drefnu apwyntiad neu i gael mwy o wybodaeth cysylltwch â:
Ameira Bahadur-Kutkut
ABahadur-Kutkut@cardiffmet.ac.uk