Cymorth Dysgu

​​

Os ydych chi'n fyfyriwr presennol, ewch i MetCanolog i ddysgu mwy am ein gwasanaethau

Amdanom Ni

Rydym yn helpu myfyrwyr sy'n gymwys i dderbyn cymorth DSA i oresgyn rhwystrau i'w dysgu.​

Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA)

Mae Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) yn gymorth i dalu'r costau sy'n gysylltiedig ag astudio sydd gennych oherwydd problem iechyd meddwl, salwch hirdymor neu unrhyw anabledd arall. Mae'n cael ei dalu gan eich corff ariannu fel Cyllid Myfyrwyr Lloegr, Cyllid Myfyrwyr Cymru neu Ddyfarniadau Myfyrwyr y GIG. 

Gall hyn fod ar ei ben ei hun neu'n ychwanegol at unrhyw gyllid myfyrwyr a gewch. 

Fel rhan o'r broses ymgeisio, gofynnir i chi fynychu Asesiad Anghenion lle gallwch drafod effaith eich anabledd a pha gymorth fyddai'n ddefnyddiol. Gall hyn gynnwys offer, meddalwedd, cymorth 1-1 a chostau teithio. 

Cysylltu â ​Ni

Rydym yn cynnig cymorth Sgiliau Astudio Arbenigol a Mentora Arbenigol i fyfyrwyr sy'n gymwys i dderbyn cymorth DSA.

E-bost: learningsupport@cardiffmet.ac.uk

Rhif ffôn: 029 2020 5547