Rydym yn gobeithio y bydd eich amser yma yn brofiad boddhaol a phleserus iawn, ac edrychwn ymlaen at eich croesawu i Brifysgol Metropolitan Caerdydd i gael dechrau eich astudiaethau. Bydd y wybodaeth ymuno â'r rhaglen isod yn esbonio ychydig mwy am eich cwrs, gan gynnwys manylion cyswllt Cyfarwyddwr y Rhaglen, ac yn esbonio pryd y bydd angen i chi fynychu am y tro cyntaf. Mae'n bwysig eich bod yn darllen eich gwybodaeth ymuno cyn gynted â phosib fel bod digon o amser gennych i gydymffurfio ag unrhyw ofynion arbennig ar gyfer eich rhaglen. Rhestrir y wybodaeth fesul cwrs isod.
Dewiswch eich mis mynediad isod i weld eich gwybodaeth ymuno. Os nad yw'r gwybodaeth ar gael i'w gweld, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen.
Yn ogystal â'r wybodaeth isod, cyfeiriwch hefyd at
Fanyleb eich Rhaglen, y byddwch eisoes wedi'i gweld pan gawsoch eich cynnig.