Skip to main content
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd>Cyrsiau>Cyfryngau Chwaraeon - Gradd BSc (Anrh)

Cyfryngau Chwaraeon - BSc gradd (Anrh)

Blwyddyn Mynediad

Bydd y radd BSc (Anrh) Cyfryngau Chwaraeon ym Met Caerdydd yn eich galluogi i ddatblygu dealltwriaeth gritigol, a gwybodaeth broffesiynol am y diwydiant cyfryngau chwaraeon, marchnata a chyfathrebu, ynghyd â rhoi cyfle i chi ddatblygu sgiliau newyddiaduraeth, cynhyrchu darllediadau a sgiliau digidol sydd ei angen i fynd i mewn i'r amgylchedd cyfryngau chwaraeon sy'n ehangu'n gyflym.

Gallai hyn gynnwys swyddi newyddiaduraeth darlledu gyda'r prif ddarlledwyr, rolau cynhyrchwyr sy'n creu cynnwys ar gyfer brandiau chwaraeon a llwyfannau digidol neu weithio yn swyddfa cyfryngau sefydliadau chwaraeon mawr, digwyddiadau chwaraeon a chyrff llywodraethu chwaraeon sy'n delio â'r wasg, y cyfryngau a noddwyr. Bydd elfen rheoli chwaraeon y rhaglen yn caniatáu ichi ddysgu am ddatblygu a rheoli strwythurau ac amgylcheddau chwaraeon elitaidd a llywodraethiant a gweinyddu chwaraeon ar lefel genedlaethol a rhyngwladol. Mae'r elfen hon wedi'i chynllunio i roi sylfaen i chi o sut mae chwaraeon proffesiynol yn cael eu hariannu a chyfle i archwilio'r meysydd lle mae cyfryngau chwaraeon, busnes a marchnata yn gorgyffwrdd.

Byddwch yn ennill dealltwriaeth sylfaenol o sut mae'r diwydiant cyfryngau chwaraeon wedi'i drefnu o safbwynt lleol, cenedlaethol a byd-eang, o'r sylw ar y teledu i hawliau darlledu, i strwythur timau proffesiynol a thwrnameintiau. Byddwch yn caffael gwerthfawrogiad o'r rhai sy'n ddefnyddwyr chwaraeon; bydd hyn yn cynnwys y defnyddiwr fel ffan, yn y gêm neu ar-lein, ac fel cyfranogwr.

Ein nod ydy helpu i sefydlu egwyddorion arweiniol yr hyn sydd ei angen i gael mynediad i'r diwydiant heddiw, ac i oroesi a ffynnu. Archwilir cysyniadau fel moeseg, cyfraith y cyfryngau, hawliau delwedd, adrodd straeon digidol a chwaraeon ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, ochr yn ochr â'ch datblygiad personol a phroffesiynol chi eich hun, nid yn unig mewn cyd-destun chwaraeon cyfryngau ond hefyd mewn ffordd a fydd yn eich galluogi i ddefnyddio'ch gwybodaeth a sgiliau mewn sectorau eraill hefyd. Bydd y rhaglen yn darparu sylfaen gyfoes wedi'i diffinio'n dda i chi allu adeiladu eich gyrfa arni.

Mae adnoddau cyfryngol rhagorol ar y safle, cyfleusterau chwaraeon o'r radd flaenaf ar y campws a lleoliadau o'r radd flaenaf yng Nghaerdydd a'r rhanbarth cyfagos yn clymu â rhwydwaith o bartneriaid yn y diwydiant darlledu a chyfryngau i ddarparu rhaglen ddysgu gynhwysfawr sy'n gysylltiedig â gwaith a dysgu seiliedig ar waith. Mae hyn wedi'i gynllunio i'ch galluogi i gymhwyso'r wybodaeth a gafwyd o'r cwricwlwm gradd mewn lleoliadau yn y byd go iawn a chael profiad gwerthfawr i'w ddefnyddio fel sylfaen ar gyfer astudiaeth bellach neu swydd yn y dyfodol.


Blwyddyn Sylfaen

​Gellir astudio’r radd hon fel gradd amser llawn tair blynedd neu radd pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn o astudio sylfaenol. Bwriad ein blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder​.

Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i​:

  1. Myfyrwyr nad ydynt wedi cael y nifer gofynnol o bwyntiau Safon Uwch (neu gyfwerth) i ddechrau ar flwyddyn gyntaf y rhaglen radd.
  2. Myfyrwyr hŷn sydd wedi bod allan o’r system addysg ffurfiol ers peth amser.


Darganfyddwch fwy am y flwyddyn sylfaen​​.

Nodwch: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r 4 blynedd gan gynnwys sylfaen. Cyfeiriwch at Wybodaeth Gwrs Allweddol ar waelod y dudalen hon​.

​​Cynnwys y Cwrs

Mae'r rhaglen radd BSc (Anrh) Cyfryngau Chwaraeon yn cynnig fframwaith modiwl i chi sy'n darparu'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth sylfaenol i chi allu gael swydd mewn rôl greadigol a deinamig ym myd chwim a chyffrous y cyfryngau chwaraeon.

Bydd myfyrwyr yn datblygu ac yn meistroli sbectrwm eang o sgiliau cynhyrchu ym maes newyddiaduraeth y cyfryngau a darlledu, yn dysgu ffilmio eich hunan, a golygu a miniogi eu greddf newyddiadurol a'ch barn olygyddol. Byddan nhw'n craffu'n gritigol ar y berthynas ddwyochrog rhwng materion cymdeithasol-wleidyddol, sylw yn y cyfryngau modern a chwaraeon proffesiynol. Bydd myfyrwyr hefyd yn astudio elfennau o farchnata chwaraeon, cyfraith y cyfryngau, ac yn dadansoddi sut mae moeseg, ymdeimlad o degwch, bod yn ddiduedd a chywir, a gwybodaeth gadarn am y modd mae rheoliadau a hawliau yn chwarae rhan hanfodol wrth weithredu o fewn meysydd y cyfryngau chwaraeon, marchnata a darlledu modern.

Bydd cynnwys y modiwl yn caniatáu i chi fyfyrio ar yr egwyddorion busnes a marchnata sylfaenol sy'n helpu i gynnal a datblygu'r diwydiant cyfryngau chwaraeon ac mae ffocws cryf ar greadigrwydd, newyddiaduraeth, marchnata, entrepreneuriaeth a meddwl strategol sy'n cynnig y potensial i chi ddiffinio a datblygu eich syniadau eich hun ar gyfer cynnwys yn y cyfryngau sy'n gysylltiedig â chwaraeon. Yn sail i'r egwyddorion hyn mae damcaniaethau am ddiwylliant, y cyfryngau, newyddiaduraeth ac arferion marchnata sy'n bodoli mewn ystod eang o sefyllfaoedd cysylltiedig â chyfryngau chwaraeon.

Mae blwyddyn un yn cynnwys chwe modiwl, ac mae dau ohonyn nhw'n gyffredin ar draws yr holl gynigion sy'n ymwneud â chwaraeon. Mae'r modiwlau craidd hyn yn canolbwyntio ar helpu i lunio'ch sgiliau proffesiynol ac academaidd tra hefyd yn ennill rhai cymwysterau proffesiynol. Mae'r pedwar modiwl arall i gyd yn orfodol ac yn ystyried y cyd-destunau y mae cyfryngau chwaraeon yn digwydd ynddyn nhw ac yn helpu i sicrhau bod dealltwriaeth sylfaenol yn cael ei sicrhau o fyd y cyfryngau chwaraeon yn fyd-eang; y defnyddiwr ym myd chwaraeon; y llwyfannau y darlledir chwaraeon arnyn nhw a busnes chwaraeon.

Lefel 4 (blwyddyn un)

  • Ymchwil ac Ysgolheictod*
  • Cyfryngau Chwaraeon Digidol
  • Newyddiaduraeth Chwaraeon
  • Y Diwydiant Chwaraeon Byd-eang
  • Y Defnyddiwr ym myd Chwaraeon
  • ​​Cyfathrebu Marchnata Chwaraeon Cymhwysol

Opsiynau:

  • Dwyieithrwydd​*

Ym mlwyddyn dau mae'r modiwlau gorfodol yn adeiladu ar y wybodaeth a'r ddealltwriaeth a gafwyd ym mlwyddyn un ond yn canolbwyntio ar agweddau mwy swyddogaethol ar weithio yn y cyfryngau chwaraeon, megis adrodd straeon digidol, darlledu chwaraeon ar y radio, menter, marchnata a rheoli pobl. Mae ffocws hefyd ar foeseg chwaraeon a sut mae eu cymhwyso i faes Cyfryngau Chwaraeon. Byddwch yn dechrau archwilio ac ystyried rôl Newyddion Chwaraeon a Newyddiaduraeth Ddarlledu a'r sgiliau sy'n ofynnol i weithio yn y meysydd hyn. Mae'r holl agweddau hyn ar gyfryngau chwaraeon yn sail i gyfleoedd dysgu cysylltiedig â gwaith, wedi'u seilio'n bennaf ar yr adnoddau, digwyddiadau a gweithgareddau rhagorol ac eang a gynigir ar y campws i fyfyrwyr, staff a'r gymuned leol.

Yn ystod Blwyddyn dau bydd myfyrwyr yn cael eu lleoli gydag un o dimau chwaraeon y brifysgol gyda chylch gwaith i ofalu am eu gofynion cyfryngol ym maes chwaraeon a marchnata. Mae hyn yn rhan o fodiwl dysgu, gwasanaethu a chyflenwi yn y gwaith. Trwy'r cyfle hwn, bydd myfyrwyr yn ennill profiad ymarferol, byd go iawn o rolau darlledu amrywiol gan gynnwys gwaith cyflwynydd, gohebydd, cynhyrchydd, cyfarwyddwr, fideograffydd, gweithredydd camera, rheolwr llawr, golygydd fideo, cynhyrchydd cyfryngau cymdeithasol, sylwebydd a newyddiadurwr darlledu cyffredinol. Bydd myfyrwyr yn dysgu ymchwilio, rhwydweithio ac adeiladu cysylltiadau, gan ddyrchafu eu sgiliau riportio ac ysgrifennu chwaraeon i'r lefel nesaf a meistroli'r grefft o adrodd straeon a darparu cynnwys yn yr oes ddigidol sy'n newid yn gyflym trwy lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, blogio a phodlediadau. Byddan nhw hefyd yn gyfrifol am y cyfathrebu, marchnata, hyrwyddiadau a chyhoeddusrwydd ar gyfer gemau a digwyddiadau eu tîm.​

Lefel 5 (blwyddyn dau)

  • Dylunio a Phractis Ymchwil*
  • Lleoliad Proffesiynol*
  • Cyflwyniad i Farchnata Chwaraeon
  • Newyddiaduraeth Darlledu Chwaraeon
  • Newyddiaduraeth Diwylliant, Y Cyfryngau a Chwaraeon
  • Moeseg Chwaraeon

Yn y drydedd flwyddyn rydyn ni'n edrych ar ddarlledu chwaraeon byw, ffrydio byw a dadansoddi yn y cyfryngau chwaraeon yn ogystal ag archwiliad mwy datblygedig o gyfryngau chwaraeon digidol a'r ffordd y mae technoleg yn gyrru'r newid ym meysydd darlledu a marchnata. Yn ystod y flwyddyn olaf hefyd bydd y cyfle i ddatblygu eich hunaniaeth broffesiynol ymhellach trwy brosiect terfynol sy'n gweithredu mewn partneriaeth ag ystod o sefydliadau o fewn y diwydiant, yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, a'n timau ein hunain ar y campws. Gyda materion gweithredol yn brif ffocws ym mlwyddyn dau, byddwch nawr yn ystyried agweddau strategol, cymdeithasol-ddiwylliannol, gwleidyddol, moesegol, llywodraethu ar lefel uwch a'r agwedd ariannol o'r modd y mae byd chwaraeon yn cael ei redeg, ei drefnu a'i ariannu. Mae'r flwyddyn olaf hon yn canolbwyntio ar eich datblygu chi fel dysgwr myfyriol annibynnol a all gymryd rheolaeth o'ch datblygiad a sicrhau ei fod yn cyd-fynd â'ch cam cyntaf i swydd fel unigolyn graddedig neu i astudio ymhellach.

Lefel 6 (blwyddyn tri)

  • Prosiect Terfynol*
  • Lleoliad yn y Diwydiant*
  • Llywodraethiant Chwaraeon yn Fyd-eang
  • Marchnata Chwaraeon yn Ddigidol
  • Darlledu a Dadansoddi Chwaraeon Byw

*modiwlau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg​

Dysgu ac Addysgu

Mae dulliau dysgu, addysgu ac asesu effeithiol yn sail i nodau addysgol a chanlyniadau dysgu pob un o'n rhaglenni a'n modiwlau. Gall dulliau dysgu ac addysgu o fewn y rhaglen gwyddorau chwaraeon ac ymarferion gynnwys darlithoedd, seminarau, gweithdai, tiwtorialau a sesiynau ymarferol mewn labordy, siaradwyr gwadd ac ymweliadau â'r diwydiant. Mae ein Hamgylchedd Dysgu Rhithwir hefyd yn agwedd annatod o'r pecyn dysgu sy'n cefnogi anghenion ein myfyrwyr.

Mae darlithoedd arweiniol yn cyflwyno pynciau a chysyniadau allweddol, tra bod seminarau, tiwtorialau, gweithdai a sesiynau ymarferol mewn labordy yn canolbwyntio ar gymhwyso cysyniadau allweddol gyda'r nod o wella profiad ac ymgysylltiad myfyrwyr. Byddwch hefyd yn cwrdd â thiwtoriaid ar sail un i un. Fel ysgol, rydyn ni'n gweithio'n galed i ddarparu cyfleoedd dysgu myfyriwr-ganolog sy'n darparu amgylchedd dysgu hyblyg o ansawdd uchel.

Mae dulliau dysgu ac addysgu yn pwysleisio ac yn hwyluso datblygiad eich rhesymu critigol, ac yn cymell integreiddio ymarfer a theori. Trwy gydol eich rhaglen, byddwch yn profi dysgu dan arweiniad tiwtor a dulliau dysgu hunan-gyfeiriedig, gan gynyddu annibyniaeth a myfyrio a'ch annog i ddatblygu agwedd gadarnhaol tuag at ddysgu gydol oes.

Mae ein dulliau addysgu a dysgu yn ymgorffori sgiliau 'EDGE' Met Caerdydd (Moesegol, Byd-eang, Digidol ac Entrepreneuraidd) a byddwch yn cael arweiniad da i arddangos y priodoleddau graddedig a ddisgwylir gennych mewn byd gwaith cynyddol gystadleuol. Ein nod ydy eich helpu chi i ddatblygu'n weithwyr proffesiynol myfyriol ac ysgolheigion critigol.

Yn eich rhaglen chwaraeon ym Met Caerdydd, byddwch yn cael profiadau dysgu o'ch cyfnod sefydlu hyd eich graddio sy'n gydlynol ac yn datblygu'ch hunaniaeth yn eich rhaglen astudio.

Mae nodweddion penodol profiad dysgu ar y rhaglen Cyfryngau Chwaraeon yn cynnwys:

  • Ymchwilwyr o fri rhyngwladol a thiwtoriaid profiadol yn y diwydiant sy'n rhan annatod o'r pecyn dysgu a gynigir i'n myfyrwyr.
  • Adnoddau o'r radd flaenaf o ran y cyfryngau ar y campws a ddefnyddir er mwyn gwella profiad dysgu myfyrwyr a chymhwyso'r wybodaeth ddamcaniaethol mewn sefyllfaoedd yn y byd go iawn.
  • Partneriaethau diwydiant rhagorol a ddefnyddir i danategu a chyfoethogi'r ddarpariaeth o'r rhaglen.
  • Rhaglen radd sydd wedi'i chymeradwyo gan bartneriaid yn y diwydiant ac sy'n cwrdd ag anghenion cyflogwyr.

Asesu

Mae'r strategaethau asesu ar gyfer pob modiwl yn amrywio i sicrhau bod y dull mwyaf priodol yn cael ei weithredu ar gyfer eich maes astudio. Mae dulliau asesu wedi'u cynllunio i wella'ch profiad dysgu ac i gydnabod eich bod wedi cyflawni'r canlyniadau dysgu sy'n gysylltiedig â phob modiwl. Mae asesu hefyd yn sicrhau eich bod wedi cyflawni'r safon sy'n ofynnol i symud ymlaen i'r cam nesaf neu i fod yn gymwys ar gyfer dyfarniad (fel y'i mynegir gan y FHEQ a'r CQFW). Mae asesiadau'n cefnogi'ch profiad dysgu trwy ddarparu cyfleoedd i chi gymryd rhan mewn asesiadau ffurfiannol a chrynodol i brofi'ch gwybodaeth, eich gallu, eich sgil a'ch dealltwriaeth gritigol. Asesir y modiwlau israddedig gan gyfuniad o fathau o asesu. Er enghraifft:

  • gwaith cwrs ysgrifenedig
  • cyflwyniadau poster
  • cyflwyniadau llafar
  • portffolios
  • arholiadau gyda llyfrau a rhai heb lyfrau
  • sgiliau ymarferol
  • gweithgareddau eraill a gynlluniwyd i asesu, datblygu a gwella sgiliau academaidd a chyflogadwyedd.

Disgwylir i chi gwblhau prosiect terfynol fel rhan o'r asesiad o'ch gradd Anrhydedd. Mae prosiectau terfynol yn ddarnau pwysig o waith a allai fod yn brosiect ymchwil, arloesi, ymgynghori neu'n seiliedig ar y gymuned.

Mae natur y rhaglen Cyfryngau Chwaraeon yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr arddangos theori (ymarfer ar sail tystiolaeth) a chymhwyso (sgiliau ymarferol), ac felly mae asesiadau o fewn modiwlau Cyfryngau Chwaraeon yn cynnwys asesiadau damcaniaethol ochr yn ochr ag asesiadau ymarferol mewn lleoliadau cymhwysol megis digwyddiadau a gweithgareddau grŵp.

Cyflogadwyedd a Gyrfoedd

Mae 'egwyddorion EDGE' Met Caerdydd yn eich cefnogi i ffynnu yn y byd modern. Trwy gydol eich gradd byddwch yn profi ystod o gyfleoedd i ddatblygu eich cymwyseddau Moesegol, Digidol, Byd-eang ac Entrepreneuraidd trwy ddysgu yn seiliedig ar broblemau, astudiaethau achos diwydiant y byd go iawn, profiadau gwaith integredig ar y campws a chyfleoedd ar gyfer lleoliadau dysgu yn y gwaith oddi ar y campws. Byddwn yn sicrhau eich bod yn cael ystod o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy fel cyfathrebu, gwaith tîm ac arweinyddiaeth.

Yn ystod eich cyfnod gyda ni cewch gyfle i ymgymryd â chymwysterau technegol mewn ystod o feysydd sy'n berthnasol i'r diwydiant gan gynnwys golygu fideo, y cyfryngau cymdeithasol a maes iechyd a diogelwch. Bydd y cyfleoedd hyn yn sicrhau bod gennych y cymwysterau a'r profiad priodol i wneud cais am un o'r nifer o gyfleoedd lleoliad gwaith a gynigir ar y campws ac oddi arno. Byddwn hefyd yn eich cefnogi i chwilio am gyfleoedd i weithio neu astudio dramor. Gall lleoliadau gwaith roi egwyddorion EDGE critigol i chi wrth gael swydd broffesiynol ar ôl graddio. Mae myfyrwyr sydd wedi graddio o'r rhaglen BSc Cyfryngau Chwaraeon wedi mynd ymlaen i weithio mewn gyrfaoedd yn y Diwydiant Cyfryngau Chwaraeon, Marchnata, y Cyfryngau Digidol a Darlledu.

Mae graddedigion o'n cwrs MSc Darlledu Chwaraeon bellach yn gweithio yn y diwydiant cyfryngau chwaraeon proffesiynol gyda BBC Sport, Sky Sports, LiveWire Sport a chlwb pêl-droed Dinas Caerdydd.

Mae llawer o fyfyrwyr hefyd yn dilyn eu dymuniadau eu hunain ac wedi sefydlu busnesau yn seiliedig ar syniadau y maen nhw wedi'u cynhyrchu yn ystod eu hastudiaethau. Mae cefnogaeth barhaus i fentrau ar gael gan y Ganolfan Entrepreneuriaeth a gynlluniwyd i helpu i roi'r cyfle gorau i greu menter lwyddiannus. Mae hyn yn cynnwys mentora busnes, cyngor ar gyllido, gofod swyddfa am ddim a chyfleoedd i rwydweithio.

Gall myfyrwyr eraill ddewis parhau i astudio ymhellach trwy ein rhaglen MSc Darlledu Chwaraeon er enghraifft gellir symud ymlaen i astudiaethau lefel doethuriaeth. Gallwch hefyd symud ymlaen i raglenni mwy generig lefel Meistr ar y Cyfryngau, Darlledu, Marchnata a Rheoli gan gynnwys astudio cwrs Meistr Gweinyddiaeth Busnes (MBA) ym Met Caerdydd neu sefydliadau Addysg Uwch eraill sy'n cynnig cyrsiau tebyg.

Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Cynigion Nodweddiadol

​Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion nodweddiadol sy’n berthnasol i ddechrau ar flwyddyn 1 y radd.

Os nad ydych yn bodloni’r gofynion mynediad hyn, rydym hefyd yn cynnig Flwyddyn Sylfaen​ sy’n caniatáu symud ymlaen i Flwyddyn 1 ar ôl cwblhau’n llwyddiannus.

  • Pwyntiau tariff: 104 - 112
  • Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
  • TGAU: Pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
  • Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
  • Pynciau Safon Uwch: Tair Safon Uwch i gynnwys Gradd B. Does dim angen pynciau penodol. Bagloriaeth Cymru – Ystyrir Tystysgrif Her Sgiliau Uwch fel trydydd pwnc.
  • Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: DMM
  • Lefel T: Teilyngdod.
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: 15 credyd gyda Rhagoriaeth a 30 credyd gyda Theilyngdod. Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 1 x H6. Does dim angen pynciau penodol.
  • Tystysgrif Gadael Iwerddon: 3 x H2. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
  • Advanced Highers yr Alban: Gradd C. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.​

Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.

Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.

Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.


Sut i Ymgeisio

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.

Cysylltu â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â'r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu drwy e-bost askadmissions@cardiffmet.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau penodol am y cwrs, cysylltwch â'r Tîm Cymorth Rhaglen:
E-bost: CSSHSLTSE@cardiffmet.ac.uk

Rydyn ni’n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â’r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu’r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i’r brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae’n cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o’r fath yn angenrheidiol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael y wybodaeth lawn.

Gwybodaeth Allweddol Am Y Cwrs

Codau UCAS:
C610 - Gradd 3 blynedd
C61F - Gradd 4 blynedd (yn cynnwys flwyddyn sylfaen)​

Lleoliad yr Astudio:
Campws Cyncoed

Ysgol:
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd

Hyd y Cwrs:
Tair blynedd llawn amser neu bedair blynedd llawn amser gan gynnwys blwyddyn Sylfaen.

Ar gael yn rhan-amser hefyd a gall fod hyd at wyth mlynedd. Mae'r myfyrwyr rhan-amser yn ymuno â'r myfyrwyr amser llawn ar gyfer pob modiwl. Felly mae'r rhan fwyaf o'r modiwlau yn digwydd rhwng 9.00yb a 6.00yp yn ystod yr wythnos.

Ffioedd rhan amser:
Codir taliadau fesul modiwl sengl oni nodir yn benodol: israddedig = 10 credyd. Cysylltwch ag arweinydd y rhaglen i gael mwy o wybodaeth am fodiwlau i'w hastudio'n rhan-amser a sut y bydd hyn yn effeithio ar ffioedd.

DEWCH I GWRDD Â’R TÎM
Dewch i gwrdd â’r Tîm: Steffan Garerro

Dewch i gwrdd â Steffan Garrero, Cyfarwyddwr Rhaglen y radd BSc Cyfryngau Chwaraeon ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

EIN CYFLEUSTERAU
Cyfleusterau Chwaraeon

Mae’r Brifysgol yn parhau i fuddsoddi yn ei chyfleusterau chwaraeon o safon fyd-eang ar gampws Cyncoed i wella perfformiad a datblygiad academaidd ein holl fyfyrwyr.