Skip to main content
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd>Cyrsiau>Rheoli Chwaraeon – Gradd BSc (Anrh)

Rheoli Chwaraeon – Gradd BSc (Anrh)

Blwyddyn Mynediad

Bydd y radd BSc (Anrh) Rheoli Chwaraeon ym Met Caerdydd yn eich galluogi i ddatblygu’r ddealltwriaeth gritigol, y wybodaeth broffesiynol, y sgiliau a’r agweddau sydd eu hangen i ymgymryd â swydd reoli yn y diwydiant chwaraeon a gweithgareddau, sef maes sy’n ehangu o hyd. Gallai hyn fod mewn rolau arweiniol sy'n gysylltiedig ag ymchwilio i'r materion a'r heriau cyfoes sy'n gysylltiedig â chwaraeon modern; datblygu a darparu chwaraeon a gweithgaredd cymunedol; datblygu a rheoli strwythurau ac amgylcheddau priodol ar gyfer chwaraeon elitaidd a hefyd llywodraethiant a gweinyddiad chwaraeon ar lefel genedlaethol a rhyngwladol, yn yr oes fodern.

Elfen hanfodol o allu cyflawni hyn fydd trwy ddod i ddeall sut mae chwaraeon yn cael ei redeg o safbwynt byd-eang a gwerthfawrogiad o'r defnyddiwr chwaraeon fel ffan a chyfranogwr. Byddwch hefyd yn cael cyfle i archwilio ystod eang o feysydd rheoli sy'n gysylltiedig â gwneud i chwaraeon ddigwydd. Mae'r rhain yn cynnwys cyllid, adnoddau dynol, gweithrediadau, digwyddiadau, y cyfryngau, cyfathrebu a marchnata.

Rydym yn eich helpu i ddeall a sefydlu egwyddorion arweiniol yr hyn y mae'n ei olygu i fod yn rheolwr yn y diwydiant heddiw. Archwilir cysyniadau fel ansawdd, strategaeth a pholisi ochr yn ochr â'ch datblygiad personol a phroffesiynol eich hun; bydd hyn trwy gyd-destun chwaraeon ond fe'i cyflwynir mewn modd a fydd yn eich galluogi i drosglwyddo'ch gwybodaeth a'ch sgiliau i sectorau eraill. Bydd y radd Rheoli Chwaraeon yn rhoi sylfaen gyfoes wedi'i diffinio'n dda i chi allu adeiladu eich gyrfa arni.​

Mae cyfleusterau rhagorol ar y safle ynghyd â lleoliadau o'r radd flaenaf yng Nghaerdydd a'r ardaloedd o'n cwmpas, yn cyfuno â rhwydwaith o bartneriaid cefnogol yn y diwydiant i ddarparu rhaglen ddysgu gynhwysfawr sy'n gysylltiedig â gwaith a dysgu seiliedig ar waith. Mae hyn wedi'i gynllunio i'ch galluogi i gymhwyso'r wybodaeth a gafwyd o'r cwricwlwm gradd mewn lleoliadau byd go iawn a chael profiad gwerthfawr i'w ddefnyddio fel sylfaen ar gyfer astudiaeth bellach neu gyflogaeth yn y dyfodol.

Rydym yn bartner addysg cydnabyddedig gyda'r Sefydliad Siartredig ar gyfer Rheoli Chwaraeon a Gweithgareddau Corfforol (CIMSPA) ac mae ein myfyrwyr presennol yn derbyn aelodaeth fel myfyrwyr o'r corff arweiniol proffesiynol hwn yn y diwydiant.


​Cynnwys y Cwrs

Mae'r radd BSc (Anrh) Rheoli Chwaraeon ym Met Caerdydd yn cynnig fframwaith modiwlaidd i chi sy'n darparu'r wybodaeth sylfaenol greiddiol, sgiliau a dealltwriaeth i allu gweithio mewn rôl reoli yn y byd chwaraeon sy'n symud yn gyflym ac yn gyffrous, ynghyd â'r cyfle i sianelu'ch diddordebau a'ch tueddfrydau i un o bedwar llwybr gwahanol wrth i chi symud ymlaen trwy'r radd. Bydd cynnwys y modiwlau'n caniatáu ichi fyfyrio ar yr egwyddorion busnes sylfaenol sy'n helpu i gynnal a datblygu'r diwydiant chwaraeon ac mae ffocws cryf ar entrepreneuriaeth a meddwl yn strategol, sy'n cynnig y potensial i chi ddiffinio a datblygu eich syniadau eich hun ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau sy'n gysylltiedig â chwaraeon. Yn sail i'r egwyddorion hyn mae theori ac ymarfer rheoli a gymhwysir mewn ystod eang o leoliadau cysylltiedig â'r campau.

Mae blwyddyn un yn cynnwys chwe modiwl, ac mae dau ohonyn nhw'n gyffredin ar draws yr holl gynigion sy'n ymwneud â chwaraeon ym Met Caerdydd. Mae'r modiwlau craidd hyn yn canolbwyntio ar helpu i lunio'ch sgiliau proffesiynol ac academaidd tra hefyd yn ennill rhai cymwysterau proffesiynol dechrau'n deg. Mae'r pedwar modiwl arall i gyd yn orfodol ac yn ystyried y cyd-destunau y mae rheoli chwaraeon yn digwydd ynddyn nhw ac yn helpu i sicrhau bod dealltwriaeth sylfaenol yn cael ei sicrhau o'r darlun o chwaraeon yn fyd-eang; y defnyddiwr chwaraeon; yr amgylcheddau lle mae chwaraeon yn digwydd a busnes chwaraeon.

Lefel 4 (blwyddyn un)

  • Ymchwil ac Ysgolheictod
  • Datblygiad Proffesiynol
  • Y Diwydiant Chwaraeon yn Fyd-eang
  • Y Defnyddiwr Chwaraeon
  • Marchnata Chwaraeon a Chyfathrebu
  • Rheoli Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol

Opsiynau:

  • Dwyieithrwydd

Mae symud ymlaen i flwyddyn dau yn rhoi cyfle i ddechrau teilwra'ch rhaglen i'ch dewis chi o feysydd o ddiddordeb. Gallwch chi ddechrau canolbwyntio ar un o bedwar llwybr - ymchwil a mewnwelediad, chwaraeon cymunedol, chwaraeon elitaidd neu weinyddiad a llywodraethiant chwaraeon. Gellir cynllunio prosiectau ar y modiwlau gorfodol i alinio â'r llwybrau hyn ac ategu natur fwy penodol modiwlau'r opsiwn.

Mae'r modiwlau gorfodol yn adeiladu ar y wybodaeth a'r ddealltwriaeth a gafwyd ym mlwyddyn un ond yn canolbwyntio ar agweddau mwy swyddogaethol rheoli chwaraeon megis menter, marchnata a rheoli pobl. Mae'r holl agweddau hyn ar reoli chwaraeon yn sail i gyfleoedd dysgu cysylltiedig â gwaith, wedi'u seilio'n bennaf ar yr adnoddau, digwyddiadau a gweithgareddau rhagorol a gynigir ar y campws i'r myfyrwyr, y staff a'r gymuned leol.

Lefel 5 (blwyddyn dau)

  • Ymchwil Dylunio ac Ymarfer
  • Lleoliad Proffesiynol
  • Menter mewn Chwaraeon ac Iechyd
  • Marchnata Cymhwysol a Chyfathrebu
  • Rheoli Pobl

Opsiynau:

  • Polisi a Mewnwelediad Chwaraeon
  • Cyfranogiad mewn Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol
  • Rheoli Digwyddiadau
  • Busnes Chwaraeon

Mae'r flwyddyn olaf yn caniatáu parhau i archwilio'r llwybrau a gyflwynwyd ym mlwyddyn dau ond gyda mwy o hyblygrwydd mewn perthynas â'r opsiynau a ddilynir. Darperir y cyfle i ddatblygu eich hunaniaeth broffesiynol ymhellach trwy fodiwl dysgu seiliedig ar waith sy'n gweithredu mewn partneriaeth gydag ystod o sefydliadau'r diwydiant, yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Gyda materion gweithredol wedi bod yn ganolbwynt ym mlwyddyn dau, byddwch nawr yn ystyried agweddau strategol, cymdeithasol-ddiwylliannol, gwleidyddol, moesegol, llywodraethiant ac ariannol ar lefel uwch ym maes cynnal chwaraeon sy'n rhedeg ochr yn ochr â datblygu eich sgiliau critigol a dadansoddol eich hun, sy'n bwysig mewn rolau uwch. Mae'r flwyddyn olaf yn canolbwyntio ar eich datblygu chi fel dysgwr annibynnol, myfyriol, sy'n gallu rheoli'ch datblygiad a sicrhau bod hyn yn cyd-fynd â'ch cam cyntaf i gyflogaeth fel un â gradd neu i barhau i astudio ymhellach.

Lefel 6 (blwyddyn tri)

  • Prosiect Terfynol
  • Lleoliad yn y Diwydiant
  • Rheolaeth Strategol
  • Economeg Chwaraeon

Opsiynau:

  • Materion Cyfoes ym Maes Datblygiad Polisi
  • Ymgynghori ym maes Chwaraeon
  • Cynllunio ar gyfer Chwaraeon
  • Rheoli Campau Perfformiad Uchel
  • Rheolaeth Strategol ym maes Digwyddiadau Chwaraeon
  • Llywodraethiant Chwaraeon yn Fyd-eang
  • Marchnata Chwaraeon yn Ddigidol

Dysgu ac Addysgu

Mae dulliau dysgu, addysgu ac asesu effeithiol yn sail i nodau addysgol a chanlyniadau dysgu pob un o'n rhaglenni a'n modiwlau. Gall dulliau dysgu ac addysgu gynnwys darlithoedd, seminarau, gweithdai, tiwtorialau a sesiynau ymarferol seiliedig ar waith. Ategir rhain gyda siaradwyr gwadd ac ymweliadau maes yn y diwydiant sy'n helpu i gymathu'r dysgu. Mae ein Hamgylchedd Dysgu Rhithwir hefyd yn agwedd annatod o'r pecyn dysgu sy'n cefnogi anghenion ein myfyrwyr.

Mae darlithoedd arweiniol yn cyflwyno pynciau a chysyniadau allweddol, tra bod seminarau, tiwtorialau, gweithdai a sesiynau ymarferol yn canolbwyntio ar gymhwyso cysyniadau allweddol gyda'r nod o wella profiad ac ymgysylltiad myfyrwyr. Byddwch hefyd yn cwrdd â thiwtoriaid ar sail un i un. Fel ysgol, rydyn ni'n gweithio'n galed i ddarparu cyfleoedd dysgu myfyriwr-ganolog sy'n darparu amgylchedd dysgu hyblyg o ansawdd uchel.

Mae dulliau dysgu ac addysgu yn pwysleisio ac yn hwyluso datblygiad eich rhesymu critigol, ac yn cymell integreiddio ymarfer a theori. Trwy gydol eich rhaglen, byddwch yn profi dysgu dan arweiniad tiwtor a dulliau dysgu hunan-gyfeiriedig, gan gynyddu annibyniaeth a myfyrio a'ch annog i ddatblygu agwedd gadarnhaol tuag at ddysgu gydol oes.

Mae ein dulliau addysgu a dysgu yn ymgorffori sgiliau 'EDGE' Met Caerdydd (Moesegol, Byd-eang, Digidol ac Entrepreneuraidd) a byddwch yn cael arweiniad da i arddangos y priodoleddau graddedig a ddisgwylir gennych mewn byd gwaith cynyddol gystadleuol. Ein nod ydy eich helpu chi i ddatblygu'n weithwyr proffesiynol myfyriol ac ysgolheigion critigol. Yn eich rhaglen chwaraeon ym Met Caerdydd byddwch yn cael profiad dysgu o'ch cyfnod sefydlu hyd eich graddio sy'n gydlynol ac yn datblygu'ch hunaniaeth yn eich rhaglen astudio.

Mae nodweddion penodol y profiad dysgu ar y Rhaglen Rheoli Chwaraeon yn cynnwys:

  • Ymchwilwyr o fri rhyngwladol a thiwtoriaid profiadol yn y diwydiant sy'n rhan annatod o'r pecyn dysgu a gynigir i'n myfyrwyr.
  • Adnoddau o safon byd-eang ar y campws a ddefnyddir er mwyn gwella profiad dysgu myfyrwyr a chymhwyso'r wybodaeth ddamcaniaethol mewn sefyllfaoedd yn y byd go iawn.
  • Partneriaethau diwydiant rhagorol a ddefnyddir i danategu a chyfoethogi'r ddarpariaeth o'r rhaglen.
  • Mae pob agwedd ar Ddysgu ac Addysgu yn defnyddio'r llenyddiaeth ymchwil ddiweddaraf ac yn cyd-fynd â Safonau Proffesiynol y diwydiant (CIMSPA - yn amodol ar achrediad).
  • Rhaglen radd sydd wedi'i chymeradwyo gan bartneriaid yn y diwydiant ac sy'n cwrdd ag anghenion cyflogwyr

Asesu

Mae'r strategaethau asesu ar gyfer pob modiwl yn amrywio i sicrhau bod y dull mwyaf priodol yn cael ei weithredu ar gyfer y pynciau perthnasol a'r camau o'r dysgu. Mae dulliau asesu wedi'u cynllunio i wella'ch profiad dysgu ac i gydnabod eich bod wedi cyflawni'r canlyniadau dysgu sy'n gysylltiedig â phob modiwl. Mae asesu hefyd yn sicrhau eich bod wedi cyflawni'r safon sy'n ofynnol i symud ymlaen i'r cam nesaf neu i fod yn gymwys ar gyfer dyfarniad (fel y'i mynegir gan y FHEQ a'r CQFW). Mae asesiadau'n cefnogi'ch profiad dysgu trwy ddarparu cyfleoedd i chi gymryd rhan mewn asesiadau ffurfiannol a chrynodol i brofi'ch gwybodaeth, eich gallu, eich sgil a'ch dealltwriaeth gritigol ac hefyd i ddatblygu eich sgiliau hanfodol perthnasol i'r gweithle.

Asesir y modiwlau israddedig gan gyfuniad o fathau o asesu. Er enghraifft:

  • gwaith cwrs ysgrifenedig
  • cyflwyniadau poster
  • cyflwyniadau llafar
  • portffolios
  • arholiadau gyda llyfrau a rhai heb lyfrau
  • sgiliau ymarferol
  • gweithgareddau eraill a gynlluniwyd i asesu, datblygu a gwella sgiliau academaidd a chyflogadwyedd.

Disgwylir i chi gwblhau prosiect terfynol fel rhan o'r asesiad o'ch gradd Anrhydedd. Mae prosiectau terfynol yn ddarnau pwysig o waith a allai fod yn brosiect ymchwil, arloesi, ymgynghori neu'n seiliedig ar y gymuned.

Mae natur y rhaglen Rheoli Chwaraeon yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr arddangos theori (ymarfer ar sail tystiolaeth) a chymhwyso (sgiliau ymarferol), ac felly mae asesiadau o fewn modiwlau Rheoli Chwaraeon yn cynnwys asesiadau damcaniaethol ochr yn ochr ag asesiadau ymarferol mewn lleoliadau cymhwysol megis digwyddiadau a gweithgareddau grŵp.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Mae 'egwyddorion EDGE' Met Caerdydd yn eich cefnogi i ffynnu yn y byd modern. Trwy gydol eich gradd byddwch yn profi ystod o gyfleoedd i ddatblygu eich cymwyseddau moesegol, digidol, byd-eang ac entrepreneuraidd trwy ddysgu yn seiliedig ar broblemau, astudiaethau achos diwydiant y byd go iawn, profiadau gwaith integredig ar y campws a chyfleoedd ar gyfer lleoliadau dysgu yn y gwaith oddi ar y campws. Byddwn yn sicrhau eich bod yn cael ystod o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy fel cyfathrebu, gwaith tîm ac arweinyddiaeth.

Yn ystod eich cyfnod gyda ni cewch gyfle i ymgymryd â chymwysterau technegol mewn ystod o feysydd sy'n berthnasol i'r diwydiant. Bydd y cyfleoedd hyn yn sicrhau bod gennych y cymwysterau a'r profiad priodol i wneud cais am un o'r nifer o gyfleoedd lleoliad gwaith a gynigir ar y campws ac oddi arno. Byddwn hefyd yn eich cefnogi i chwilio am gyfleoedd i weithio neu astudio dramor. Gall lleoliadau gwaith roi egwyddorion EDGE critigol i chi wrth gael swydd broffesiynol ar ôl graddio. Mae myfyrwyr sydd wedi graddio o'r rhaglen BSc Rheoli Chwaraeon wedi mynd ymlaen i weithio mewn gyrfaoedd o fewn a thu hwnt i'r Diwydiant Chwaraeon.

Mae graddedigion o'r rhaglen Rheoli Chwaraeon bellach yn gweithio ym maes chwaraeon proffesiynol a lled-broffesiynol, asiantaethau cenedlaethol a chyrff llywodraethu chwaraeon, sefydliadau lleol a sefydliadau mentrau cymdeithasol, sefydliadau cysylltiedig â'r gymuned, yn ogystal â byd chwaraeon a ffitrwydd masnachol.

Mae llawer o fyfyrwyr hefyd yn dilyn eu dymuniadau eu hunain ac yn sefydlu busnesau yn seiliedig ar syniadau y maen nhw wedi'u creu yn ystod eu hastudiaethau. Mae cefnogaeth fenter barhaus ar gael gan y Ganolfan Entrepreneuriaeth a ddyluniwyd i helpu i roi'r cyfle gorau i greu menter lwyddiannus. Mae hyn yn cynnwys mentora busnes, cyngor ar gyllido, gofod swyddfa am ddim a chyfleoedd i rwydweithio.

Mae myfyrwyr eraill wedi parhau i astudio ymhellach trwy ein rhaglen MSc Arweinyddiaeth Chwaraeon er enghraifft ac yna symud ymlaen ymhellach i astudiaethau ar lefel doethuriaeth. Gallwch hefyd symud ymlaen i raglenni busnes a rheoli mwy generig ar lefel Meistr gan gynnwys y rhaglen Meistr Gweinyddiaeth Busnes (MBA) ym Met Caerdydd neu sefydliadau Addysg Uwch eraill sy'n cynnig cyrsiau tebyg.

Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Cynigion Nodweddiadol

  • Pwyntiau tariff: 112-120
  • Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
  • TGAU: Pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
  • Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
  • Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch i gynnwys Graddau BB. Does dim angen pynciau penodol. Bagloriaeth Cymru – Ystyrir Tystysgrif Her Sgiliau Uwch fel trydydd pwnc.
  • Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: DMM
  • Lefel T: Teilyngdod.
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: 15 credyd gyda Rhagoriaeth a 30 credyd gyda Theilyngdod. Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 1 x H6. Does dim angen pynciau penodol.
  • Tystysgrif Gadael Iwerddon: 3 x H2. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
  • Advanced Highers yr Alban: Graddau CC. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.

Os nad ydych yn bodloni’r gofyniad mynediad uchod, rydym hefyd yn cynnig Rhaglen Sylfaen sy’n caniatáu gwneud cynnydd i Flwyddyn 1.

Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.

Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.

Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.


Sut i Ymgeisio

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.

Cysylltu â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â'r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu drwy e-bost askadmissions@cardiffmet.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau penodol am y cwrs, cysylltwch â'r Tîm Cymorth Rhaglen:
E-bost: CSSHSLTSE@cardiffmet.ac.uk

Rydyn ni’n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â’r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu’r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i’r brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae’n cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o’r fath yn angenrheidiol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael y wybodaeth lawn.

Gwybodaeth Allweddol Am Y Cwrs

​​​​Cod UCAS: CN62

Lleoliad yr Astudio:
Campws Cyncoed

Ysgol:
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd

Hyd y Cwrs:
Tair y blynedd llawn amser.

Ar gael yn rhan-amser hefyd a gall fod hyd at wyth mlynedd. Mae'r myfyrwyr rhan-amser yn ymuno â'r myfyrwyr amser llawn ar gyfer pob modiwl. Felly mae'r rhan fwyaf o'r modiwlau yn digwydd rhwng 9.00am a 6.00pm yn ystod yr wythnos.

Ffioedd rhan amser:
Codir taliadau fesul modiwl sengl oni nodir yn benodol: israddedig = 10 credyd. Cysylltwch ag arweinydd y rhaglen i gael mwy o wybodaeth am fodiwlau i'w hastudio'n rhan-amser a sut y bydd hyn yn effeithio ar ffioedd.

TROSOLWG CWRS | UCHAFBWYNTIAU GRADD
Uchafbwyntiau Gradd

Mae Uwch Ddarlithydd Elizabeth Lewis a graddedigion diweddar yn dweud mwy wrthym am y radd Rheoli Chwaraeon a gymeradwyir gan CIMPSA ym Met Caerdydd.

CWRDD Â’R TÎM
Dewch i gwrdd â’r Tîm: : Steve Osbourne

Dewch i gwrdd â Steve Osbourne, Prif Ddarlithydd y radd BSc Rheoli Chwaraeon ym Met Caerdydd, sy'n rhannu ei angerdd am y pwnc.

EIN CYFLEUSTERAU
Sport Facilities

Mae’r Brifysgol yn parhau i fuddsoddi yn ei chyfleusterau chwaraeon o safon fyd-eang ar gampws Cyncoed i wella perfformiad a datblygiad academaidd ein holl fyfyrwyr.