Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd>CAWR>Wellbeing in Demanding Environments

Lles mewn Amgylcheddau Anodd

Arweinydd: Prof Steve Mellalieu

Lead: Prof Steve Mellalieu

Ymhlith y prosiectau enghreifftiol y mae:

Pwysau seicolegol, ymdopi a lles mewn Rygbi’r Undeb Proffesiynol

Gan weithio gyda'r Gymdeithas Chwaraewyr Rygbi (RPA), yr Undeb Rygbi (RFU) a Rygbi'r Uwch Gynghrair, edrychodd y prosiect hwn ar y pwysau seicolegol a wynebai chwaraewyr yn Uwch Gynghrair Rygbi Lloegr, y strategaethau yr oeddent yn eu defnyddio i ymdopi â'r pwysau seicolegol a wynebwyd a'r effaith ddilynol ar eu lles. Cyfrannodd ganfyddiadau o’r ymchwil hon at adolygiad darpariaeth Iechyd Meddwl Rygbi Proffesiynol a gynhaliwyd gan Rygbi'r Uwch Gynghrair, yr Undeb Rygbi a’r Gymdeithas Chwaraewyr Rygbi. Mabwysiadwyd nifer o fentrau lles chwaraewyr dilynol gan gynnwys cyflwyno Arweinwyr Iechyd Meddwl ar gyfer pob clwb, a Monitro Lles Meddwl a chefnogaeth cymar wrth gymar (megis hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl) i chwaraewyr a staff.

Cysylltiadau Prifysgol Metropolitan Caerdydd: Yr Athro Stephen Mellalieu, yr Athro Rich Neil a Paul Sellars.



Arweinyddiaeth a Lles mewn Busnesau sy'n Perfformio'n Uchel

Mae'r prosiect cyfredol hwn yn archwilio rôl arweinyddiaeth wrth ddatblygu ffyniant a gwytnwch yng nghyd-destunau busnes a chwaraeon perfformiad uchel yn y DU. Mae canfyddiadau cychwynnol o ddata hydredol a gasglwyd gyda sefydliadau o'r sector chwaraeon elît a'r sector cyhoeddus yn rhoi cipolwg ar yr hyn a wneir gan arweinwyr mewn gwirionedd i effeithio ar lefelau ymgysylltiad â gwaith, lles a pherfformiad eu dilynwr, gyda phwyslais ar natur berthynol a grymusol ymddygiad yr arweinwyr hyn. Ar hyn o bryd, mae'r prosiect yn y cyfnod o ddatblygu rhaglenni addysg a hyfforddiant arweinyddiaeth pwrpasol a fydd yn helpu i feithrin gwell dealltwriaeth o wytnwch a hybu lles yn y gweithle i gyflogwyr.

CCysylltiadau Prifysgol Metropolitan Caerdydd: Yr Athro Stephen Mellalieu, yr Athro Rich Neil a Paul Sellars