Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd>CAWR>Physical Health Education for Lifelong Learning

Addysg Iechyd Corfforol ar gyfer Dysgu Gydol Oes


Mae Addysg Iechyd Corfforol ar gyfer Dysgu Gydol Oes yn gymuned fywiog a chynhwysol sydd wedi ymrwymo i archwilio’n feirniadol a hybu dysgu gydol oes. Yn cynnwys ymchwilwyr ac ymarferwyr rhyngddisgyblaethol, mae'n hyrwyddo mathau teg o les cymdeithasol, diwylliannol, iechyd ac amgylcheddol cynaliadwy ar draws ystod o leoliadau gweithgarwch addysg iechyd corfforol. Mae ein gwaith yn cynnwys: (i) cynhyrchu ymchwil ryngddisgyblaethol sy'n berthnasol i ymarfer a’i ledaenu’n eang; (ii) cydweithredu gweithredol â chymunedau, sefydliadau addysg ac ymarferwyr wrth ddylunio, gweithredu a gwerthuso ymchwil sy’n seiliedig ar ymarfer; (iii) llywio polisi sy'n cyfrannu'n weithredol at hybu mathau teg o addysg iechyd corfforol gydol oes yn gynaliadwy.


Arweinydd: Dr David Aldous

Arweinydd: Dr David Aldous

Ymhlith y prosiectau enghreifftiol y mae:

Cefnogi trosi polisïau a dysgu proffesiynol o fewn Addysg Iechyd Corfforol

Sphere Orienteering

Mae'r prosiect hwn yn cynnwys cyfres o weithgareddau sy'n cefnogi dehongli, rhoi mewn cyd-destun a chyflawni’r fframwaith cwricwlwm newydd i Gymru gan addysgwyr addysg gorfforol Cymru. Gan ddefnyddio dulliau arloesol, megis 'gweithdai sy’n canolbwyntio ar ddylunio', cefnogwyd addysgwyr addysg gorfforol ledled Cymru wrth drosi'r fframwaith a'i ddatblygu a'i weithredu’n ddilynol yn eu cwricwla lleol eu hunain. Yn y tymor hir, bydd y gweithgareddau hyn yn darparu cefnogaeth ac ymrwymiad parhaus i ddysgu proffesiynol o ansawdd uchel, er mwyn sicrhau bod polisïau Iechyd ac Addysg yn cael eu gweithredu mewn modd cynaliadwy a theg ar gyfer pobl ym mhob un o'n cymunedau yng Nghymru.

Cysylltiadau Prifysgol Metropolitan Caerdydd: Dr David Aldous, Dr Anna Bryant, Dr Lowri Edwards.


Hybu'r defnydd o Lythrennedd Corfforol o fewn Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol Cymru

Mae'r prosiect Ymgynghori ar Lythrennedd Corfforol, a ariennir gan Chwaraeon Cymru, yn un cydweithredol. Bu’n canolbwyntio ar ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o lythrennedd corfforol o fewn Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol Cymru (CLlC) (Triathlon Cymru, Pêl-Rwyd Cymru, a Gymnasteg Cymru) a'u partneriaid cymunedol (e.e. Adran Hamdden Cyngor Sir Gâr). Bu'r gwaith cyfredol o fudd o ran dealltwriaeth y gweithlu a gweithredu'r cysyniad llythrennedd corfforol o fewn darpariaeth chwaraeon cymunedol. Yn y tymor hir, bydd dealltwriaeth a datblygiad gwell o arferion a gaiff eu llywio gan lythrennedd corfforol yn caniatáu i CLlC gefnogi cymunedau lleol i gael mynediad at ddarpariaeth chwaraeon a gweithgarwch corfforol o ansawdd uchel ledled Cymru.

Cysylltiadau Prifysgol Metropolitan Caerdydd: Dr Anna Bryant, Dr Lowri Edwards, Dr Kevin Morgan.