Iechyd a Lles y Cyhoedd

Arweinydd: Dr Britt Hallingberg

Arweinydd: Dr Britt Hallinberg

Mae ein hymchwil Iechyd a Lles y Cyhoedd yn rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol. Mae’n tynnu ar amrywiaeth o ddisgyblaethau sy'n canolbwyntio ar ddeall a gweithio tuag at wella iechyd a lles y cyhoedd ymhlith pobl mewn cymunedau yng Nghymru a thu hwnt. Mae ein profiad o ymchwil drawsddisgyblaethol a’n gwerthfawrogiad o ddulliau ymholi amgen yn caniatáu inni gymryd persbectif cyfannol wrth bennu'r hyn y mae'n ei olygu i fod yn 'dda ac yn iach', yr hyn sy'n siapio iechyd a lles ymhlith gwahanol grwpiau, deall y cyfleoedd sy'n bodoli i wella iechyd a lles mewn gwahanol leoliadau a gweithio gydag eraill i hwyluso newid.


Ymhlith y prosiectau enghreifftiol y mae:

COPE Cymru - Astudiaeth profiadau cyhoedd y DU o COVID-19

Mae astudiaeth profiadau cyhoedd y DU o COVID-19 (COPE Cymru) yn brosiect rhyngddisgyblaethol o dan arweiniad Dr Rhiannon Phillips (Prifysgol Metropolitan Caerdydd) mewn cydweithrediad ag ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Aberdeen. Cefnogir yr astudiaeth hydredol dulliau cymysg ledled y DU hon gan gyllid allanol Sêr Cymru. Bwriad yr astudiaeth o 11,112 o bobl yw deall y ffactorau seicogymdeithasol sy'n gysylltiedig ag ymgymryd ag ymddygiad sy'n atal trosglwyddo haint COVID-19, yn ogystal â chanlyniadau iechyd a lles. Bydd yr astudiaeth yn ymgymryd â gweithgareddau cyfnewid gwybodaeth i sicrhau bod gwybodaeth hanfodol ar gael yn gyflym i'r cyhoedd, y llywodraeth a gwasanaethau iechyd i lywio eu hymateb uniongyrchol ac yn y tymor hwy i bandemig COVID-19.

Cysylltiadau Prifysgol Metropolitan Caerdydd: Dr Rhiannon Phillips, Dr Britt Hallingberg, Dr Denitza Williams.



SPHERE (Adsefydlu Iachau Chwaraeon) - prosiect UE a ariennir gan ERASMUS+

Mae SPHERE (Adsefydlu Iachau Chwaraeon) yn brosiect UE dwy flynedd a ariennir gan ERASMUS+ sy'n cynnwys saith partner ar draws Ewrop. Nod y prosiect yw hyrwyddo'r defnydd o weithgarwch corfforol fel rhan o raglenni adsefydlu iechyd meddwl a seiciatrig. Gall gweithgarwch corfforol hyrwyddo a chefnogi iechyd meddwl, ond mae diffyg arweiniad ar sut i redeg rhaglenni gweithgarwch corfforol i wella iechyd meddwl. Er mwyn mynd i’r afael â’r diffyg hwn, mae prosiect SPHERE yn cyfuno arbenigedd o’r byd academaidd, gwasanaethau seiciatrig a darpariaeth gweithgarwch corfforol i gyd-greu canllawiau ymarferol a phenodol. Bydd y canllawiau’n cynorthwyo ymarferwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol i ddatblygu a chymhwyso rhaglenni gweithgarwch corfforol ar gyfer pobl â phroblemau iechyd meddwl. Hyd yn hyn, defnyddiwyd y canllawiau i lywio pedair rhaglen weithredu beilot yn yr Eidal, Croatia, y Ffindir a'r DU; cawsant eu rhannu’n fyd-eang trwy weminarau, cynadleddau ac erthyglau; ac maent ar gael i'r cyhoedd, ochr yn ochr ag allbynnau deallusol ychwanegol, ar wefan SPHERE y prosiect.

Cysylltiadau Prifysgol Metropolitan Caerdydd: Yr Athro Diane Crone a Paul Sellars.