Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd>CAWR>Cymuned Gyrfa Gynnar CYIGLl - Pwy ydyn ni

Cymuned Gyrfa Gynnar CYIGLl - Pwy ydyn ni

Beth yw'r Gymuned Gyrfa Gynnar?

Mae'r Gymuned Gyrfa Gynnar (CGG) yn rhan o'r Ganolfan Ymchwil ar gyfer Iechyd, Gweithgarwch a Lles (CYIGLl) sydd newydd ei lansio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae gan CYIGLl, o dan arweiniad yr Athro Diane Crone, bedwar maes ymchwil o ddiddordeb a ddangosir ar y dde. Yn unol ag agenda wleidyddol gyfredol a phellgyrhaeddol Cymru, y DU ac yn rhyngwladol, mae gan CYIGLl ddiddordeb mewn mynd i’r afael â rhai o heriau mwyaf cymdeithas. Yn benodol: (i) atal, trin a rheoli clefydau anhrosglwyddadwy (NCDs), megis clefyd y galon, diabetes; (ii) anweithgarwch corfforol; (iii) iechyd meddwl ac ansawdd bywyd; (iv) iechyd corfforol a'i addysg ar hyd y rhychwant oes; (v) rheoli pwysau iach; ac (vi) anghydraddoldebau iechyd.

Mae Cymuned Gyrfa Gynnar CYIGLl yn ceisio rhoi hunaniaeth a chefnogaeth i ymchwilwyr gyrfa gynnar sy'n cyd-fynd â meysydd diddordeb CYIGLl mewn iechyd, gweithgarwch a lles.




Ar gyfer pwy mae'r CGG?

Mae'r CGG yn agored i unrhyw un sy'n uniaethu fel ymchwilydd gyrfa gynnar ac sy’n cyd-fynd â diddordebau ymchwil CYIGLl. Er bod cartref y CGG ym Met Caerdydd, rydym yn awyddus i gael cysylltiadau y tu hwnt i'r brifysgol, felly mae croeso i unrhyw un sydd ynghlwm wrth unrhyw sefydliad neu gymdeithas arall ymuno. Mae'r gymuned hefyd yn agored i ymarferwyr sydd â diddordeb presennol mewn cynnal ymchwil neu sydd ag uchelgais i gymryd rhan. Ymysg yr enghreifftiau o aelodau cyfredol CGG y mae:

  • Myfyrwyr ymchwil ar bob lefel yn rhan-amser ac amser llawn

  • Myfyrwyr ôl-raddedig (a addysgir)

  • Staff academaidd o bob oed, ond sydd yng nghyfnod cynnar eu gyrfa ymchwil

  • Staff technegol a chymorth

  • Cynorthwywyr/swyddogion ymchwil

  • Ymarferwyr sy'n gweithio ym meysydd iechyd, gweithgarwch a lles o sefydliadau'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector


Beth yw gwaith y CGG?

Mae'r CGG yn ceisio grymuso a chysylltu unigolion i hwyluso cefnogaeth ar gyfer unrhyw agwedd ar fod yn ymchwilydd gyrfa gynnar ac i gyfeirio at ddigwyddiadau a chyfleoedd a allai wella datblygiad proffesiynol YGG yn CGG CYIGLl. Ar hyn o bryd mae gennym restr bostio a thudalen Teams sy'n cynnwys tab cwestiynau/trafodaeth agored yn ogystal â chynnwys megis manylion gweminarau sydd ar ddod, cyfleoedd i YGG ennill profiad ac adnoddau defnyddiol eraill. Yn y dyfodol, byddwn yn trefnu digwyddiadau fel sesiynau Holi ac Ateb a datblygu sgiliau, a bydd gan y CGG rolau penodol yn holl weithgareddau CYIGLl fel y Gyfres Rhwydweithio Ymchwil a dathlu digwyddiadau ymchwil.


Sut i gymryd rhan

Os hoffech gael unrhyw wybodaeth bellach neu ymuno â'r Gymuned Gyrfa Gynnar, e-bostiwch arweinydd y CGG, Jack Walklett: J.Walklett@outlook.cardiffmet.ac.uk. Gallwch hefyd ddilyn CYIGLl ar Twitter: @CAWR_CMU – defnyddiwch yr hashnod #CGG ar gyfer trydariadau/ail-drydariadau sy’n gysylltiedig â CGG!