Cyfarwyddwr, Yr Athro Diane Crone
Mae Diane yn Athro Ymarfer Corff ac Iechyd yn yr
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd ac yn Bennaeth
Academi Fyd-eang 'Iechyd a Pherfformiad Dynol' y Brifysgol. Mae ganddi brofiad helaeth o ymchwil gymhwysol a phragmatig ym maes iechyd a lles, a gweithgarwch corfforol ac ymyriadau celf ar gyfer gwella iechyd meddwl yn benodol.
Ymunodd â'r brifysgol yn 2019 a daw â thoreth o brofiad gyda hi o arwain ymchwil a gwerthuso ledled y DU ac yn rhyngwladol. Mae hi'n angerddol dros sicrhau bod ymchwil a'i ganlyniadau’n gydweithredol ac yn dylanwadu'n uniongyrchol ar bolisi ac ymarfer yn ein cymunedau. Sefydlodd CYIGLl mewn cydweithrediad â'r tîm rheoli a hi yw Cyfarwyddwr y ganolfan.
Arweinydd,
Iechyd a Llesiant y Cyhoedd (#ILlC) - Dr Britt Hallingberg
Mae Britt yn Ddarlithydd mewn Seicoleg Lles Iechyd yn yr
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd. Mae ymchwil Britt yn archwilio sut mae ffactorau seicolegol a chymdeithasol yn llunio ymddygiadau iechyd a lles, gan ganolbwyntio ar rôl gweithgareddau hamdden a hobïau. Mae ganddi arbenigedd mewn datblygu ymyrraeth a methodoleg werthuso ac mae ganddi doreth o brofiad yn cydweithredu â sefydliadau cymunedol a llunwyr polisi.
Ymunodd â'r Brifysgol yn 2019 ac mae'n angerddol dros gefnogi cyfleoedd a datblygu gyrfaoedd mewn ymchwil i fyfyrwyr a staff. Britt yw'r arweinydd strategol ar gyfer ILlC a'r cyd-arweinydd ar gyfer Cyfres Rhwydweithio Ymchwil CYIGLl.
Arweinydd,
Addysg Iechyd Corfforol ar gyfer Dysgu Gydol Oes (#AICDGO) - Dr David Aldous
Mae David yn Uwch Ddarlithydd mewn Addysgeg yn yr
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd.. Mae diddordebau ymchwil David yn ymwneud â datblygu damcaniaeth gymdeithasegol a methodolegau cyd-ddylunio i lywio cynnydd mewn deall, trawsnewid a mabwysiadu polisïau iechyd ac addysg ac ymarfer proffesiynol.
Ers ymuno â Met Caerdydd yn 2014, bu’n gweithio gydag addysgwyr yn y DU ac yn rhyngwladol i ddeall a hyrwyddo'r cwricwlwm a dysgu proffesiynol. Ef yw arweinydd strategol AICDGO.
Arweinydd,
Lles mewn Amgylcheddau Anodd (#LlAA) - Yr Athro Stephen Mellalieu
Mae Stephen yn Athro mewn Seicoleg Chwaraeon yn yr
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd.. Mae ei ymchwil yn ymchwilio i sut mae unigolion a grwpiau’n gweithredu'n llwyddiannus mewn amgylcheddau galwedigaethol anodd iawn, yn enwedig y defnydd o adnoddau personol a chymdeithasol i oresgyn y galwadau amrywiol a wynebir.
Mae ganddo ddiddordeb hefyd mewn iechyd meddwl yn y gweithle a'r rôl y mae arweinwyr yn ei chwarae wrth ddatblygu gwytnwch ac ymdopi i hwyluso lles a pherfformiad y gweithlu. Mae gan Stephen brofiad sylweddol o arwain prosiectau aml-ddull cydweithredol gydag ystod o bartneriaid diwydiant, ac fel arweinydd strategol LlAA.
Arweinwyr,
Ffisioleg Gardiofasgwlaidd #FFISGARDIO) - Dr Rachel Lord a Dr Chris Pugh
Mae Rachel yn Uwch Ddarlithydd mewn Ffisioleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn yr
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd. Nod ymchwil Rachel yn fras yw mynd i'r afael â nifer o bynciau penodol gan ganolbwyntio ar addasu cardiofasgwlaidd a rheoli'r system gardiofasgwlaidd. Mae'r pynciau hyn yn cynnwys: heneiddio'n iach ac ymarfer corff fel meddygaeth, mewn poblogaethau iach a chlinigol, a chalon yr athletwr. Ers ymuno â Met Caerdydd yn 2015, bu’n rhan o raglen Athena Swan yn y brifysgol ac mae’n eiriolwr dros weithgarwch corfforol gydol oes a'i fuddion cysylltiedig. Mae Rachel yn gyd-arweinydd strategol ar gyfer Ffisioleg Gardiofasgwlaidd yn CYIGLl, a hi yw cyd-arweinydd Cyfres Rhwydweithio Ymchwil CYIGLl.
Mae Chris yn Uwch Ddarlithydd mewn Ffisioleg Ymarfer Corff yn yr
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd. Mae agenda ymchwil fyd-eang Chris yn canolbwyntio ar sut y gall ymarfer corff a gweithgarwch corfforol rheolaidd atal a thrin afiechydon cardiofasgwlaidd a metabolaidd ar hyd y rhychwant oes. Mae'n defnyddio technegau uwchsain arloesol i archwilio effaith therapiwtig hyfforddiant ymarfer corff ac ymyriadau eraill megis therapi gwres, trochi dŵr a chynhyrchion fferyllol newydd ar iechyd fasgwlaidd ymylol a cerebrol mewn poblogaethau sy'n agored i niwed. Mae Chris yn gyd-arweinydd strategol ar gyfer Ffisioleg Gardiofasgwlaidd yn CYIGLl.
Arweinydd, Cymuned Gyrfa Gynnar CYIGLl (#CGG) - Jack Walklett
Mae Jack yn fyfyriwr Doethuriaeth ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ym maes agweddau at hyrwyddo gweithgarwch corfforol sy'n seiliedig ar systemau. Dechreuodd ysgoloriaeth Jack ym mis Hydref 2019 ac ers ymuno â'r Brifysgol mae wedi sefydlu, datblygu ac mae bellach yn arwain ein Cymuned Gyrfa Gynnar fywiog yn CYIGLl.
Arweinydd, Cyfryngau Cymdeithasol CYIGLl - Xela Defauce Bouzó
Mae Xela’n fyfyriwr Doethuriaeth ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ym maes ffisioleg ymarfer corff. Roedd ganddi rôl cyfryngau cymdeithasol yn flaenorol ar brosiect ymchwil ym Mhrifysgol Technoleg Sydney, Awstralia pan ymgymerodd â lleoliad blwyddyn o'i rhaglen radd israddedig ym Mhrifysgol Granada, Sbaen.