Skip to main content
Ysgol Reoli Caerdydd>Cyrsiau>Rheoli Gwesty a Lletygarwch Rhyngwladol - Gradd BA (Anrh)

Rheoli Gwesty a Lletygarwch Rhyngwladol - Gradd BA (Anrh)

Blwyddyn Mynediad

​​Llwybrau sydd ar gael:

BA (Anrh) Rheoli Gwesty a Lletygarwch Rhyngwladol

BA (Anrh) Rheoli Gwesty a Lletygarwch Rhyngwladol gydag Interniaeth

Mae Caerdydd yn lle delfrydol i astudio Rheolaeth Gwestai a Lletygarwch Rhyngwladol. Fel prifddinas ffyniannus, gyda threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog a diwydiant gwestai a lletygarwch gwydn, bydd gennych gyfleoedd diddiwedd i gael profiad gwaith yn y byd go iawn ar garreg eich drws.

Wedi'ch achredu'n broffesiynol gan y Sefydliad Lletygarwch (IoH), byddwch yn elwa o aelodaeth am ddim gyda mynediad diderfyn i gyrsiau a fydd yn eich helpu gyda'ch astudiaethau a'ch gyrfa yn y dyfodol.

Mae eich dysgu wedi'i ategu gan ymchwil gan y Cyngor Addysg Rheoli Lletygarwch (CHME)​, Canolfan Ymchwil Twristiaeth Cymru (WCTR) a'n staff academaidd arbenigol.

Bydd dysgu seiliedig ar waith yn ein hystafell letygarwch bwrpasol ein hunain a'r ceginau cyfagos, yn eich paratoi i fod yn rheolwr gwesty a lletygarwch medrus yn un o'r diwydiannau byd-eang mwyaf.

Mae gennych yr opsiwn i ddewis lleoliad gwaith blwyddyn o hyd yn y DU neu dramor gyda'n Rheolaeth Gwestai a Lletygarwch Rhyngwladol gyda Llwybr Interniaeth. Mae cyrchfannau interniaeth yn y gorffennol yn cynnwys Disney World yn Florida, Grand Prix Silverstone, Royal Crescent Hotel and Spa (Caerfaddon), Greenwich Country Club (UDA), a'r Scottish Golf Open.

Gan roi mantais gystadleuol i chi yn y farchnad fyd-eang, rydym hefyd yn cynnig cyfle unigryw i astudio iaith fel rhan o'ch gradd.

Ni fu ein cysylltiadau agos â phartneriaid yn y diwydiant erioed yn bwysicach i ddeall heriau y mae'r diwydiant yn eu goresgyn. Dysgwch sut mae'r diwydiant gwestai a lletygarwch yn addasu ac arloesi i aros ar y blaen gan arweinwyr busnes yn y gwybod.

Manteisiwch ar weminarau byw, darlithoedd gwadd a chyfleoedd mentora gydag arbenigwyr yn y diwydiant. Bydd cymysgedd o theori academaidd, profiad ymarferol a gwybodaeth am y diwydiant yn eich arfogi â'r sgiliau sydd eu hangen i ffynnu ym myd deinamig rheoli gwestai a lletygarwch.

Byddwch yn ein gadael ni fel gweithiwr proffesiynol sy'n barod i'r diwydiant i gyflwyno profiadau sy'n creu atgofion ac yn cael effaith fel uwch reolwr yn y sector gwestai a lletygarwch rhyngwladol.

Mae 100% o raddedigion mewn gwaith neu astudiaethau pellach o fewn 15 mis ar ôl graddio (Arolwg Hynt Graddedigion ​2023)


Blwyddyn Sylfaen

​Gellir astudio’r radd hon fel gradd amser llawn tair blynedd neu radd pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn o astudio sylfaenol. Bwriad ein blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder.

Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i:

  1. Myfyrwyr nad ydynt wedi cael y nifer gofynnol o bwyntiau Safon Uwch (neu gyfwerth) i ddechrau ar flwyddyn gyntaf y rhaglen radd.
  2. Myfyrwyr hŷn sydd wedi bod allan o’r system addysg ffurfiol ers peth amser.


Darganfyddwch fwy am y flwyddyn sylfaen.

Nodwch: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r 4 blynedd gan gynnwys sylfaen. Cyfeiriwch at Wybodaeth Gwrs Allweddol ar waelod y dudalen hon.

Cynnwys y Cwrs

​Blwyddyn Un


  • Hanfodion Lletygarwch (20 credyd​)
  • Gweithrediadau Coginio a Gwasanaeth (20 credyd)
  • Marchnata ar gyfer Twristiaeth, Lletygarwch a Digwyddiadau (20 credyd) *
  • Datblygu Pobl o fewn Sefydliadau (20 credyd)
  • Refeniw, Costau a Rheolaethau Cyllidebol (20 credyd)

Modiwlau dewisol gorfodol (dewiswch un o’r canlynol):

  • Gweithrediadau Gwesty a Lletygarwch Ymarferol (20 credyd)
  • Sbaeneg mewn Cyd-destunau Proffesiynol 1 (20 credyd)
  • Tsieinëeg Mandarin mewn Cyd-destunau Proffesiynol 1 (20 credyd)
  • Ffrangeg mewn Cyd-destunau Proffesiynol 1 (20 credyd)

* Modiwl ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.

** Gall myfyrwyr ddewis gwneud naill ai Gweithrediadau Gwesty a Lletygarwch Ymarferol neu un o’r modiwlau iaith ym Mlwyddyn Un.


Blwyddyn Dau


Mae’r ail flwyddyn yn adeiladu ar eich sylfaen wybodaeth bresennol ac yn symud ymlaen i feysydd mwy arbenigol o reoli gwesty twristiaeth a lletygarwch.

Modiwlau gorfodol:

  • Gweithrediadau Gwesty, Tactegau a Gwneud Penderfyniadau (20 credyd)
  • Digwyddiadau Lletygarwch yn y Trydydd Sector (20 credyd)
  • Dylunio Ymchwil ar Waith​ (20 credyd) *

Modiwlau dewisol gorfodol (dewiswch o leiaf un):

  • Ymddygiad Defnyddwyr ar gyfer Twristiaeth, Lletygarwch a Digwyddiadau (20 credyd)
  • Rheoli Pobl ar gyfer Twristiaeth, Lletygarwch a Digwyddiadau (20 credyd)
  • Dechrau Busnes ac Entrepreneuriaeth (20 credyd)

Modiwlau dewisol:

  • Lleoliad Gwaith yn yr Haf (20 credyd)
  • Technolegau ar gyfer Twristiaeth, Lletygarwch a Digwyddiadau (20 credyd)
  • Newid Cymdeithasol a Chydraddoldeb(au) (20 credyd)
  • Sbaeneg mewn Cyd-destunau Proffesiynol 2 (20 credyd) **
  • Tsieinëeg Mandarin mewn Cyd-destunau Proffesiynol 2 (20 credyd) **
  • Ffrangeg mewn Cyd-destunau Proffesiynol 2 (20 credyd) **

* Modiwl ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.

** Dim ond os gwnaethant eu dilyn ym Mlwyddyn Un y gall y myfyrwyr ddewis opsiwn iaith.


Blwyddyn Tri


Mae’r drydedd flwyddyn yn galluogi myfyrwyr i deilwra eu gradd yn seiliedig ar eu diddordebau a’u dyheadau gyrfaol.

Modiwlau gorfodol:

  • Lletygarwch Critigol (20 credyd)
  • Rheoli Gwesty a Lletygarwch Cynaliadwy mewn Byd sy’n Newid (20 credyd)
  • Arweinyddiaeth Strategol a Rheoli Newid (20 credyd)
  • Traethawd Hir (40 credyd) *, Prosiect Menter (40 credyd) *, Prosiect Ymgynghori (40 credyd) NEU Astudiaeth Ymchwil Annibynnol (20 credyd)

Modiwlau dewisol:

  • Rheoli Gwesty Cyrchfan a Stadia (20 credyd)
  • Twristiaeth Gastronomig (20 credyd)
  • Cyfathrebu Marchnata yn yr Oes Ddigidol (20 credyd)
  • Adnoddau Cyflogeion a Rheoli Gwirfoddolwyr (20 credyd)
  • Cyrchfannau a Digwyddiadau (20 credyd)
  • Arweinyddiaeth a Datblygiad Proffesiynol gyda Mentora (20 credyd)
  • Sbaeneg mewn Cyd-destunau Proffesiynol 3 **
  • Tsieinëeg Mandarin mewn Cyd-destunau Proffesiynol 3 **
  • Ffrangeg mewn Cyd-destunau Proffesiynol 3 **

* Modiwl ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.

** Dim ond os gwnaethant eu dilyn ym Mlwyddyn Un a Dau y gall y myfyrwyr ddewis opsiwn iaith.


Sylwer bod modiwlau dewisol yn rhedeg yn dibynnu ar y galw ac argaeledd​.

Dysgu ac Addysgu

Dysgir ein gradd Rheoli Gwesty a Lletygarwch Rhyngwladol trwy gyfuniad o ddarlithoedd wythnosol, tiwtorialau, gweithdai a seminarau.

Byddwch yn elwa o siaradwyr gwadd arbenigol y diwydiant, gweithdai rhyngweithiol a theithiau maes trwy gydol eich astudiaethau. Bydd dysgu wyneb yn wyneb a dysgu rhithwir yn rhoi'r sgiliau ymarferol, datrys problemau a digidol sydd eu hangen arnoch i ffynnu fel rheolwr gwesty neu letygarwch.

Bydd y dysgu seiliedig ar waith yn digwydd yn ein hystafell lletygarwch pwrpasol ein hunain ar y safle a cheginau cyfagos, sydd wedi'u cynllunio'n benodol at eich defnydd chi. Man hyblyg lle cewch gyfle i weithio mewn grwpiau i ddylunio a rheoli digwyddiad lletygarwch.

Mae addysgu yn y ffordd ymarferol hon nid yn unig yn helpu i ddatblygu sgiliau rheoli gwestai a lletygarwch allweddol, ond hefyd yn adeiladu eich hyder.

Darllenwch astudiaethau achos a chwblhewch ymarferion ymarferol i gymhwyso theori mewn lleoliad ymarferol. Mireiniwch eich sgiliau cyflwyno mewn amgylchedd cefnogol clos a chael adborth gwerthfawr gan y tîm academaidd.

Mae gennych yr opsiwn i ddewis lleoliad gwaith blwyddyn o hyd yn y DU neu dramor gyda'n llwybr Rheoli Gwestai a Lletygarwch Rhyngwladol gydag Interniaeth. Mae cyrchfannau interniaeth yn y gorffennol yn cynnwys Disney World yn Florida, Silverstone Grand Prix, The Royal Crescent Hotel and Spa (Caerfaddon), Greenwich Country Club (UDA), a Scottish Golf Open.

Mae gennym ni gysylltiad cryf â’r diwydiant ledled y byd. Rydym yn eich annog yn frwd i wneud gwaith am dâl a gwirfoddol trwy gydol eich astudiaethau i hybu eich cysylltiadau yn y sector.

Gallwch gael mynediad at gynnwys y cwrs trwy Moodle, yr amgylchedd dysgu rhithwir, gydag offer a deunyddiau dysgu rhyngweithiol. Byddwch hefyd yn cael mynediad at wasanaethau’r Llyfrgell, Met Search, ac adnoddau gan y Sefydliad Lletygarwch.

Byddwch yn dysgu gan ein tîm angerddol o ddarlithwyr Gwesty a Lletygarwch Rhyngwladol sydd hefyd yn arbenigwyr diwydiant profiadol.

Byddwch yn elwa o gael eich Tiwtor Personol eich hun drwy gydol eich astudiaethau.

Asesu

Asesir ein Gradd Rheoli Gwesty a Lletygarwch Rhyngwladol gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau megis traethodau, adroddiadau, cyflwyniadau, astudiaethau achos, diwrnodau asesu adeiladu tîm, portffolios a chyflwyniadau poster heb unrhyw arholiadau ffurfiol.

Mae ein hasesiadau wedi'u cynllunio i ddatblygu a hyrwyddo sgiliau trosglwyddadwy a bod o ddefnydd ymarferol wrth weithio yn y diwydiant gwestai a lletygarwch. Mae hyn yn cynnwys gweithio mewn tîm, datrys problemau, sgiliau cyflwyno, sgiliau digidol, cyfathrebu a gweithio dan bwysau.

Byddwch yn derbyn ystod eang o adborth ar eich gwaith ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Mae'r sector gwestai a lletygarwch yn un o'r diwydiannau byd-eang mwyaf. Mae lletygarwch yn sector hanfodol o economi’r DU, ac fel diwydiant mae wedi profi i fod yn arloesol, yn ystwyth ac yn wydn yn wyneb afiechyd a thrychinebau naturiol.

Mae galw yn y farchnad am reolwyr Gwestai a Lletygarwch arbenigol, yn enwedig ym meysydd gweithrediadau, rheoli refeniw, arloesi, sgiliau digidol, cynaliadwyedd, a rheoli risg.

Bydd y sgiliau a ddysgwch chi trwy gydol ein Gradd Rheoli Gwestai a Lletygarwch Rhyngwladol yn eich galluogi i ddatblygu i rolau rheoli uwch mewn cyfnod cymharol fyr o amser ar ôl graddio.

Mae'r diwydiant lletygarwch yn cynnig ystod amrywiol o gyfleoedd gyrfa lle bydd graddedigion mewn sefyllfa dda i sicrhau swyddi rheoli yn sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol y diwydiant.

O westai, bwytai, clybiau, bariau, rheoli manwerthu trwyddedig, rheoli cynadleddau a digwyddiadau i adnoddau dynol a marchnata o fewn lletygarwch; ynghyd ag adrannau lletygarwch o fewn y gwasanaethau arfog, contract, gwasanaeth iechyd ac arlwyo lles.

Wedi'u hachredu gan y Sefydliad Lletygarwch, mae graddedigion llwyddiannus yn gymwys ar gyfer aelodaeth drwyddedig.

Pa bynnag lwybr gyrfa a gymerwch, mae ein tîm gyrfaoedd a chyflogadwyedd gyda chi bob cam o'r ffordd ar hyd eich taith. O'ch helpu i sicrhau lleoliadau gwaith ac interniaethau i ffeiriau gyrfaoedd a gweithdai cyflogadwyedd.

Mae Ysgol Reoli Caerdydd hefyd yn gartref i’r Ganolfan Entrepreneuriaeth, adran bwrpasol Prifysgol Metropolitan Caerdydd ar gyfer cefnogi ac annog entrepreneuriaeth ymhlith myfyrwyr a graddedigion.

Mae opsiynau astudio pellach yn cynnwys nifer o gyrsiau ardystio megis Dyfarniad Deiliaid Trwydded Bersonol BIIAB a Lefel 2 Diogelwch Bwyd. 

Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau M.Sc. mewn Rheoli Lletygarwch a Thwristiaeth neu M.Sc. mewn Rheoli Digwyddiadau, gyda chyfleoedd i symud ymlaen i raglenni doethuriaeth, megis MPhil, PhD, DMan a Doethuriaeth Broffesiynol, i gyd yma ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Cynigion Nodweddiadol

​Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion nodweddiadol sy’n berthnasol i ddechrau ar flwyddyn 1 y radd.

Os nad ydych yn bodloni’r gofyniad mynediad uchod, rydym hefyd yn cynnig Flwyddyn Sylfaen sy’n caniatáu gwneud cynnydd i Flwyddyn 1.​

  • Pwyntiau tariff: 96-112
  • Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
  • TGAU: Pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
  • Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
  • Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch i gynnwys Graddau CCC. Does dim angen pynciau penodol. Bagloriaeth Cymru – Ystyrir Tystysgrif Her Sgiliau Uwch fel trydydd pwnc.
  • Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: MMM-DMM
  • Lefel T: Pasio (C+) – Teilyngdod.
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 2 x H5. Does dim angen pynciau penodol.
  • Tystysgrif Gadael Iwerddon: 2 x gradd H2. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
  • Advanced Highers yr Alban: Graddau DD. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.

Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.

Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.

Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.


Sut i Ymgeisio

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.

Cysylltu â Ni

Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch ag arweinydd y rhaglen, Darr​yl Gibbs​:
E-bost:dgibbs@cardiffmet.ac.uk
Ffôn: 029 2041 6327​

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â'r Tîm Derbyn ar 029 2041 6044 6044 neu e-bostiwch askadmissions@cardiffmet.ac.uk.

Rydyn ni’n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â’r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu’r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i’r brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae’n cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o’r fath yn angenrheidiol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael y wybodaeth lawn.

Gwybodaeth Allweddol Am Y Cwrs

Codau UCAS:
N220 - Gradd 3 blynedd
N22F - Gradd 4 blynedd (yn cynnwys flwyddyn sylfaen)

Man Astudio:
Campws Llandaf

Ysgol:
Ysgol Reoli Caerdydd

Hyd y Cwrs:
Tair blynedd yn llawn amser.
Pedair blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud lleoliad diwydiant blwyddyn o hyd.
Pedair blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud blwyddyn sylfaen.
Pum mlynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud blwyddyn sylfaen a lleoliad diwydiant blwyddyn o hyd.​

ARCHWILIWCH EIN CYFLEUSTERAU | TAITH RHITHIOL
Taith Rhithiol

Ewch am dro rhithiol o'n Hystafell Letygarwch a'n ceginau diwydiannol cyffiniol yn Ysgol Reoli Caerdydd.

UCHAFBWYNTIAU GRADD
Uchafbwyntiau Gradd

Gwyliwch Marios, myfyriwr Rheoli Gwesty a Lletygarwch Rhyngwladol, yn siarad am ei brofiad yn cynnal cinio diwydiant blynyddol yn ein Hystafell Lletygarwch ac yn arwain y tîm buddugol i fuddugoliaeth yn y gystadleuaeth Angerdd am Letygarwch diweddaraf.

PROFFIL STAFF

“Dr Darryl Gibbs ydw i, Cyfarwyddwr Rhaglen BA (Anrh) Rheoli Gwesty a Lletygarwch Rhyngwladol. Rwy’n addysgu ar ystod o bynciau ar draws modiwlau israddedig ac ôl-raddedig. Mae fy nghefndir yn y diwydiant ym maes rheoli Bwyd a Diod ac mae fy niddordebau ymchwil yn cynnwys astudiaethau lletygarwch beirniadol, rhywedd, rhywioldeb a hunaniaeth mewn twristiaeth, lletygarwch a digwyddiadau a chyd-adeiladu, cyflwyno a pherfformio profiadau croesawgar. Mae gennym ni ystod enfawr o brofiad a gwybodaeth diwydiant gwestai a lletygarwch yma ar y tîm ac yn eich gwahodd i ddod i astudio yn un o ddinasoedd mwyaf croesawgar y DU!”

Dr Darryl Gibbs
Cyfarwyddwr Rhaglen