Cynigir rhaglen astudiaeth rhan-amser, presenoldeb isel, tair blynedd sy’n arwain at radd
sylfaen mewn Technoleg Ddeintyddol. Mae llawer o'r dysgu drwy brofiad ymarferol yn cael
ei wneud yn ystod dysgu seiliedig ar waith yng nhweithle’r myfyriwr.
Mae'r trefniant hwn yn caniatáu cyfle i integreiddio gweithdrefnau technegol ac yn
caniatáu ar gyfer dadansoddi, myfyrio ac ailadrodd yn llwyr y gweithdrefnau a gyflawnir yn
y cwrs ac yn y gweithle. Mae yna eitemau asesu o fewn y modiwlau a gyflwynwyd yn
ystod yr amser hwn sy'n ymwneud â'r dysgu seiliedig ar waith gan fyfyrwyr, astudiaethau
achos, adroddiad cymhwysedd, ac ati. Mae myfyrwyr yn gwneud gwaith i gleifion tra yn y
gweithle dysgu seiliedig ar waith.