Mae'r diwydiant bwyd yn y Deyrnas Unedig wedi datblygu enw da ledled y byd am
gynhyrchu cynhyrchion iachus, diogel o ansawdd eithriadol. Er mwyn cynnal y sefyllfa hon
yn y farchnad fyd-eang, mae'n hanfodol bod y gweithlu yr un mor gymwys a medrus.
Dyluniwyd y Cwrs Meistr Gwyddor a Thechnoleg Bwyd yn Met Caerdydd i ddarparu
hyfforddiant proffesiynol sy'n cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol
gynhwysfawr ym meysydd gwyddor bwyd a thechnoleg bwyd. Mae'n ddelfrydol ar gyfer
myfyrwyr a gweithwyr proffesiynol sy'n ceisio ehangu eu posibiliadau gyrfa i ystod eang o
rolau gweithgynhyrchu bwyd, masnachol, llywodraeth neu ymchwil ym maes eang
gwyddor bwyd a thechnoleg bwyd.
Cyflwynir tasgau i fyfyrwyr i ddatblygu a chryfhau eu gwybodaeth, arweinyddiaeth,
ymchwil a sgiliau datrys problemau er mwyn cwrdd â'r heriau byd-eang sy'n gysylltiedig
ym mhob agwedd ar y diwydiant bwyd, o'r fferm i'r fforc.
Mae'r brifysgol yn gartref i Ganolfan Diwydiant Bwyd Zero2Five, canolfan ragoriaeth
flaenllaw sy'n darparu cefnogaeth dechnegol, weithredol a masnachol i fusnesau bwyd i'w
galluogi i gystadlu'n fwy effeithiol. Mae gan y Ganolfan enw da yn rhyngwladol am ymchwil
diogelwch bwyd ac mae'n darparu arbenigedd, hyfforddiant a chyngor i'r diwydiant bwyd,
a bydd myfyrwyr sy'n ymgymryd â'r radd hon yn elwa o'r cysylltiad agos a'r arbenigedd
gan y Ganolfan a'r staff.
Mae'r wybodaeth am y cwrs ar y dudalen hon yn ymwneud â mynediad Medi 2019.