Cynnwys y Cwrs
Mae angen cwblhau 60 credyd ym mhob cam. Ar lefelau Tystysgrif a Diploma, mae
myfyrwyr yn astudio modiwlau o faes arbenigol dethol, a all gynnwys prosthodonteg
sefydlog (cadwraeth), prosthodonteg symudadwy (dannedd gosod) ac orthodonteg. Er
enghraifft, mae teitlau modiwlau yn cynnwys dannedd gosod cyflawn a rhannol cymhleth,
atodiadau manwl, mewnblaniadau, offer orthodonteg sefydlog a sydd â swyddogaeth
gyhyrol.
Mae yna sawl modiwl Dysgu Seiliedig ar Waith sy'n cynnwys astudiaethau achos,
datblygiad personol a phortffolio. Mae modiwlau ymchwil hefyd ar gael yn paratoi
ymgeiswyr ar gyfer y Radd Meistr os oes angen. Ar y lefel hon rhaid ymgymryd â
phrosiect ymchwil a pharatoi erthygl gyhoeddadwy. Cytunir ar bwnc yr ymchwil rhwng y
myfyriwr a'i oruchwylydd dynodedig.
Dysgu ac Addysgu
Mae presenoldeb ar y rhaglen hon trwy gynhadledd fideo. Bydd hyn yn ei gwneud yn
ofynnol i fyfyrwyr gael mynediad i gyfrifiadur personol neu ddyfais sy'n gydnaws â'r
Rhyngrwyd â chysylltiad band eang. Nid oes angen mynychu'r campws.
Asesu
Asesir Modiwlau Tystysgrif a Diploma trwy arholiadau ymarferol a damcaniaethol,
aseiniadau ysgrifenedig neu ymarferol neu gyfuniad o'r rhain. Asesir y cydran Gradd
Meistri (rhan 2) drwy brosiect ymchwil gwerth 60 credyd.
Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd
Mae'r cymwysterau'n caniatáu ymgeisio am swydd Uwch Dechnegydd Deintyddol ac
uwch yn y gwasanaeth iechyd (ar Fand 6 MT0 3/A4C 6 neu'n uwch). Byddai cwblhau'r
rhaglenni yn llwyddiannus hefyd yn caniatáu i'r rheini yn y sector preifat wneud gwaith
mwy heriol gyda’r potensial o ennill cyflog uwch..
Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais
Oherwydd natur arbenigol y rhaglenni, mae angen cymhwyster cychwynnol mewn technoleg ddeintyddol. Dylai fod gan ymgeiswyr radd anrhydedd dda (1af neu 2:1) mewn gradd mewn technoleg deintyddol. Bydd ymgeiswyr mynediad eithriadol yn cael eu hystyried yn unigol. Bydd angen i ymgeiswyr o'r fath ddangos eu bod yn gallu elwa o'r rhaglen a darparu tystiolaeth trwy Gydnabod Dysgu Blaenorol.
Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder i safon IELTS 6.5 neu gyfwerth o leiaf. I gael manylion llawn am sut i wneud cais ac am gymwysterau Iaith Saesneg ewch i’r
tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.
Y Broses Ddethol:
Asesir ymgeiswyr yn erbyn y meini prawf cymhwysedd a nodir uchod trwy lenwi ffurflen gais.
Sut i Wneud Cais:
Dylid gwneud ceisiadau am y cwrs hwn yn uniongyrchol i'r brifysgol trwy ein cyfleuster hunanwasanaeth facility. Am wybodaeth pellach ewch i'n tudalennau Sut i Wneud Cais: www.cardiffmet.ac.uk/howtoapply.
Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio credyd gan sefydliad arall, neu os ydych wedi ennill cymwysterau a / neu brofiad i astudio ar gyfer cwrs yn Met Caerdydd, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn ynghyd â gwybodaeth ar sut i wneud cais ar y
dudalen RPL.
Gwybodaeth Ychwanegol
Ffioedd Dysgu a Chefnogaeth Ariannol:
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd dysgu a'r gefnogaeth ariannol a allai fod ar gael. Ewch i www.cardiffmet.ac.uk/fees.
Ffioedd rhan-amser:
Codir y taliadau fesul Modiwl Unigol oni nodir yn benodol:
Israddedig = 10 Credyd; Ôl-raddedig = 20 Credyd
Yn gyffredinol, bydd y mwyafrif o fyfyrwyr yn cwblhau 60 credyd y flwyddyn ar gyfer astudiaethau Israddedig ac Ôl-raddedig; i gael gwir brisiad, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen yn uniongyrchol.
Cysylltu â Ni