Skip to main content
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd>Cyrsiau>Gwaith Cymdeithasol - BSc (Anrh)

Gwaith Cymdeithasol - BSc (Anrh)

Blwyddyn Mynediad

​Mae cwrs gradd BSc Gwaith Cymdeithasol ym Met Caerdydd yn seiliedig ar Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer ymarfer gwaith cymdeithasol (2011) ac yn cael ei gynnig mewn partneriaeth ag asiantaethau gwaith cymdeithasol lleol a grwpiau defnyddwyr gwasanaeth. Mae'n cyfuno ac integreiddio hyfforddiant proffesiynol maes gwaith cymdeithasol gydag astudiaeth academaidd i lefel gradd.

Mae Gwaith Cymdeithasol yn golygu dull hyblyg o fynd ati i ddiwallu anghenion unigolion, grwpiau neu gymunedau. Mae’r radd hon mewn gwaith cymdeithasol yn datblygu ystod o gymwyseddau er mwyn cwrdd â Safon Galwedigaethol Cenedlaethol Gwaith Cymdeithasol. Bydd myfyrwyr yn dysgu am ddeddfwriaeth, theori ac ymchwil ar sail tystiolaeth o ran gwybodaeth am waith cymdeithasol, yn cael dysgu sgiliau a gwerthoedd ac ennill profiad drwy gyfleodd ymarfer a dysgu am waith cymdeithasol yn y gweithle. Mae’r radd hon mewn gwaith cymdeithasol hefyd yn cynnwys dod i ddeall am ddarpariaeth ddeddfwriaethol gwasanaethau a phwysigrwydd gwaith cymdeithasol yng nghyd-destun Cymru, y DU ac yn rhyngwladol.

Bydd Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gwaith Cymdeithasol (2017) a materion cydraddoldeb a hawliau dynol yn rhan annatod o ddysgu ac ymarfer ac mae disgwyl i chi gydymffurfio ag e.

Oherwydd y nifer fawr o geisiadau, yn anffodus, ni ellir ystyried ceisiadau sydd wedi’u gohirio.​

​Cynnwys y Cwrs

Blwyddyn: 'Rhagarweiniad a Sylfaen'
Ar y cam hwn, cewch eich asesu ar eich potensial i ddatblygu ymhellach. Cyn ymgymryd ag ymarfer uniongyrchol gyda defnyddwyr gwasanaeth mewn lleoliad ymarfer dysgu, rhaid i chi wneud 20 diwrnod o ymarfer dysgu pan fydd rhaid i chi ddangos eich bod yn meddu ar y sgiliau rhyngbersonol a’r gwerthoedd sydd eu hangen er mwyn bod yn addas a diogel i weithio gyda phobl ag anghenion gofal cymdeithasol a’u gofalwyr. Bydd ffocws blwyddyn gyntaf yr astudiaeth hefyd ar werthoedd craidd a sgiliau yn ogystal â phrosesau cymdeithasol, diwylliannol a sefydliadol ehangach sy’n fframio rôl a thasg gwaith cymdeithasol.


Blwyddyn Dau a Thri: 'Cymhwyso gwybodaeth, sgiliau a gwerthoedd mewn ymarfer gwaith cymdeithasol ac i ddatblygu a chadarnhau cymhwysedd mewn ymarfer gwaith cymdeithasol‘
Byddwch y treulio 180 o ddyddiau mewn lleoliadau dysgu ymarfer a asesir (80 diwrnod ym mlwyddyn 2 a 100 diwrnod ym mlwyddyn 3).

​Bydd hyn yn golygu lleiafswm o ddau leoliad ymarfer. Bydd hyn yn cynnig ystod o gyfleoedd dysgu i chi ddangos cymhwysedd o ran Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Gwaith Cymdeithasol (2011) a Chod Ymarfer Proffesiynol Gwaith Cymdeithasol (2017). Erbyn diwedd y ddau gyfnod dysgu drwy ymarfer hirach hyn, byddwch yn defnyddio gwybodaeth am waith cymdeithasol, sgiliau a gwerthoedd yn cynnwys canfyddiadau ymchwil yn eich ymarfer a bydd angen i chi arddangos datblygiad ymarfer critigol, dadansoddiadol ac adfyfyriol.

Bydd ffocws ar anfantais, gormes ac amddifadedd; a hyn yn arwain at bwyslais ar ymyriad mewn gwaith cymdeithasol a chyd-destunau yr ymarfer o fewn gwaith cymdeithasol.

​Ym mlwyddyn dau, bydd ffocws ar gymhwyso gwybodaeth am waith cymdeithasol, sgiliau a gwerthoedd yn cynnwys canfyddiadau ymchwil yn eu hymarfer ac yn eu gwaith academaidd a asesir gyda phwyslais ar fyfyrwyr yn arddangos datblygiad eu hymarfer critigol, dadansoddiadol ac adfyfyriol.

Bydd blwyddyn tri wedyn yn cynnig cyfle i fyfyrwyr adeiladu ar y wybodaeth, y sgiliau a’r gwerthoedd a gafwyd ym mlwyddyn dau, a’r myfyrwyr yn arddangos barn broffesiynol, ymyriad ac adfyfyrio critigol ar draws eu hymarfer ac o fewn gwaith academaidd asesedig.​


Dysgu ac Addysgu

Neilltuir tiwtor personol i bob myfyriwr sy’n ymrestru ar gwrs BSc (Anrh) Gwaith Cymdeithasol, tiwtor a fydd yn cynnig cymorth tiwtorial i grwpiau ac i unigolion. Mae gan staff radd mewn gwaith cymdeithasol, profiad helaeth o weithio ym maes gwaith cymdeithasol ac yn tynnu ar hyn i wella profiad myfyrwyr o ddysgu’r pwnc. Addysgir myfyrwyr drwy ystod o ddulliau dysgu ac addysgu, gan cynnwys grwpiau yn dysgu drwy brofiad a datrys problemau, darlithoedd a seminarau rhyngweithiol ynghyd â chynnwys y cyfryngau er mwyn dod i ddeall profiad pobl ag anghenion gofal cymdeithasol a’u gofalwyr yn well. Caiff myfyrwyr gymorth pellach drwy’r defnydd o ‘Moodle’, y Rhith Amgylchedd Dysgu.

Gosodir myfyrwyr o fewn grwpiau ‘Asiantaeth Ymbarél’ Awdurdod Lleol drwy gydol eu hastudiaethau , ac yna yn cael y cyfle i adeiladu perthynas waith broffesiynol gyda chymheiriaid a gweithwyr proffesiynol o fewn ei Hawdurdod Lleol. Treulir rhan sylweddol o’r cwrs mewn sefyllfaoedd ymarferol o fewn asiantaethau yn Ne Cymru; felly, bydd y gallu i deithio i ac o fewn asiantaethau ymarfer yn fanteisiol.

Tra’n astudio ar gwrs gradd gwaith cymdeithasol, gofynnir i fyfyrwyr ddangos eu bod yn gallu defnyddio dulliau a methodolegau Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) i gynorthwyo eu dysgu a’u hymarfer.


Asesu

Bydd asesu meysydd unigol astudiaeth yn cynnwys cyfuniad o wahanol ddulliau o fynd ati: drwy ddysgu ar leoliad, ymarferion efelychu/astudiaethau achos, traethodau ac aseiniadau, adroddiadau, cyflwyniadau poster, cyflwyniadau grŵp ac unigol ac arholiadau.

Yn ogystal, mae gofyn i fyfyrwyr gynhyrchu portffolios sy’n berthnasol i’w dysgu drwy ymarfer, sy’n cynnwys arsylwadau o ymarfer ac adroddiadau adfyfyriol ar sail eu harsylwadau.

Mae myfyrwyr cwrs gradd gwaith cymdeithasol yn derbyn adborth a chyngor ymlaen llaw (feed forward) yn electronig i holl waith a asesir yn academaidd ac maen nhw’n cael eu hannog drwy’r broses diwtorial bersonol i adolygu’r adborth a datblygu sgiliau academaidd a gwaith cymdeithasol ar sail ymarfer.


Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Ar ôl cwblhau gradd BSc (Anrh) Gwaith Cymdeithasol a’r holl gyfleoedd perthnasol dysgu academaidd a dysgu brofiad drwy brofiad, bydd graddedigion yn gallu cofrestru fel ymarferwyr Gwaith Cymdeithasol a chael mynediad i ystod eang o gyfleoedd cyflogaeth ym maes gwaith cymdeithasol y sectorau statudol, annibynnol a’r trydedd sector. Gall graddedigion gael gwaith gyda phobl ag anghenion gofal cymdeithasol a’u gofalwyr sy’n defnyddio ystod o waith cymdeithasol a gwasanaethau gofal cymdeithasol sy’n mynd i’r afael â materion ac anghenion cymdeithasol cymhleth.

Bydd gofyn hefyd i raddedigion ddilyn Addysg a Dysgu Proffesiynol Parhaus yn eu gyrfa ym maes Gwaith Cymdeithasol ac efallai’n dewis astudio am gymhwyster ôl-radd, er enghraifft addysgu ym maes addysg bellach/uwch neu gwrs Meistr neu Ddoethuriaeth mewn Gwaith Cymdeithasol. Mae cyfleoedd hefyd tu allan i faes Gwaith Cymdeithasol.


Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Cynigion Nodweddiadol

  • Pwyntiau tariff: 96
  • Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
  • TGAU: Yn ddelfrydol, pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf.
  • Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
  • Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch i gynnwys graddau CCC. Does dim angen pynciau penodol. Bagloriaeth Cymru – Ystyrir Tystysgrif Her Sgiliau Uwch fel trydydd pwnc.
  • Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: MMM
  • Lefel T: Pasio (C+).
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): Does dim angen pynciau penodol.
  • Tystysgrif Gadael Iwerddon: 2 x H2. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
  • Advanced Highers yr Alban: Graddau DD. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers
  • NVQ perthnasol ar Lefel 3 neu 4 mewn gwaith cymdeithasol/maes pwnc gofal cymdeithasol perthnasol.
  • Gofynion eraill:Cyfweliad llwyddiannus a gwiriad DBS. ​Tystiolaeth o brofiad gwaith mewn lleoliad gofal cymdeithasol. Cyfeiriwch at y tab Profiad isod am ragor o fanylion.

Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.

​Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.


Sut i Ymgeisio

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.

Cyfweliad a Gofynion Profiad

Cynhelir cyfweliadau ar gampws Llandaf yn ystod eich diwrnod penodedig​ ac felly bydd gofyn i chi fynychu’r diwrnod cyfan. Mae diwrnodau cyfweliadau yn dechrau am 9.30am a disgwylir iddynt orffen erbyn 4.30pm.

Cyfweliad Unigol:
Bydd eich cyfweliad unigol yn para tua 15-20 munud ac fe’i cynhelir ar gampws gan aelodau staff academaidd Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Choleg Penybont, ochr yn ochr ag ymarferwyr gwaith cymdeithasol ac unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol, sy’n ymwneud â’r Rhaglen. Anogir ymgeiswyr i ymgyfarwyddo â’r wybodaeth ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru sy’n ymwneud â Chod Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer Gofal Cymdeithasol (2017), a deddfwriaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Gofynion Profiad:
Mae’n ofynnol i ymgeiswyr fod wedi cael rhywfaint o brofiad gwaith mewn lleoliad gofal cymdeithasol​. Nid oes terfyn amser o ran pryd y cwblhawyd y profiad gwaith hwn, ond byddai profiad mwy diweddar yn cryfhau eich cais.

Mewn amgylchiadau eithriadol, bydd y rhaglen hefyd yn ystyried yr ymgeiswyr hynny sydd â phrofiad personol fel unigolyn ag anghenion gofal cymdeithasol neu fel gofalwr. Er enghraifft, ceisiadau gan unigolion sydd wedi bod yn brif ofalwr, ar sail sylweddol a rheolaidd, i berthynas, ffrind, neu gymydog neu blentyn/person ifanc sy’n derbyn gofal gan yr Awdurdod Lleol – hynny yw, person â phrofiad o fod mewn gofal. Mewn amgylchiadau o’r fath, gellir cryfhau ceisiadau â phrofiad ychwanegol o wirfoddoli/gofal cymdeithasol â thâl hefyd.

Gellir ennill profiad mewn ystod eang o rolau â thâl neu wirfoddol ym maes gofal cymdeithasol:

  • Gyda phlant a theuluoedd mewn lleoliadau gofal cymdeithasol megis Dechrau’n Deg, timau Awdurdodau Lleol, Gweithredu dros Blant, Barnardo’s a chartrefi preswyl.
  • Gydag oedolion mewn lleoliadau gofal cymdeithasol megis Timau Oedolion Awdurdodau Lleol, llety â chymorth, cartrefi preswyl/nyrsio, elusennau sy’n gweithio gyda phobl ag anableddau; elusennau trais domestig, gwasanaethau digartrefedd a sefydliadau camddefnyddio sylweddau.
  • Mewn lleoliadau cwnsela neu weithio un-i-un mewn lleoliadau gwaith ieuenctid a chymunedol.
  • Mewn lleoliadau addysg lle mae’r rôl yn ymwneud â gwaith uniongyrchol gyda phlant ag anghenion ychwanegol neu’n gweithio mewn addysg brif ffrwd a/neu feithrinfeydd/crèches.

Cysylltu â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu anfon e-bost at askadmissions@cardiffmet.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau penodol i’r cwrs, cysylltwch â'r Uwch Ddarlithydd BSc (Anrh) Gwaith Cymdeithasol, ​Suzanne Sheldon
Ebost: SSheldon@cardiffmet.ac.uk

Rydyn ni’n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â’r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu’r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i’r brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae’n cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o’r fath yn angenrheidiol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael y wybodaeth lawn.

Gwybodaeth Allweddol Am Y Cwrs

​​​​​Cod UCAS: L501

Man Astudio:
Campws Llandaf

Ysgol:
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd

Hyd y cwrs:
Tair blynedd llawn amser