Cronfa Fflach Canolfan Entrepreneuriaeth

​ ​​Flash Fund Logo

​​Ymgeisiwch am hyd at £250 i ddatblygu eich hun neu eich syniad.

Rydym yn cynnig cyfle gwych i chi ddatblygu fel gweithiwr llawrydd, cychwyn neu dyfu eich busnes, neu gymryd y cam nesaf tuag at yrfa entrepreneuraidd.

Mae Cronfa Fflach EntAct yn gronfa gystadleuol a fydd yn helpu i droi eich syniad busnes yn realiti neu fynd â sefydliad neu fusnes sydd eisoes yn bodoli i'r lefel nesaf! Mae’r ceisiadau’n agored i holl fyfyrwyr a graddedigion diweddar Met Caerdydd sydd wedi’u lleoli yn y DU nad ydynt wedi derbyn cyllid yn y gorffennol.

Gall y Gronfa Fflach gefnogi ystod o eitemau, cyhyd â'i fod yn rhywbeth a fydd yn amlwg yn eich helpu chi, eich busnes neu eich syniad i ddatblygu. Dyma enghreifftiau:

  • Cyfarpar

  • Deunyddiau marchnata neu gostau hysbysebu

  • Gweithgareddau ymchwil i'r farchnad

  • Cyrsiau i ddatblygu sgiliau penodol sy'n berthnasol i'ch busnes

  • Cyfleoedd profi masnach fel arddangosfeydd, stondinau marchnad a sioeau masnach

  • Cyfleoedd rhwydweithio fel cynadleddau, digwyddiadau ac aelodaeth o gyrff/sefydliadau proffesiynol

  • Cyngor ar nodau masnach neu ddiogelwch eiddo deallusol arall

I ymgeisio, gwnewch gais trwy CanolbwyntMet.

Bydd angen i chi lanlwytho Dogfen Fusnes Un Dudalen.

Dylai hyn fod tua 1 ochr o bapur A4 a dylai gynnwys digon o wybodaeth i ni ddeall eich busnes. Dydyn ni ddim yn disgwyl tudalen o destun, yn hytrach, gwnewch i’ch tudalen edrych yn ddiddorol. Os nad ydych chi wedi ysgrifennu tudalen debyg o’r blaen, dilynwch y canllawiau hyn ar yr edrychiad a'r canllawiau hyn ar beth i'w gynnwys. Dylai eich Dogfen Fusnes Un Dudalen fod yn rhywbeth sydd gennych wrth law rhag ofn y bydd rhywun am gael gwybod mwy am eich busnes. Dylai gynnwys:

  • Trosolwg o'ch busnes/syniad

  • Enw eich busnes a dolenni i unrhyw wefan/cyfrifon cyfryngau cymdeithasol

  • Eich cynulleidfa darged 

  • Pa gynnydd ydych chi wedi’i wneud hyd yn hyn

  • Beth fyddwch chi’n ei wneud nesaf

  • Beth sydd ei angen arnoch i gyflawni hyn


Gallwn dderbyn Dogfennau Word neu PDF.

Rydyn ni eisiau gweld ffyrdd creadigol ac arloesol o gyflwyno'ch syniad, felly gadewch i'ch dawn greadigol lifo ar y dudalen. Dyma gyfle i chi gyflwyno'ch syniad yn weledol gystal ag y gallwch chi!

Os oes angen help arnoch gyda hyn, beth am ddod i'n gweithdy​ ar y 25ain Ebrill?

Rheolau

Rhaid i'ch cais gynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • Eich enw (ac enw unrhyw un arall sy'n ymwneud â'r busnes)

  • Enw'r busnes neu’r fenter gymdeithasol

  • A ydych chi wedi dechrau masnachu eto ac, os ydych, ers pryd

  • Faint o arian rydych chi am gynnig amdano (uchafswm o £250)

  • Beth fyddwch chi’n defnyddio’r arian ar ei gyfer

  • Rhaid i'r cais fod yn Ddogfen Fusnes Un Dudalen

  • Rydym yn annog ceisiadau tîm, ac os oes o leiaf ddau aelod o’r tîm yn fyfyrwyr neu’n raddedigion cymwys o Met Caerdydd, byddwn yn dyblu eich Cronfa Fflach i £500.

  • Os yw’r eitem/gweithgarwch rydych chi am ei gyllido dros £250 ar gyfer unigolyn neu £500 ar gyfer tîm. Efallai y gallwn gynnig arian cyfatebol i chi, er enghraifft os yw’r eitem yn £300 gallem dalu £250 tuag ati a byddech chi’n cyfrannu’r £50 arall. Os ydych chi’n chwilio am arian cyfatebol ar gyfer eitem sy’n costio mwy, nodwch hynny yn eich cais.

  • Oni bai ei fod ar gyfer prototeipio neu brofi masnach, ni allwn ariannu cost stoc neu ddeunyddiau crai ar gyfer eich busnes. 

  • Rhaid i'r busnes fod yn gyfreithiol ac yn foesegol ac ni ddylai ddwyn anfri ar y Brifysgol.

  • Os byddwch chi'n llwyddo i sicrhau buddsoddiad y Gronfa Fflach, rhaid i chi hawlio/gwario'r arian heb fod yn hwyrach na 30 diwrnod o'r dyddiad y byddwch chi'n derbyn ein neges e-bost yn cadarnhau'r buddsoddiad.

  • Os ydych chi wedi ennill cyllid drwy’r Ganolfan Entrepreneuriaeth yn y gorffennol, nid ydych yn gymwys mwyach ar gyfer y Gronfa Fflach.

  • Mae’r Gronfa Fflach yn agored i unrhyw fyfyriwr Met Caerdydd sydd wedi’i leoli yn y DU ac unrhyw raddedig Met Caerdydd a astudiodd yn y DU a raddiodd yn 2023.  


Meini prawf beirniadu

Bydd eich cais yn cael ei farnu yn unol â'r meini prawf canlynol (gyda phwysoliad cyfartal ar gyfer pob un):

  • Eglurder gwerth buddsoddiad- mae angen i'ch cais ddangos yn glir sut y bydd y buddsoddiad o fudd i'ch busnes ac yn ei helpu i symud ymlaen.

  • Eglurder cais a syniad busnes- rhaid ysgrifennu'ch cais yn glir a rhaid egluro'ch syniad busnes mewn modd cryno sy'n hawdd ei ddeall.

  • Cywirdeb gwybodaeth ariannol a gwerth am arian- mae angen i'ch cais ddangos eich bod wedi ymchwilio i'ch costau yn briodol ac wedi ystyried gwerth am arian wrth edrych i mewn i gostau.

I ymgeisio, gwnewch gais trwy CanolbwyntMet.​

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â entrepreneurship@cardiffmet.ac.uk