Mae adborth effeithiol i fyfyrwyr ar eu cynnydd (adborth ffurfiannol) yn allweddol i'w
datblygiad fel dysgwyr, a gall adborth sain / fideo gynnig nifer o fanteision dros y ffurf
ysgrifenedig draddodiadol.
Gall fod yn fwy manwl a chefnogol na thestun, gydag ymdeimlad cryfach o gysylltiad
personol â'r tiwtor - mae'r llais yn offeryn cyfathrebu cyfoethocach o ran goslef ac
emosiwn.
Gellir hefyd gwrando ar adborth sain dro ar ôl tro, ac yn unrhyw le - gan ddefnyddio
dyfeisiau cludadwy fel iPods. Mae staff hefyd wedi ei chael hi'n broses bleserus, foddhaus
a hyblyg ar gyfer marcio gwaith.
Cafodd adborth sain ei arloesi a'i hyrwyddo i raddau helaeth gan Bob Rotheram trwy'r
prosiect ‘Sounds Good' a ariannwyd gan JISC ym Mhrifysgol Metropolitan Leeds
(2008). Cafodd y dystiolaeth a'r arweiniad a gynhyrchwyd gan y prosiect hwn eu bwydo i
mewn i brosiect Cymrodoriaeth Dysgu ac Addysgu a gynhaliwyd yn 2010.
Ers hynny, mae'r brifysgol wedi defnyddio adborth sain / fideo yn raddol ond yn sylweddol,
ac mae'r ymateb gan fyfyrwyr sy'n derbyn adborth clywedol yn galonogol iawn. Yn 2012
sefydlwyd cyfleuster bach yn Ystafell Gyfarfod Y Gyfarwyddiaeth Gwella Ansawdd
(QED). Yn y bôn, y nod yw darparu gofod tawel gyda set briodol o offer er mwyn hwyluso
staff sy'n dymuno cynhyrchu adborth sain / fideo.
Rôl QED yw annog a chefnogi ymlediad adborth sain (a fideo) yn y brifysgol trwy rannu
astudiaethau achos, adnoddau ar-lein, hyfforddi a hyrwyddo'r ystafell Adborth / Recordio.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am adborth Sain / Fideo, cysylltwch ag
Ade Clark - aclark@cardiffmet.ac.uk