Darpar Fyfyrwyr

​​​Gallwch archwilio’r ffyrdd y gallwn eich cefnogi gyda’ch gyrfa pan fyddwch chi’n ymuno â Met Caerdydd.

Pan fyddwch chi’n dewis eich prifysgol a’ch cwrs gradd, mae’n mor bwysig eich bod yn teimlo’n hyderus y bydd eich dewis yn arwain at ragolygon da yn y dyfodol.

Dyna pam mae ein Gwasanaeth Gyrfaoedd wedi ymrwymo i ddatblygu graddedigion hynod gyflogadwy a pharod ar gyfer y diwydiant.


Sut y Gallwn Ni Helpu

Er bod gradd yn bwysig, nid yw gradd ar ei phen ei hun yn aml yn ddigon ar gyfer marchnad swyddi hynod gystadleuol.

Mae angen i fyfyrwyr ddangos eu bod wedi datblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u profiad drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau y tu allan i’w hastudiaethau.

Efallai bod gennych chi rai gyrfaoedd mewn golwg, neu efallai nad oes gennych chi syniad o gwbl. Cyn i chi allu dechrau canolbwyntio a gwneud penderfyniadau, mae’n syniad da treulio peth amser yn ymchwilio. Gallwn ni helpu gyda hynny!


Siapio Eich Dyfodol: datblygu sgiliau cyflogadwyedd allweddol

Mae’r rhan fwyaf swydd ddisgrifiadau yn cynnwys rhestr benodol o sgiliau, priodoleddau a chryfderau sydd eu hangen ar gyfer y rôl. Mae gennych chi’r cyfle i ddatblygu’r sgiliau hyn yn ystod eich astudiaethau, fel y gallwch fod yn barod i weithio cyn i chi raddio.

P’un a ydych chi’n meddwl am eich gyrfa, wedi cael rhai syniadau ond yn methu dechrau arni, neu angen help i ymgeisio am eich swydd ddelfrydol, rydym yma i’ch helpu.

Mae ein platfform Siapio eich Dyfodol yn siop un stop ar gyfer mynediad at weithgareddau ac adnoddau a fydd yn eich helpu i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd allweddol sy’n dangos i gyflogwyr eich bod yn barod ar gyfer y byd gwaith.


​Apwyntiadau 1-i-1

Mae ein staff arbenigol yn cynnig cyngor diduedd a gall eich cefnogi gydag opsiynau gyda’ch gradd, cynllunio gyrfa, chwilio am swydd, ysgrifennu CV, paratoi cyfweliadau, a llawer mwy.

Os oes gennych rwystrau ychwanegol i gyflogaeth, fel anabledd, cyflwr iechyd meddwl sydd wedi cael diagnosis neu â chyfrifoldebau gofalu, gallwch hefyd elwa o gefnogaeth gyrfaoedd sydd wedi’i deilwra’n well.

P’un a ydych chi’n dechrau meddwl am eich dyfodol neu os oes gennych chi rai syniadau clir, gallwn ni eich helpu.


Digwyddiadau

Trwy gydol y flwyddyn, gallwch archebu lle ar ddigwyddiadau sy’n canolbwyntio ar gynllunio gyrfaoedd a datblygu sgiliau cyflogadwyedd.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Ffeiriau Gyrfaoedd
  • Fforymau’r Diwydiant
  • Sesiynau Deall Gyrfaoedd
  • Darlithoedd Gwadd
  • Gweminarau Sgiliau Ymarferol
  • Sesiynau sgiliau cyflogwr


Gyrfaoedd yn yr Ystafell ddosbarth

Rydym yn dod â sgiliau cyflogadwyedd i’ch ystafell ddosbarth. Fe fyddwn yn dod i’ch darlithfeydd i roi sgwrs a byddwn yn eich gwahodd i sgyrsiau gan gyflogwyr sy’n berthnasol i’ch cwrs.

Rydym hefyd yn rhan o ddyluniad eich cwrs, gan sicrhau bod gennych y cyfle gorau i adael y ​Brifysgol gyda’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ffynnu yn y farchnad swyddi i raddedigion.