Ynglŷn â Ni>Gwasanaeth Gyrfaoedd>Myfyrwyr Presennol

Myfyrwyr Presennol

​​​​​​​Trefnwch apwyntiad, ewch i ddigwyddiad, a chael mynediad at adnoddau ar-lein.

Nid yw byth yn rhy fuan i ddechrau meddwl am eich camau nesaf ar ôl i chi gwblhau eich cwrs, p'un a yw hynny’n astudio ymhellach neu fynd i'r byd gwaith.

Gallwn eich helpu i archwilio'ch opsiynau, datblygu eich sgiliau cyflogadwyedd a pharatoi ysgrifennu ceisiadau am swyddi.

Os oes gennych rwystrau ychwanegol at waith, fel anabledd, cyflwr iechyd meddwl sydd wedi'i ddiagnosio neu â chyfrifoldebau gofalu, gallwch hefyd elwa o gefnogaeth gyrfaoedd sydd wedi'i deilwra.


Trefnu Apwyntiad

Rydym yn cynnig apwyntiad 1 i 1 anffurfiol, diduedd a chyfrinachol 20 munud, y gellir ei gynnal wyneb yn wyneb neu ar-lein trwy Teams​.

P'un a ydych chi'n dechrau meddwl am eich dyfodol neu os oes gennych chi rai syniadau clir gallwn ni eich helpu.

Gallwch drefnu apwyntiad gydag aelod o'r tîm drwy ddefnyddio MetHub.

Dewiswch y pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo i ddechrau arni:

Trefnu apwyntiad ar MetHub


​Siapio Eich Dyfodol: datblygu sgiliau cyflogadwyedd allweddol

Mae'r rhan fwyaf o ddisgrifiadau swydd yn cynnwys rhestr benodol o sgiliau, priodoleddau a chryfderau sydd eu hangen i ymgymryd â'r rôl. Mae gennych chi'r cyfle i ddatblygu'r sgiliau hyn yn ystod eich astudiaethau, fel y gallwch fod yn barod i weithio cyn i chi raddio.

P'un a ydych chi yn meddwl am eich gyrfa, wedi cael rhai syniadau ond yn methu dechrau arni, neu angen help i ymgeisio am eich swydd ddelfrydol, rydym yma i'ch helpu.

Mae ein platfform Siapio eich Dyfodol yn siop un stop ar gyfer cyrchu gweithgareddau ac adnoddau a fydd yn eich helpu i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd allweddol sy'n dangos i gyflogwyr eich bod yn barod ar gyfer byd gwaith.

Dysgwch fwy am Siapio Eich Dyfodol

Mewngofnodwch i wefan Siapio eich Dyfodol


​​Cwblhau e-Fodiwl

Nod ein e-Fodiwl gyrfaoedd yw eich helpu i ddatblygu eich sgiliau cyflogadwyedd a dechrau cynllunio ar gyfer y dyfodol.

Ennill sgiliau a gwybodaeth sy'n drosglwyddadwy i yrfaoedd proffesiynol a graddedigion.

Gallwch gyrchu ein e-Modiwl gyrfaoedd ar Moodle


Mynychu Ddigwyddiadau

Gallwch fynychu digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn, yn ystod a thu allan i'r tymor.

Mae ein digwyddiadau yn gyfleoedd i:

  • Ymgysylltu â chyn-fyfyrwyr a chyflogwyr
  • Dysgu am swyddi i raddedigion, interniaethau a chyfleoedd am leoliad
  • Darganfod eich gyrfa gyda sesiynau sgiliau, sgyrsiau, a gweithdai

I gofrestru ar gyfer digwyddiad ar MetHub


Chwilio am swydd, interniaeth neu leoliad

Gall chwilio am waith fod yn heriol, ond y newyddion da yw bod cyflogwyr yn aml yn awyddus i recriwtio darpar raddedigion i'w cyfleoedd gwirfoddoli, rhan-amser, interniaeth a chyfleoedd i raddedigion.

Cyn gynted ag y byddwch yn derbyn eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair, gallwch chwilio am gyfle ar MetHub.

I bori ein swyddi gwag presennol ar MetHub


Cyrchu Adnoddau Ar-lein

Porwch adnoddau gyrfaoedd ar-lein, gan gynnwys:

Canllawiau ymarferol

Sgiliau cyfweld: Shortlist.Me

Perffeithewch eich sgiliau cyfweld drwy ymarfer eich techneg ar ein platfform ymarfer cyfweld fideo.

Mewngofnodwch i Shortlist.Me