Ynglŷn â Ni>Gwasanaeth Gyrfaoedd>Myfyrwyr Rhyngwladol

Myfyrwyr Rhyngwladol

P'un a ydych yn chwilio am waith rhan-amser yn ystod eich astudiaethau, neu'n gobeithio aros yn y DU a gweithio ar ôl i chi raddio, gallwn helpu. Mae gennym dîm bach o weithwyr proffesiynol sy'n darparu cymorth gyrfaoedd pwrpasol i'n myfyrwyr Rhyngwladol.

Rydym yn gweithio'n agos gyda'r Tîm Ymgysylltu Byd-eang i'ch cefnogi pan fyddwch yn cyrraedd y DU am y tro cyntaf a gallwn egluro arferion gwaith y DU yn gynnar yn eich taith yn y Brifysgol.

Gall myfyrwyr presennol a graddedigion gael mynediad at gyngor gyrfaoedd gwerthfawr, gan gynnwys popeth sydd angen i chi ei wybod am weithio yn y DU, ar ein platfform ‘Siapio Eich Dyfodol':

Sut y gallwn eich cefnogi chi

Gallwn eich helpu i:

  • Gydnabod eich sgiliau fel myfyriwr rhyngwladol
  • Dod o hyd i waith rhan-amser, interniaethau/lleoliadau a phrofiad gwaith
  • Gwneud cais am gyfleoedd gwaith yn y DU a’n rhyngwladol
  • Cyrchu adolygiadau CV a chyngor ar gais am swydd
  • Cyrchu cynghorion cyfweliad

Mae gennym hefyd adnoddau i’ch helpu i:

  • Ddod o hyd i gyfleoedd gwaith
  • Dysgu beth i'w ddisgwyl o weithio yn y Deyrnas Unedig 
  • Cynyddu eich rhagolygon gyrfa yn y dyfodol

I ddechrau arni, lawrlwythwch ein Canllaw Cymorth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd i fyfyrwyr rhyngwladol.​​

Student Circus - Chwilio am swyddi i fyfyrwyr rhyngwladol

Mae Student Circus yn borth chwilio am swyddi ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol yn y DU sydd ar fisa myfyriwr ar hyn o bryd. Maent yn hyrwyddo cyfleoedd gwaith llawn amser gan gwmnïau'r DU sydd â thrwydded nawdd fisa Gweithiwr Medrus ac felly byddent yn ystyried noddi fisa Gweithiwr Medrus.

Maent hefyd yn hyrwyddo Interniaethau gan bob cyflogwr ni waeth a oes ganddynt drwydded nawdd fisa Gweithiwr Medrus ai peidio.

Ar ôl i chi gofrestru fel myfyriwr, gallwch gofrestru gyda Student Circus​ gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost Met Caerdydd.


Tîm Cynghori Myfyrwyr Byd-eang

​Rydym hefyd yn gweithio mewn cydweithrediad agos â'n Tîm Cynghori Myfyrwyr Byd-eang, a fydd yn gallu eich cefnogi gyda'ch holl ymholiadau sy'n gysylltiedig â fisa a gallwn eich cefnogi ymhellach i ddod i arfer â bywyd yn y DU ac yn y Brifysgol.

Gallwch siarad â chynghorydd yn y Gwasanaeth Cynghori Myfyrwyr Byd-eang drwy gysylltu â: intstudentadvice@cardiffmet.ac.uk